Offeryn Ansawdd Aer

Ansawdd aer gwael yw un o'r risgiau mwyaf i'r amgylchedd ac i iechyd y cyhoedd. Mae Cynllun Aer Glân Llywodraeth Cymru yn nodi camau amrywiol i'w cymryd i wella ansawdd aer y genedl. Ar gyfer ffermio, mae'r ffocws ar amonia gan ei fod yn cyfrannu at tua 85% o allyriadau amonia Cymru. Daw'r rhan fwyaf o allyriadau amonia amaethyddol o ffermio da byw (gwartheg yn bennaf).

Mae nitrogen yn cael ei ollwng i'r aer fel amonia a ddaw o dail ac o wasgaru gwrtaith. Mae'n cronni yn yr atmosffer ac yna'n disgyn ar y tir, gan darfu ar ecosystemau a’i gwneud yn amhosibl i rai rhywogaethau oroesi. Nid yw crynodiadau isel o amonia’n niweidiol i iechyd pobl. Fodd bynnag, gall adweithio gyda llygryddion eraill i greu Deunydd Gronynnol, sy'n gallu treiddio'n ddwfn i'r ysgyfaint gan achosi problemau iechyd i bobl. Mae amonia sy'n cael ei golli i'r aer yn nitrogen sy'n cael ei golli ar gyfer twf planhigion hefyd, sy'n costio arian i ffermydd.

Mae'r offeryn hwn wedi'i ddatblygu er mwyn dangos y camau y gallai fferm nodweddiadol yng Nghymru eu cymryd i wella ansawdd aer. Mae'r camau hyn yn dod â manteision busnes go iawn hefyd. Gellir colli amonia wrth ddefnyddio gwrtaith a phryd bynnag y bo slyri neu dail yn dod i gysylltiad â'r aer. Oherwydd hyn, mae angen dilyn yr holl gamau gyda'i gilydd er mwyn cael y manteision yn llawn. I ddysgu mwy am sut gallech eu cyflawni ar eich fferm eich hun, dilynwch y dolenni ar waelod pob enghraifft. Bydd hyn yn dangos i chi pa gymorth sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru ac eraill. Mae canllawiau ar ostwng allyriadau amonia ar gael yn y Cod Ymarfer Amaethyddol Da hefyd.

Cofiwch y gall nwyon slyri ladd. Am ragor o wybodaeth am reoli'r risgiau o slyri, darllenwch ganllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Defnyddiwch ein fferm ryngweithiol i ddarganfod ffyrdd o wella ansawdd aer. Cliciwch ar yr iconau i ddysgu mwy

Farm illustration

Offeryn Ansawdd Aer

Trin aer a sychu tail

Gellir trin aer egsôst a ddaw o gytiau moch a dofednod gyda chrafwyr asid neu hidlyddion bioddiferu er mwyn tynnu'r amonia ohono. Gosodir y systemau hyn ar allfeydd cytiau sydd wedi'u hawyru'n fecanyddol ac maen nhw'n effeithiol iawn mewn mannau lle cedwir yr anifeiliaid dan do drwy'r amser, ac mae rhai yn lleihau allyriadau amonia aer egsôst hyd at 90%. Defnyddir y dechnoleg yn helaeth mewn cytiau newydd a gellir ei hôl-osod mewn adeiladau hŷn hefyd.

Mae'n bwysig cadw tail a baw dofednod yn sych hefyd oherwydd, pan fydd yn mynd yn wlyb, collir llawer mwy o amonia i'r atmosffer. Gellir ei gadw'n sych drwy ddefnyddio system sychu belt. Mae hyn yn gostwng allyriadau amonia 30%. Er mwyn cael y budd mwyaf, dylid storio'r tail o dan orchudd gwrth-ddŵr.

Manteision eraill

  • Mae gan y dull hwn y fantais o leihau arogleuon hefyd, sy'n bwysig os yw'n agos at ble mae pobl yn byw
  • Bydd tail dofednod sychach yn fwy gwerthfawr fel gwrtaith

Cymorth

Gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wneud eich busnes yn fwy effeithlon ac yn fwy cynaliadwy. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella’ch sgiliau ac i gael gafael ar gyngor, ac mae syniadau newydd ac arloesol i’ch ysbrydoli ar gael drwy’r rhwydwaith arddangos a’r Hyb Cyfnewid Gwybodaeth.

