Brexit

Brexit (1)

A yw eich busnes yn barod ar gyfer Brexit?

Beth bynnag fo ar y gorwel, gall Cyswllt Ffermio eich cynorthwyo i ddiogelu eich busnes at y dyfodol.

Mae cyfleoedd a heriau newydd i ddod. Nid yw aros yn llonydd yn opsiwn os ydych chi eisiau i’ch busnes dyfu a ffynnu mewn hinsawdd economaidd a gwleidyddol sy’n newid yn barhaus.

Gyda’n cymorth ni, gallwch chi a’ch busnes gymryd y camau angenrheidiol i fod yn ‘barod ar gyfer y dyfodol’.

  • gosod nodau realistig i’ch cynorthwyo i redeg busnes gwydn, proffesiynol a chynaliadwy
  • defnyddio ein hadnoddau ‘meincnodi; i’ch cynorthwyo i asesu sefyllfa bresennol eich busnes a’r hyn y dylech anelu ato

Pan fyddwch chi’n cyrraedd y nodau hynny ac yn cyflawni’r targedau, byddwn yn eich cynorthwyo i’w diweddaru, i helpu eich busnes i dyfu a ffynnu.

Cofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio i fanteisio ar ystod eang o gefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant, wedi’i deilwra i’ch gofynion personol a’ch busnes.

Gyda’n cymorth ni, gallwch…

  • gynyddu allbynnau ac effeithlonrwydd ar draws pob maes gweithredol drwy gynllunio busnes a chynllunio ariannol
  • sicrhau mynediad at gefnogaeth fusnes a/neu gyngor technegol, wedi’i deilwra i ofynion eich busnes
  • meincnodi eich perfformiad, gosod Dangosyddion Perfformiad Allweddol a gweithio tuag at gynnydd a thwf
  • nodi meysydd i’w gwella a chanfod atebion i broblemau trwy ein rhaglen trosglwyddo gwybodaeth/rhwydwaith arddangos, mentora un i un a chymorthfeydd neu glinigau’n ymwneud â sectorau penodol
  • datblygu sgiliau busnes ac ymarferol drwy ein rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus/dysgu gydol oes sy’n cynnwys hyfforddiant iechyd a lles anifeiliaid a sgiliau TG
  • cadw gwybodaeth gyfredol ynglŷn â’r arloesedd diweddaraf mewn technoleg drwy ddatblygiadau o fewn y diwydiant a’r prosiectau ymchwil diweddaraf

Am ragor o fanylion ynglŷn â sut all Cyswllt Ffermio gynnig cefnogaeth, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol heddiw.


Gellir hefyd cael mynediad at gefnogaeth ac arweiniad pellach drwy’r canlynol:

  • ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ yw’r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017 sy’n amlinellu’r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer sicrhau’r canlyniad gorau posibl i Gymru yn dilyn Brexit.
  • Mae ‘Paratoi Cymru’’ yn ffynhonnell o arweiniad ar gyfer pobl Cymru ynglŷn â’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i baratoi ar gyfer effaith sylweddol Brexit ‘heb fargen’. Mae’n darparu cyngor ar gyfer trigolion, sefydliadau a sectorau ar draws Cymru ynglŷn â’r camau sydd angen eu cymryd i baratoi ar gyfer y canlyniad hwn.
  • AHDB - darparu cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â Brexit.
  • Busnes Cymru - gwefan newydd a grëwyd yn arbennig i helpu busnesau baratoi ar gyfer Brexit.
  • Amaethyddiaeth (Cymru) Papur Gwyn - ymgynghoriad ar y fframwaith deddfwriaethol er mwyn cefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru.
  • Mae Defra wedi cyhoeddi gwybodaeth ar gyflogi gweithwyr tymhorol ar ôl i'r DU adael yr UE.
  • Cyfnod Pontio’r DU - Darparu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y rheolau newydd.
  • Mae gan Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd ganllawiau ar gyfer busnesau sy’n delio â bwyd neu bwyd anifeiliaid.
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am y canllawiau diweddaraf ar allforio neu symud anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid i’r UE neu Gogledd Iwerddon.