Busnes

Farms in a valley
0
Nifer y busnesau a gefnogwyd gyda chyngor arallgyfeirio
0
Nifer yr unigolion a gwblhaodd hyfforddiant busnes
0
Nifer y mentrau ar y cyd a gefnogwyd
Trawsnewid busnesau amaethyddol ledled Cymru. Mae Cyswllt Ffermio yn darparu cefnogaeth, cyngor, arweiniad a hyfforddiant i fusnesau yng Nghymru, ar sail un-i-un yn ogystal â fel grŵp. Mae nifer o’r gwasanaethau wedi’u hariannu’n llawn, ac eraill yn gymorthdaledig hyd at 80% ar gyfer busnesau cymwys.

Tystebau:

Hannah Phillips
"Mae'r hyfforddiant iechyd anifeiliaid rydw i wedi'i wneud drwy Cyswllt Ffermio nid yn unig wedi helpu'r fferm i gydymffurfio â gofynion First Milk a Tesco, ond rydym bellach yn edrych ar bopeth ar y fferm trwy bersbectif sydd wedi'i dargedu mwy ac mae canfod yn gynnar yn helpu rheoli buchesi yn fwy effeithlon."
Hannah Phillips
Arberth, Sir Benfro
Julie Thomas
“Unwaith y bydd ffermwyr yn sylweddoli y bydd hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn eu helpu i redeg eu busnes yn fwy effeithiol, mae eu cwrs cyntaf un yn aml yn eu gosod ar lwybr dysgu gydol oes, mae eu swildod yn diflannu ac mae eu hyder yn cynyddu.”
Julie Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr Simply the Best Training Consultancy
Nadine Evans
“Diolch i weithio ochr yn ochr â’r teulu hynod brofiadol hwn ynghyd â phopeth rydw i wedi’i ddysgu a byddaf yn parhau i ddysgu trwy Cyswllt Ffermio, rwy’n magu fy hyder yn raddol ac yn cael llawer mwy o wybodaeth a sgiliau ffermio.”
Nadine Evans
Sir Fynwy
Sophia Pugh
"Diolch i gael mentora gan wenynwr arobryn, mae gen i'r hyder a'r sgiliau i wybod fy mod i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu ar gyfer fy ngwenyn du Cymreig a'u lles."
Sophia Pugh
Llandrindod
Sarah
“Fe wnes i droi at Cyswllt Ffermio cyn i mi blannu fy rhes gyntaf, felly rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi gallu cael cyngor arbenigol cyn i mi wneud gormod o gamgymeriadau costus sy’n cymryd gormod o amser.”
Sarah Evans
Watery Lane Produce
Scott Robinson
“Mae’n gwneud synnwyr masnachol da i gymryd mantais o’r holl gefnogaeth ac arweiniad sydd ar gael, a gyda gwasanaethau Cyswllt Ffermio naill ai wedi eu hariannu yn llawn neu gyda chymhorthdal o hyd at 80%, buaswn yn cynghori unrhyw un i godi’r ffôn i’w swyddog datblygu lleol heddiw.”
Scott Robinson
Sir Benfro
Kim Brickell
“Mae'r ystod o wasanaethau cymorth sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, gan gynnwys gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid, digwyddiadau diwrnod agored ac ystod eang iawn o bynciau sy’n gysylltiedig â ffermio rydw i wedi'u hastudio trwy e-ddysgu wedi rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd i mi yr wyf yn eu defnyddio bob dydd.”
Kim Brickell
Rheolwr Fferm Folly Farm, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
Bryn Perry
“Roeddwn i’n ddiolchgar iawn am y profiadau a gefais gan Academi Amaeth Cyswllt Ffermio a’r cymorth pellach i sefydlu fel tenant cenhedlaeth gyntaf a newydd-ddyfodiad ar un o Ffermydd Cyngor Sir Benfro. A bu’r grŵp Agrisgôp yn werthfawr yn rhoi hwb i’n dysgu a’n rhwydweithio.”