Trin aer a sychu tail

Offeryn Ansawdd Aer

Defnydd effeithlon o brotein yn y deiet

Mae pob anifail yn bwyta nitrogen drwy'r protein sydd yn eu porthiant. Mae mwy na hanner y protein y mae anifeiliaid yn ei gael drwy eu bwyd yn cael ei golli fel nitrogen yn eu tail. Gellir gostwng y colledion hyn drwy sicrhau bod y cynnwys protein yn neiet yr anifail yn cyd-fynd (mor agos â phosibl) â'i anghenion. Gall y newid syml hwn ostwng allyriadau amonia tua 10%.

Mae ymchwil1 wedi canfod y gellir gostwng lefelau protein crai deietegol ar gyfer gwartheg godro sy'n llaetha i 14% heb fawr ddim colled o ran cynnyrch llaeth na ffrwythlondeb. Mae prosiect gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) wedi canfod hefyd nad oes unrhyw effaith gyffredinol ar dwf o ostwng protein crai, o tua 14% i tua 11.5%, yn neiet heffrod. Mae hyn o fudd mawr o ran rheoli allyriadau amonia ar y fferm oherwydd bod y colledion yn ystod camau eraill (dan do, storio a gwasgaru) yn mynd yn llawer llai ond mae'n bwysig siarad â'ch maethegydd cyn gwneud unrhyw newidiadau mawr i ddeiet gwartheg.

Manteision eraill

  • Mae dognau llai a chytbwys o brotein yn golygu bod cost mewnbynnau’n is
  • Gall wella ffrwythlondeb hefyd o bosibl (mae mwy o astudiaethau'n cael eu cynnal)

Cymorth

Gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wneud eich busnes yn fwy effeithlon ac yn fwy cynaliadwy. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella’ch sgiliau ac i gael gafael ar gyngor, ac mae syniadau newydd ac arloesol i’ch ysbrydoli ar gael drwy’r rhwydwaith arddangos a’r Hyb Cyfnewid Gwybodaeth.

  1. https://www.cambridge.org/core/journals/animal/article/abs/reducing-dietary-protein-in-dairy-cow-diets-implications-for-nitrogen-utilization-milk-production-welfare-and-fertility/8357F0CB36F0C31DBCC13D33619B42B7
Defnydd effeithlon o brotein yn y deiet

Offeryn Ansawdd Aer

Ymestyn y tymor pori

Pan fydd gwartheg yn pori maent yn cynhyrchu llawer llai o allyriadau amonia oherwydd bod eu hwrin yn cael ei amsugno'n gyflym i'r ddaear. Drwy ymestyn y pori i'r hydref a'r gwanwyn, mae'r anifeiliaid yn cynhyrchu llai o slyri pan fyddant yn cael eu rhoi dan do dros gyfnod y gaeaf. Gan mai glaswellt yw'r porthiant rhataf ar gyfer cynhyrchu llaeth, gall y dull hwn helpu i leihau costau. Fodd bynnag, mae angen rheoli ymestyn y cyfnod pori i'r hydref a'r gwanwyn yn ofalus er mwyn osgoi cywasgu pridd a difrod i'r borfa, a all arwain at lygredd dŵr.

Gyda mwy o laswellt yn cael ei dyfu, gall pori mewn cylchdro ymestyn y tymor pori ond efallai na fydd yn addas ar gyfer pob fferm. Mae’n gofyn am gynllunio gofalus a rheoli glaswelltir yn dda. Mae angen i hyn ystyried y math o bridd, topograffeg a seilwaith y fferm ac mae angen bod yn hyblyg er mwyn addasu i newidiadau yn y tywydd. Gall gwyndynnydd amlrywogaeth helpu oherwydd bod ganddynt dymor tyfu hirach ac maen nhw'n cynnig manteision eraill fel lleihau'r angen i brynu gwrtaith.

Manteision eraill

  • Mae cynhyrchu mwy o laeth o borthiant yn lleihau costau
  • Mae'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn amcangyfrif y gellir arbed £1.25 y fuwch y dydd drwy adael y gwartheg ar y glaswellt yn hytrach na'u rhoi dan do
  • Mae gwreiddiau dyfnach gwyndynnydd amlrywogaeth yn golygu eu bod yn gwella strwythur y pridd ac yn tyfu am gyfnodau hirach mewn cyfnodau sych

Cymorth

Gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wneud eich busnes yn fwy effeithlon ac yn fwy cynaliadwy. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella’ch sgiliau ac i gael gafael ar gyngor, ac mae syniadau newydd ac arloesol i’ch ysbrydoli ar gael drwy’r rhwydwaith arddangos a’r Hyb Cyfnewid Gwybodaeth.

