Mentora

Mae gan Cyswllt Ffermio  dîm o fentoriaid sy’n gallu cefnogi a herio eu cyfoedion ar ystod eang o bynciau.

 

Ar gyfer pwy mae hwn?

Targedir y rhaglen fentora at ffermwyr o bob oed a statws busnes, gan gynnwys,

  • newydd-ddyfodiaid
  • busnesau sy’n ystyried newid cyfeiriad strategol arwyddocaol (arall gyfeirio, ychwanegu gwerth, ehangu, mentrau newydd)
  • unigolion sy’n gobeithio gadael y diwydiant

Mae’r gwasanaeth hefyd ar gael i unigolion sy’n chwilio am ail farn, clust i wrando a chefnogaeth gyda heriau busnes dydd i ddydd.

Beth mae’n ei gynnwys?

Gall menteion cymwys dderbyn 15 awr o fentora wedi'u ariannu'n llawn gyda mentor o'u dewis nhw. Gallwch gyfathrebu mewn sawl ffordd gan gynnwys ymweliadau wyneb yn wyneb, sgyrsiau ffôn, galwadau fideo neu ebyst. 

Ym mhle bydd hyn yn cymryd lle?

Mae’r Mentoriaid Cyswllt Ffermio yn dod o bob cwr o Gymru. Gallech un ai ddewis mentor sy’n lleol i’ch rhanbarth chi, neu fentro ymhellach gan ddewis rhywun o ardal wahanol. Unwaith y bydd eich cais wedi cael ei gymeradwyo gallwch drefnu eich cyfarfod cyntaf - gallwch un ai ymweld â nhw neu wahodd nhw i ymweld â chi.

Pam fydden i eisiau Mentor?

Mae gan ein Mentoriaid brofiad personol, a gallant ddatblygu perthynas yn seiliedig at ymddiriedaeth a pharch cyffredin. Byddant yn gallu rhannu eu gwybodaeth, eu profiad a’u barn ddiduedd i’ch cynorthwyo i adnabod eich nodau a chyflawni eich potensial. Mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, i wrando, dysgu ac ehangu eich gorwelion a allai yn ei dro eich cynorthwyo i ganfod dulliau newydd i fynd i’r afael â sefyllfaoedd newydd ac ymdrin â heriau.

Dewis eich mentor

Ein Cyfeiriadur Mentoriaid yw'r prif 'ffenestr siop' sy'n eich galluogi i bori trwy'r rhestr proffiliau nes i chi ddod ar draws mentor sydd â'r cefndir a'r nodweddion a allai fod o fwyaf o gymorth i chi. Yna gallwch gwblhau'r ffurflen gais Rhaglen Fentora. Bydd Cyswllt Ffermio yn hysbysu'r Mentor a ddewisiwyd gennych gan roi eich manylion cyswllt iddynt

Cliciwchyma i ddarllen ein Llyfryn Mentora.


Tudalennau Cysylltiedig


Newyddion ac Erthyglau Technegol Diweddaraf yn Gysylltiedig â Mentora

CFf - Rhifyn 4 - Ionawr - Mawrth 2024

Isod mae rhifyn 4ydd Cyhoeddiad Technegol Cyswllt Ffermio ers lansio’r rhaglen newydd ym mis Ebrill 2023. Mae’n cynnwys ffeithiau a...