Bryn Perry
Hwlffordd, Sir Benfro
Edith
“Mae Cyswllt Ffermio wedi caniatáu i mi a fy nheulu ddatblygu hyder, sgiliau a rhwydweithiau newydd i’n helpu i greu ein menter twristiaeth newydd, gan ganiatáu i ni gynyddu ein trosiant o ddim i gyfanswm anhygoel o £150,000 yn ystod ein blwyddyn gyntaf wrth y gwaith.”
Edith Farnworth
Gelli Gandryll
Tracey Price
“Mae fy swyddog datblygu lleol wedi bod yn hynod gefnogol, gan fy annog hefyd i wneud cais am gymysgedd o gyrsiau hyfforddi cysylltiedig â busnes a TGCh â chymhorthdal, sydd wedi fy ngalluogi nid yn unig i ddatblygu fy musnes fferm ond hefyd wedi rhoi’r sgiliau a’r hyder i mi sefydlu a thyfu menter fferm, twristiaeth a llety lwyddiannus, hefyd.”
Tracy Price
Llanidloes
Ernie
“Mae darpariaeth hyfforddiant â chymhorthdal Cyswllt Ffermio, sydd wedi’i thargedu at y rhai sy’n gweithio o fewn y diwydiant ffermio ar lawr gwlad, wedi ychwanegu llawer iawn at fy set sgiliau, gan roi sgiliau a gwybodaeth hanfodol rwy’n eu defnyddio bob dydd. Diolch i Cyswllt Ffermio, rydw i bellach wedi ennill set werthfawr o sgiliau newydd a fydd yn helpu nid yn unig wrth redeg y busnes o ddydd i ddydd, ond o ran cyfeiriad y busnes yn y dyfodol.”
Ernie Richards
Cleirwy, Powys
Bryn Perry
“Yn hollbwysig, cawsom lawer iawn o gymorth gan Cyswllt Ffermio, ac fe wnaeth hynny fy helpu i ddatblygu fy sgiliau fel person busnes a ffermwr defaid, a chawsom hefyd gymorth trwy’r rhaglen Mentro, a’n galluogodd i sefydlu ein menter gyntaf ar y cyd gyda’r cynhyrchwyr llaeth defaid adnabyddus Nick a Wendy Holtman, sy’n berchen ar Defaid Dolwerdd yng Nghrymych.”
Bryn Perry
Hwlffordd, Sir Benfro
Gerallt Hughes
“Mae hyfforddiant Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r hyder i mi wybod fy mod wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am arfer gorau, a’m bod yn ymgymryd â thasgau bob dydd mor effeithlon a diogel ag y gallaf, gan roi mwy o fodlonrwydd i mi ac arbed arian i’r busnes.”
Gerallt Hughes
Caernarfon
Marged Simons
“Mae pob cwrs hyfforddiant yr wyf wedi ei ddilyn wedi ei anelu ar y lefel gywir, ac rwyf wedi cael sgiliau busnes a thechnegol ymarferol yr wyf yn eu defnyddio bob dydd.”
Marged Simons
Arberth
Cheryl Reeves
“Gan fy mod yn newydd-ddyfodiad i amaethyddiaeth, roedd cyrsiau busnes Cyswllt Ffermio wedi rhoi cyfoeth o wybodaeth i mi, ac o ganlyniad, rwyf wedi dysgu ystod eang o sgiliau newydd, gan roi’r hyder i mi arallgyfeirio a datblygu menter newydd ar y fferm.”
Cheryl Reeves
Bangor Is-coed
Steve Lewis
“Mewn ychydig fisoedd yn unig, mae’r hyfforddiant wedi rhoi cyfeiriad pendant o’r newydd i mi, gyda chynllun busnes a chynllun ariannol yr wyf fi’n eu deall, strategaeth cyfryngau cymdeithasol a marchnata, ynghyd â brand unigryw sy’n amlwg yn gredadwy ac yn apelio at brynwyr.”
Steve Lewis
Hwlffordd
Will
“Mae bod yn rhan o’r rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth wedi fy ngalluogi i ddysgu o fusnesau fferm llwyddiannus eraill, gan roi’r hyder i mi roi’r hyn yr wyf wedi’i ddysgu ar waith. Roedd gweld sut roedd ffermwyr eraill yn defnyddio’r byd natur ar gyfer gwell canlyniadau ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol wedi fy ysbrydoli i newid nifer o’r systemau sydd gen i gartref.”