Ymestyn y tymor pori

Offeryn Ansawdd Aer

Gwaith crafu rheolaidd

Gorau po gyntaf y bydd slyri'n cyrraedd y storfa o ardaloedd da byw, oherwydd bydd yn dod i lai o gysylltiad ag aer, a bydd 15% yn llai o amonia yn cael ei golli dan do. Dylid cynllunio ciwbiclau a llwybrau porthiant er mwyn sicrhau eu bod yn draenio'n gyflym a'u bod yn cael eu crafu mor aml â phosibl. Er mwyn cael y slyri i'r storfa cyn gynted â phosibl, mae angen ei grafu o giwbicl y fuwch, yn ddelfrydol o leiaf unwaith bob dwyawr. Mae crafu'n amlach yn golygu bod slyri'n cael llai o gyfle i gronni ac i achosi problemau cloffni.

Er ei fod yn gysyniad cymharol newydd yn y DU, mae'n bosibl cynllunio ciwbiclau i leihau allyriadau amonia drwy gael cyn lleied â phosibl o gysylltiad rhwng y tail a'r wrin. Mae hyn yn golygu cael naill ai llawr ar ogwydd gyda gwter ar gyfer wrin neu lawr gyda rhychau a chrafwyr danheddog awtomatig wedi'u cynllunio'n arbennig. Mae'r ddau ddull yn caniatáu i wrin ddraenio i ffwrdd yn gyflym.

Manteision eraill

  • Bydd lloriau glân a sych yn gwella iechyd traed
  • Mae lloriau gyda rhychau wedi'u cynllunio'n arbennig yn lleihau allyriadau, yn rhoi gafael dda ac yn helpu i greu amgylchedd sych a glân ar gyfer y gwartheg

Cymorth

Gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wneud eich busnes yn fwy effeithlon ac yn fwy cynaliadwy. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella’ch sgiliau ac i gael gafael ar gyngor, ac mae syniadau newydd ac arloesol i’ch ysbrydoli ar gael drwy’r rhwydwaith arddangos a’r Hyb Cyfnewid Gwybodaeth.

Gwaith crafu rheolaidd

Offeryn Ansawdd Aer

Golchi'r iard casglu

Mae ierdydd a llwybrau concrid sydd wedi'u halogi â slyri’n allyrru amonia. Dylid crafu a golchi ierdydd casglu, mannau trin da byw a pharlyrau cyn gynted â phosibl ar ôl eu defnyddio. Drwy olchi'r ardaloedd hyn yn syth ar ôl i'r godro ddod i ben, gellir gostwng cyfran yr amonia a gollir tua 70%. Efallai na fydd hyn yn ymarferol ar bob fferm ond mae'n ffordd syml a chymharol rad o ostwng allyriadau. Mae angen iddo fod yn rhan o system rheoli dŵr budr / glân a gallai fod angen man storio ychwanegol ar gyfer slyri neu ddŵr budr.

Manteision eraill

  • Bydd lloriau glân a sych yn gwella iechyd traed

Cymorth

Gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wneud eich busnes yn fwy effeithlon ac yn fwy cynaliadwy. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella’ch sgiliau ac i gael gafael ar gyngor, ac mae syniadau newydd ac arloesol i’ch ysbrydoli ar gael drwy’r rhwydwaith arddangos a’r Hyb Cyfnewid Gwybodaeth.

Golchi'r iard casglu

Offeryn Ansawdd Aer

Gorchuddio'r storfa slyri

Gall rhoi gorchudd dros storfa neu lagŵn slyri gael effaith fawr drwy atal amonia rhag dianc i'r atmosffer. Mae gan orchuddion sy'n dal dŵr y fantais o atal glaw rhag mynd i mewn i'r storfa hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'r gorchuddion yn cynnwys fentiau, sy'n atal methan rhag cronni, ac mae angen sicrhau y gellir cael mynediad hefyd er mwyn troi'r slyri.

