Da Byw
Yn yr adran hon:
Tystebau:
“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon. Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”
Dylan Morgan
Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin
“Mae defnyddio ystod eang o wasanaethau trwy Cyswllt Ffermio wedi fy helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau ar y fferm. Mae hyn wedi fy ngalluogi i wneud penderfyniadau rheoli mwy gwybodus a all helpu i wella perfformiad anifeiliaid a chynhyrchiant y busnes.”
Meirion Rees
Eglwyswrw, Sir Benfro
“Roedd y cwrs iechyd, lloches a rheoli lloi yn fuddiol iawn. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am sut i sicrhau bod lloi yn cael dechrau da mewn bywyd, sut i leihau’r defnydd o wrthfiotigau a lleihau costau magu.”
Gwion Jenkins
Clunderwen
“Rydw i wedi gorfod dysgu llawer iawn, yn gyflym iawn, am sut i reoli a rhoi’r gofal gorau posibl i 16,000 o ieir dodwy, ond mae Cyswllt Ffermio wedi fy helpu bob cam o’r ffordd.”
Beccie Williams
Llanbister, Llandrindod
"Roeddwn yn gweld y gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid a fynychais wedi’u cyflwyno’n dda iawn ac yn addysgiadol. Teimlais fy mod yn dysgu rhywbeth newydd bob tro ac os mai ond ffordd wahanol o wneud rhywbeth ymarferol oedd o, roedd o werth yr amser. Erbyn hyn, rwy’n gwneud ychydig o bethau’n wahanol, yn enwedig adeg ŵyna, ac rwyf hefyd wedi dysgu am afiechydon newydd i gadw golwg amdanynt."
Bridget Barnes
Y Fenni
'Mae'r manteision ariannol o ddilyn trefniant pori mewn cylchdro ar gyfer ein diadell o 500 o famogiaid yn sylweddol – i ni wedi haneru ein defnydd o ddwysfwyd, ers rannu'r caeau yn badogau a symud y defaid o gwmpas, i ni'n tyfu un rhan o dair yn fwy o borfa mewn blwyddyn. Byddwn yn annog unrhyw ffermwr sy'n ystyried y dyfodol i fynychu rhaglen Rhagori ar Bori.'
Tom Evans
Pendre, Aberystwyth
“Bydd dysgu sut i ofalu am draed gwartheg o fudd mawr i’r stoc. Esboniodd yr hyfforddwr bopeth yn drylwyr iawn ac fe wnaethon ni i gyd ddysgu llawer."
Adam Bowen
Powys
“Roedd gennym ni ein syniadau ein hunain, ond roedd ein mentor eisoes wedi rhoi cynnig ar rai o’r rhain o fewn ei system ei hun, ac nid oeddent wedi bod yn llwyddiannus, felly diolch i’r cyngor hwn, fe wnaethom ni osgoi gwneud yr un camgymeriadau.”
Richard Downes
Ceredigion
“Mae cyfrifo manylion ariannol fel elw fesul awr a weithiwyd neu elw fesul hectar (ha) wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r hyn sy’n gwneud fferm bîff a defaid broffidiol. Mae hyn yn caniatáu i ni gymharu ein perfformiad â busnesau tebyg, gyda'r nod o ganfod meysydd i'w gwella.''
Phil Cowcher
Llandysul
“Ar ôl cwblhau fy nghwrs e-ddysgu cyntaf ar atgenhedlu tymhorol mewn mamogiaid mewn llai nag awr, a oedd yn cynnwys cwis byr i asesu beth oeddwn i wedi ei ddysgu, roeddwn wrth fy modd. Mae’n ffordd mor hawdd o gael mwy o wybodaeth, wedi ei gyflwyno ar yr union lefel gywir ac rydych yn dysgu ar eich cyflymder eich hun.”
Wyn Williams
Llanfair Caereinion
Croeso i drafodaeth sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth gynaliadwy ac integreiddiad technolegol…
03 Rhagfyr 2025Mae menter newydd a gynlluniwyd i addysgu ac achub bywydau ar ffermydd Cymru wedi'i…
24 Tachwedd 2025Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn cael ei lunio gan Academi Amaeth…
14 Tachwedd 2025Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml-rywogaeth ar ôl pori yn sylweddol fwy…
13 Tachwedd 2025Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith i unigolion…
Events
Animal Health Improvement in your Beef herd within the SFS
Caldicot
Workshop attendees will learn about the steps of the...
Animal Health Improvement in your Beef herd within the SFS
Tanerdy
Workshop attendees will learn about the steps of the...
Rearing healthy calves and maximising profit
Fwy o Ddigwyddiadau
Lampeter
Workshop attendees will learn about the stages of calf...