Gweithdai Hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid

A oes clefyd neu fater iechyd anifeiliaid penodol sy’n effeithio ar eich da byw yn ogystal â pherfformiad eich busnes?

 

*Noder: Rydym yn cynnig dull cyfunol o ddarparu gweithdai trwy ddulliau digidol ac wyneb yn wyneb.*

 

Gall ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio archebu eu lle(oedd) mewn un neu fwy o’r gweithdai hyfforddiant sydd wedi’u hariannu’n llawn, a ddarperir gan filfeddygon lleol ledled Cymru.

Mae’r modiwlau hyfforddi wedi’u datblygu gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid (NADIS) a’u cymeradwyo gan Wobrau Lantra.

Mae pynciau’r gweithdai’n cyd-fynd â blaenoriaethau Iechyd a Lles Anifeiliaid presennol Llywodraeth Cymru, a byddant yn cynnwys y modiwlau canlynol:

  • Gwella Iechyd Anifeiliaid yn eich Buches Bîff
  • Gwella Iechyd Anifeiliaid yn eich Buches Laeth
  • Gwella Iechyd Anifeiliaid yn eich Diadell
  • Ymwrthedd i wrthfiotigau
  • TB buchol
  • Dolur rhydd feirysol buchol (BVD)
  • Gwella perfformiad wŷn wedi diddyfnu
  • Colli ŵyn – Rhan 1: Erthylu a maeth
  • Colli ŵyn – Rhan 2: Rhwng geni a diddyfnu
  • Cynyddu cynhyrchiant gwartheg sugno i’r eithaf
  • Magu lloi iach a sicrhau'r elw mwyaf
  • Lleihau cloffni mewn gwartheg llaeth
  • Sicrhau ffrwythlondeb: Rheoli’r fuwch laeth o’r cyfnod sychu i’r cyfnod ffrwythloni
  • Lleihau mastitis mewn gwartheg llaeth
  • Cloffni mewn defaid
  • Rheoli Ffrwythlondeb y Ddiadell
  • Rheoli parasitiaid mewn defaid – Rhan 1: Llyngyr main a phryfed chwythu 
  • Rheoli parasitiaid mewn defaid – Rhan 2: Y clafr, llau a llyngyr yr iau
  • Rheoli parasitiaid mewn gwartheg
  • Deall clefyd johne
  • Iechyd stoc ifanc rhan 1: Rhwng geni a diddyfnu
  • Iechyd stoc ifanc rhan 2: Diddyfnu hyd at loia/gwerthu

Bydd pob un o’r gweithdai tair awr o hyd yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ymarferol ynglŷn â materion iechyd anifeiliaid penodol gan gynnwys:

  • Bioddiogelwch a throsglwyddo clefydau
  • Arwyddion clinigol a diagnosis
  • Trin a rheoli
  • Goblygiadau economaidd

Mae dyddiadau ar gyfer pob gweithdy sydd i ddod ar gael ar dudalen Cyswllt Ffermio. Beth Sydd Ymlaen 

 

Adnodd Cynllunio i Reoli Parasitiaid

Mae’r adnodd cynllunio i reoli parasitiaid wedi cael ei ddatblygu i dynnu sylw’r ffermwr a’r milfeddyg i’r ffactorau pwysig sy’n ymwneud yn benodol â chynllunio iechyd er mwyn rheoli parasitiaid mewn gwartheg a defaid.

Mwy o wybodaeth

 

Gweithdai iechyd anifeiliaid digidol yn helpu i wella perfformiad ar fferm yn Sir Benfro
Gweithdai iechyd anifeiliaid digidol yn helpu i wella perfformiad ar fferm yn Sir Benfro
Animal Health and Welfare Training
Animal Health and Welfare Training
BVD Phil Jones - Fferm Lan Farm
BVD Phil Jones - Fferm Lan Farm

Rhestr o filfeddygon ledled Cymru:

Mae'n rhaid i bob cleient fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio cyn mynychu gweithdy. Bydd pob gweithdy a gwblheir yn cael ei gofnodi ar eich proffil datblygiad proffesiynol parhaus a byddwch yn derbyn tystysgrif presenoldeb gan Lantra.

Cliciwch yma i weld ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid.

Er mwyn ymgeisio ar gyfer un neu fwy o’r gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid, bydd angen i chi gwblhau ffurflen datgan diddordeb sydd ar gael yma.


Related Pages:


Latest news and technical articles related to Skills and Training