Mae tri phrif fath o orchudd. Mae strwythur caead tynn, strwythur to neu strwythur tebyg i babell yn effeithiol iawn, gan leihau allyriadau amonia mewn mannau storio tua 80%. Mae dalenni arnofiol ar gael hefyd a dyma mae'n debyg yw'r dewis gorau ar gyfer lagwnau llai â chloddiau pridd. Maen nhw'n eithaf effeithiol, gan leihau allyriadau amonia mewn mannau storio tua 50%. Mae bagiau slyri yn dechnoleg gymharol newydd ond maen nhw wedi cael eu defnyddio'n helaeth yn yr Iseldiroedd ers 30 mlynedd ac maen nhw'n effeithiol iawn, gan leihau allyriadau amonia wrth storio tua 95%. Os ydych yn ystyried gosod bag, gallwch gael gwybod beth yw'r gofynion cynllunio drwy gysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol.

Manteision eraill

  • Mae cael llai o ddŵr glaw yn mynd i mewn i'r storfa yn lleihau maint cyffredinol y gofod storio sydd ei angen yn ogystal â lleihau costau gwasgaru
  • Mae llai o Nitrogen yn cael ei golli o’r slyru, gan gynyddu ei werth fel gwrtaith
  • Llai o arogl

Cymorth

Gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wneud eich busnes yn fwy effeithlon ac yn fwy cynaliadwy. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella’ch sgiliau ac i gael gafael ar gyngor, ac mae syniadau newydd ac arloesol i’ch ysbrydoli ar gael drwy’r rhwydwaith arddangos a’r Hyb Cyfnewid Gwybodaeth.

Gorchuddio'r storfa slyri

Offeryn Ansawdd Aer

Newid o wrtaith wrea plaen

Gellir colli hyd at 45% o'r nitrogen o wrteithiau sy'n seiliedig ar wrea. Gall newid o wrtaith wrea i nitrad (neu fathau eraill o nitrogen) leihau'r lefel o amonia a gollir 80% ar gyfer gwrtaith solet. Mae llawer o weithgynhyrchwyr bellach yn cyflenwi gwrtaith wrea gydag atalyddion hefyd (a elwir yn wrea gwarchodedig). Mae'r rhain yn oedi'r wrea rhag torri i lawr ac yn cadw'r nitrogen yn y pridd am fwy o amser. Mae hyn yn atal rhai o'r colledion a welir mewn gwrtaith wrea plaen ond er hynny nid yw mor effeithiol â gwrtaith nitradau. Er ei fod yn costio mwy fesul cilogram nag wrea plaen, gall arwain at arbedion o ran costau gan fod llai o nitrogen yn cael ei golli fel amonia.

Pa wrtaith bynnag a ddefnyddiwch, drwy ddefnyddio cynllun rheoli maetholion gallwch sicrhau eich bod yn diwallu anghenion pridd a chnydau ac yn lleihau'r maetholion a gollir i'r aer neu'r dŵr. Gwasgaru gwrtaith sydd mewn bagiau pan fo amodau'r tywydd a'r tir yn iawn a defnyddio gwasgarwr wedi'i raddnodi sy'n cael ei gynnal a'i gadw'n rheolaidd sy’n sicrhau'r canlyniadau gorau. Bydd lleihau'r angen i brynu gwrtaith drwy ddefnyddio codlysiau (fel meillion) yn gwella ansawdd aer, yn arbed arian i'r fferm ac yn lleihau eich ôl troed carbon hefyd.

Manteision eraill

  • Mae llai o nitrogen yn cael ei golli ac felly mae mwy ar gael i'r cnwd
  • Mae gan wrea gwarchodedig ôl troed carbon is nag amoniwm nitrad
  • Gall prawf pridd syml a chynllun rheoli maetholion roi hwb i gynnyrch ac arbed arian

Cymorth

Gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wneud eich busnes yn fwy effeithlon ac yn fwy cynaliadwy. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella’ch sgiliau ac i gael gafael ar gyngor, ac mae syniadau newydd ac arloesol i’ch ysbrydoli ar gael drwy’r rhwydwaith arddangos a’r Hyb Cyfnewid Gwybodaeth.

