Gwasanaeth Cynghori
Cefnogaeth wedi’i deilwra i’ch cynorthwyo i gyflawni eich nodau
Mae'r Gwasanaeth Cynghori yn darparu cyngor arbenigol annibynnol, cyfrinachol ac wedi’i deilwra ar gyfer:
Ein nod yw sicrhau eich bod yn:
- elwa o gefnogaeth busnes a/neu gyngor technegol, wedi'i deilwra i anghenion eich busnes
- lleihau costau trwy gynyddu effeithlonrwydd ar draws pob maes o'ch busnes
- meincnodi eich perfformiad ac yn gweithio tuag at gynnydd a thwf
- adnabod meysydd i wella a chanfod atebion i broblemau
Beth am siarad busnes… Paratowch nawr ar gyfer 2022
- Cyngor un-i-un:
wedi’i ariannu 80% hyd at uchafswm o €1500 (ewro) am bob achos o gyngor - Cyngor grŵp:
wedi’i ariannu’n llawn hyd at uchafswm o €1500 (ewro) i bob aelod o’r grŵp. Gall rhwng tri ac wyth o bobl ymgeisio ar gyfer cyngor technegol fel grŵp a dau berson yn achos menter ar y cyd. Bydd un adroddiad yn cael ei gynhyrchu ai rannu gyda holl aelodau’r grŵp gan eich ymghorydd ynghyd â Chynllun Gweithredu unigol i bob aelod - Gall busnesau cymwys ymgeisio am hyd at dri achos gwahanol o gyngor wedi’i deilwra drwy’r gwasanaeth cynghori.
- Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n cael mynediad at y gwasanaeth cynghori fel unigolyn neu fel rhan o grŵp fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.
Ydych chi’n barod i ymgeisio?
Cyn gwneud cais ar gyfer cyngor cynllunio busnes neu gyngor technegol sydd ar gael fel rhan o Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, bydd angen i chi:
• gofrestru gyda Cyswllt Ffermio - bydd angen i bob busnes sy’n gwneud cais ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori fod wedi derbyn e-bost neu lythyr gan Cyswllt Ffermio’n cadarnhau eu bod wedi cofrestru.
• wirio eich cymhwysedd ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori.
Categorïau cynllunio busnes a thechnegol
…eich cynorthwyo i gyflawni eich nodau busnes a’ch amcanion technegol
Categori busnes (wedi'i gadarnhau wrth gofrestru) |
Gwasanaeth Cynghori - cefnogaeth sydd ar gael |
---|---|
|
Tri achos o gefnogaeth cynghori dros gyfnod Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Gellir cael mynediad at gyngor cynllunio busnes hyd at 3 gwaith gyda’r ail a thrydydd achosion yn defnyddio ffigurau o flwyddyn ariannol wahanol i’r data a ddefnyddiwyd mewn cynlluniau busnes blaenorol. |
|
Un achos o gefnogaeth cynllunio busnes dros gyfnod Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. |
Mae’r linciau isod (o dan 'Categorïau Cyngor') yn amlinellu’r categorïau cyngor busnes a chefnogaeth dechnegol sydd ar gael fel rhan o’r Gwasanaeth Cynghori. Gobeithio y bydd y disgrifiadau byr yn eich galluogi i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn a pha gategori/categorïau fyddai o fwyaf o fudd i’ch busnes, ond os oes angen gwybodaeth neu arweiniad pellach, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol.
Sut i wneud cais
I ymgeisio a chymryd mantais o’r cyngor sydd ar gael trwy’r gwasanaeth cynghori, cysylltwch â’ch Swyddog Datlygu lleol heddiw neu cysylltwch â ni ar:
08456 000 813 / cyswlltffermio@menterabusnes.co.uk / Facebook.com/FarmingConnect / @FarmingConnect
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Mae Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar agor rhwng 9am a 5pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, ac eithrio wyliau cyhoeddus.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach am Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.
Gall busnes dderbyn cyngor ynglŷn ag amrediad o faterion penodol hyd at uchafswm o dair gwaith, gan ddibynnu ar gymhwysedd, trwy gydol oes rhaglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.
Mae gan fusnesau 9 mis i gwblhau cyngor un-i-un a 12 mis i gwblhau cyngor grŵp, oni bai bod cais y grŵp yn cael ei gymeradwyo ar ôl 1 Chwefror 2022. Yn yr achos hwn, bydd y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r cyngor yn 31.01.2023.