Will Sawday
Y Gelli Gandryll
Beccie Williams
“Rydw i wedi bod ar lawer o gyrsiau hyfforddi, gan gynnwys rheoli iechyd a lles dofednod, ac mae’r rhain wedi rhoi’r sgiliau, gwybodaeth a’r hyder i mi redeg menter newydd fel hon, ac rydw i bellach yn rhoi’r holl bethau wnes i eu dysgu ar waith bob dydd.”
Beccie Williams
Llanbister, Llandrindod
Iorwerth Williams
"Mae pethau fel Cyswllt Ffermio ar gael yna i roi cyngor ac mae yna raglenni fel Rhagori ar Bori. Dw i ‘di gweld newid mawr mewn canlyniadau ffermydd, o ganlyniad, ‘swn i’n dweud bron a bod o ganlyniad uniongyrchol i Rhagori ar Bori."
Iorwerth Williams
Cyfrifydd siartredig, Porthmadog
Agrisgop
“Roedd y cyfarfodydd Agrisgôp dros Zoom yn achubiaeth i lawer ohonom – yn gysur, yn cynnig cyngor ymarferol a chefnogaeth pan oedd fwyaf ei angen arnom.”
Janet Davies
Llanteg
Andy Matthews
"Rydym wedi defnyddio llawer o’r grantiau sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio gyda’r samplu pridd a mentora ac mae wir wedi helpu ein busnes. Rwy’n annog pawb i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn oherwydd dyna beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng cael busnes llwyddiannus a busnes aflwyddiannus."
Andy Matthews
Aberbran Fawr, Aberhonddu
Gillian
“Gan fod pris gwlân yn dibynnu’n llwyr ar frid y ddafad, diolch i’r cymorth ac arweiniad a ariennir yn llawn a gafwyd gan Agrisgôp, rwy’n credu fy mod i’n symud y busnes gwlân ymlaen mewn cyfeiriad mwy cynaliadwy ac mae’r teulu cyfan yn edrych ymlaen i’r dyfodol yn llawn cyffro."
Gillian Williams
Tywyn
Linda
“Yn bwysicaf oll, yn gynnar yn ystod y broses, fe wnaethom ni ymgeisio am gyngor mentora un-i-un wedi'i ariannu'n llawn ynghylch cynllunio ar gyfer olyniaeth, a hyn sydd i gyfrif am y rheswm bod Lydia ac Ed bellach yn gyd-berchnogion balch menter pod glampio newydd, a groesawodd ei ymwelwyr cyntaf ar ddiwedd y cyfnod clo y mis hwn.”
Linda Davies
Caerffili
business
“Erbyn hyn mae gen i well dealltwriaeth o lawer ar sut i fesur, ac yn sgil hynny, gwella cynhyrchiant fy musnes. Mae’n hollbwysig deall a defnyddio cyfrifon yn ddeallus.”
Jo Clarke
Ceredigion
Tom Evans
“Rydw i'n credu'n gryf mewn meincnodi ac mae gallu cymharu ein tyfiant gydag eraill o fudd,” dywedodd. “Fy nod i yw cynyddu ein cyfradd twf fel ei bod yn cyd-fynd â chyfraddau cyfranogwyr eraill.”
Tom Evans
Pendre, Aberystwyth
marchnata
“Dyma un o weminarau gorau Cyswllt Ffermio rydym wedi’u mynychu. Cyflwyniad gafaelgar iawn a wnaeth esbonio’r pwnc yn arbennig o dda i ddechreuwr fel fi. Roedd Sam yn wybodus iawn am y pwnc ac roedd ganddo sawl awgrym defnyddiol iawn. Diolch"
Mynychwr gweminar
Logos a Brandio ar gyfer Busnes
Ifan Jones
"Dechreuais weithredu rhai o'r argymhellion ynghylch rheoli glaswelltir ac effeithlonrwydd dŵr yn y cynllun busnes. Bu'r cyngor arbenigol y llwyddais i'w gael trwy Gyswllt Ffermio yn gyngor o'r radd flaenaf, a rhoddodd yr hyder i mi fwrw ymlaen gyda fy nghais am SPG a buddsoddi yn nyfodol y fferm.”
