Adnodd Cynllunio i Reoli Parasitiaid

Mae’r adnodd cynllunio i reoli parasitiaid wedi cael ei ddatblygu i dynnu sylw’r ffermwr a’r milfeddyg i’r ffactorau pwysig sy’n ymwneud yn benodol â chynllunio iechyd er mwyn rheoli parasitiaid mewn gwartheg a defaid. Mae wedi cael ei ddatblygu mewn fformat sy’n ei wneud yn weledol iawn, gan ei alluogi i fod yn adnodd rhyngweithiol rhwng y milfeddyg a’r ffermwr. Mae’n sicrhau bod arferion rheoli parasitiaid yn ystyried rheolaeth y fuches neu’r ddiadell, yn caniatáu ar gyfer asesu porfeydd a allai beri risg, rhoi cyngor ynglŷn â phryd i arsylwi, argymell triniaethau penodol neu ddewis triniaeth llyngyr os oes angen yn seiliedig ar risg neu ganlyniadau profion.

Mae’r adnodd yn galluogi milfeddygon i ddangos i ffermwyr sut all cynllun effeithiol ar gyfer rheoli parasitiaid fod o fudd i’w busnesau unigol i helpu i wneud penderfyniadau’n ymwneud â mesurau rheoli parasitiaid, gan eu cynorthwyo i gynllunio’n effeithiol ymlaen llaw ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.