Amdanom ni

Mae Cyswllt Ffermio yn un o bedwar newydd o fewn Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2025, sy’n canolbwyntio buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar adfywio cymunedau gwledig a darparu cefnogaeth ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth yng Nghymru

Mae Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2025 yn rhaglen 11 mlynedd sy wedi cael ei chyllido gan Llywodraeth Cymru o dan Gronfa Amaethyddiaeth. Mae’n anelu at wella gwytnwch a hybu newid trawsffurfiol mewn amaeth, coedwigaeth a chymunedau gwledig. Mae yn cefnogi amrediad eang o weithgareddau fydd yn: gwella’r elfen gystadleuol yn y sector amaeth a choedwigaeth diogelu a chyfoethogi’r amgylchedd gwledig meithrin busnesau cystadleuol a chynaliadwy a chymunedau gwledig sy’n ffynnu.

Mae rhaglen Cyswllt Ffermio yn cefnogi datblygiad sector diwydiannau’r tir mwy proffesiynol, proffidiol a gwydn. Mae yn cynnwys rhaglen trosglwyddo gwybodaeth, arloesedd a gwasanaethau cynghori integredig sydd wedi eu llunio i ddarparu gwell cynaliadwyedd, mwy o gystadleuaeth a pherfformiad amgylcheddol.

Mae wedi integreiddio gyda phecynnau cefnogi busnes a gweithgareddau eraill Llywodraeth Cymru gan gynnwys Busnes Cymru a Cymru Effeithlon. Mae hefyd yn ffurfio’r prif strwythur ar gyfer darparu pecyn cyflawn o drosglwyddo gwybodaeth, arloesedd a gwasanaethau cynghori sy'n targedu'r busnesau ffermio a choedwigaeth.

Mae’r rhaglen yn gwella cysylltiadau gydag ymchwil a datblygiad Prifysgol arloesol ynghyd ag Addysg Bellach a geir gan Golegau Amaethyddol; blaenoriaethau'r diwydiant wedi'i arwain gan Gyrff Lefi a gwybodaeth arbenigol i helpu sicrhau bod ffermwyr yng Nghymru yn gallu gweld a defnyddio'r arloesedd diweddaraf a'r arfer gorau.

Mae meysydd blaenoriaeth Newid Hinsawdd, Bioamrywiaeth, Coedwigaeth, Cig Coch, Llaeth, Glaswelltir, Garddwriaeth, Cynhyrchu Organic, Moch a Dofednod yn feysydd penodol ar gyfer y rhaglen. Mae themâu polisi trawsbynciol Trechu Tlodi, Cenedlaethau’r Dyfodol, Yr Amgylchedd Naturiol, Newid Hinsawdd, Iechyd a Lles Anifeiliaid, Iechyd Planhigion, Newydd Ddyfodiaid a Merched ac Iechyd a Diogelwch hefyd wedi eu hintegreiddio ym mhob elfen o'r rhaglen.