Ifan Jones
Llanrhaedr ym Mochnant, Powys
Jonathon Scott
“Mae hwn yn waith sy'n mynd rhagddo o hyd, ond diolch i'r cynllun busnes y llwyddom i'w sicrhau trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio a chymorth parhaus Neil, rydym mewn sefyllfa llawer cryfach i wynebu'r dyfodol yn obeithiol."
Jonathan Scott
Wrecsam
Cheryl Reeves
“Mae Cyswllt Ffermio wedi ein cynorthwyo i wneud ein busnes yn fwy effeithlon, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy proffidiol, ac ni fyddem wedi cyrraedd lle’r ydym ni heddiw heb gefnogaeth mor arbennig a pharhaus.”
Cheryl Reeves
Is-coed
Gwion Jones
“Dysgodd un o’r cyrsiau hyfforddiant i mi sut i ddeall a defnyddio fy nghyfrifon yn effeithiol, sydd wedi fy ngalluogi i ganfod meysydd lle mae angen gwneud arbedion a chynyddu lefelau elw, a gallai hynny fod yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y busnes at y dyfodol yn dilyn Brexit.”
Gwion Jones
Machynlleth
Tom Rees
"Mae meincnodi yn gallu eich annog i wneud mwy a mwy, a byddem yn cwestiynu unrhyw un sy’n rhedeg busnes os nad ydynt yn meincnodi yn erbyn busnesau eraill".
Tom Rees
Dudwell Farm, Sir Benfro

| Astudiaethau Achos
Veg growers use Farming Connect to plug gaps in knowledge to develop business
13 Mawrth 2024 Mae angen dewrder a gweledigaeth i ail-forgeisio’r cartref teuluol i brynu…
| Podlediadau
Rhifyn 97- Diweddariad Ein Ffermydd: Tyfu yng Nghymru - Rhan 3. Ymestyn y tymor cynhyrchu tomatos ar gyfer cadwyn gyflenwi ddosbarthu gyfanwerthol
Mae Katherine a Dave Langton, Fferm Langtons, Llangoedmor, Aberteifi yn canolbwyntio ar ymestyn…
| Podlediadau
Rhifyn 96- Diweddariad Ein Ffermydd: Dewch i dyfu yng Nghymru - Rhan 2. Dulliau gorau ar gyfer sefydlu menter garddwriaeth pwmpen dewis eich hun
Mae Laura Pollock, Lower House Farm wedi archwilio’r dulliau gorau ar gyfer sefydlu menter…
| Podlediadau
Rhifyn 95- Diweddariad Ein Ffermydd: Tyfu yng Nghymru - Rhan 1. Treialu technegau rhyng-gnydio codlysiau-grawnfwyd ar gyfer cynhyrchu bwyd
Yn y bennod fer hon, bydd swyddog Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, Hannah Norman, yn cael cwmni Alex…
| Astudiaethau Achos
Academi Iau Cyswllt Ffermio “yn rhagori ar holl ddisgwyliadau” ffermwr blodau
08 Mawrth 2024 O gynhyrchu syniadau newydd ar gyfer ei busnes blodau a blodeuwriaeth ei hun…
| Newyddion
Ffermwyr yn cofrestru ar gyfer cymorth gyda mesur ôl-troed carbon ar ôl dosbarthiadau meistr Cyswllt Ffermio
07 Mawrth 2023   Mae ffermwyr ledled Cymru wedi cael eu hysbrydoli i geisio cymorth i fesur…

Events

20 Maw 2024
WEBINAR: Ammonia- the issue and how to limit emissions from farming practices
Ammonia- the issue and how to limit emissions from...
21 Maw 2024
Horticulture: Scaling up production for a public sector supply chain
Crickhowell
Supplying food into public sector outlets such as schools...
21 Maw 2024
Bovine Viral Diarrhoea (BVD) Workshop
Bryngwyn, Raglan
Workshop attendees will learn about the clinical signs,...
Fwy o Ddigwyddiadau