Newid o wrtaith wrea plaen

Offeryn Ansawdd Aer

Coetiroedd

Mae gan goed a choetiroedd y potensial i ail-gasglu amonia o gytiau anifeiliaid, mannau storio slyri ac ardaloedd crwydrol, gan ostwng allyriadau 20%. Dylai lleiniau o goed cysgodi fod dan y gwynt (sydd i'r gogledd-orllewin fel arfer) o'r cytiau da byw neu'r storfa slyri ac mae angen iddynt gynnwys stop cefn byr, trwchus. Mae angen i'r llain cysgodi fod yr un lled, neu'n lletach, na'r adeilad. Gellid plannu coed mewn man yn erbyn y gwynt o storfa slyri hefyd er mwyn gostwng cyflymder y gwynt dros ei hwyneb. Mae'n bwysig cael cyngor cyn plannu er mwyn sicrhau bod y coed cywir yn cael eu rhoi yn y lleoliad cywir i gael y manteision mwyaf.

Manteision eraill

  • Gostwng ôl troed carbon y fferm
  • Cysgod a chysgodfeydd i anifeiliaid
  • Gall wella ymddangosiad adeiladau er mwyn lleihau'r effaith ar y dirwedd
  • Cynnig cynefinoedd i fywyd gwyllt

Cymorth

Gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wneud eich busnes yn fwy effeithlon ac yn fwy cynaliadwy. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella’ch sgiliau ac i gael gafael ar gyngor, ac mae syniadau newydd ac arloesol i’ch ysbrydoli ar gael drwy’r rhwydwaith arddangos a’r Hyb Cyfnewid Gwybodaeth.

Coetiroedd

Offeryn Ansawdd Aer

Dull gwasgaru manwl ar gyfer slyri

Gellir colli hyd at 80% o'r nitrogen sydd mewn slyri wrth ddefnyddio plât tasgu. Mae defnyddio cyfarpar chwistrellu bas, esgid lusg neu far diferion yn lleihau'r amonia a gollir drwy roi'r slyri'n uniongyrchol ar y pridd neu yn y pridd.

Mae pibellau llusg (bar diferion) ac esgidiau llusg yn gosod y slyri / gweddillion ychydig uwchben (pibell) neu ar yr y pridd (esgid) yn uniongyrchol. Gellir gosod slyri a gweddillion yn y pridd gan ddefnyddio proses chwistrellu bas neu ddwfn hefyd (a elwir yn slotiau agored neu gaeedig hefyd). Chwistrellu slot caeedig yw'r mwyaf effeithiol, gan ostwng allyriadau 90% ond gall fod y mwyaf heriol hefyd o ran ymarferoldeb. Maen pibell neu esgid lusg yn gyflymach ac yn rhatach na chwistrellu ond yn llai effeithiol o ran gostwng allyriadau amonia (30-60%).

Beth bynnag fo'r dull gwasgaru manwl a ddefnyddir, drwy ddefnyddio cynllun rheoli maetholion gallwch sicrhau eich bod yn diwallu anghenion pridd a chnydau ac yn lleihau'r maetholion a gollir i'r aer neu'r dŵr. Hefyd, gallwch leihau'r colledion hyn gymaint â phosibl drwy osgoi gwasgaru pan fydd y tir wedi'i orchuddio â rhew neu eira a phan fydd yn wyntog neu'n glawio'n drwm.

Manteision eraill

  • Mae gwaith yn Iwerddon1 wedi dangos y gall gwerth y nitrogen a enillir fod mor uchel â £12 yr hectar yn fwy drwy ddefnyddio esgid lusg a £19 yr hectar yn fwy drwy ddefnyddio chwistrellu slot agored o’u cymharu â phlât tasgu
  • Mae gwasgarwyr manwl yn gwasgaru slyri'n fwy cyfartal ac nid yw'r gwynt yn effeithio arnynt
  • Mae gwasgaru manwl yn creu llai o aerosolau, sy'n golygu bod llai o risg o wasgaru TB buchol2
  • Mae llai o arogl

Cymorth

Gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wneud eich busnes yn fwy effeithlon ac yn fwy cynaliadwy. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella’ch sgiliau ac i gael gafael ar gyngor, ac mae syniadau newydd ac arloesol i’ch ysbrydoli ar gael drwy’r rhwydwaith arddangos a’r Hyb Cyfnewid Gwybodaeth.

  1. https://www.teagasc.ie/publications/2020/spreading-the-benefits--low-emission-slurry-spreading-less.php
  2. https://www.daera-ni.gov.uk/projects/133s3-literature-review-potential-role-cattle-slurry-spread-bovine-tuberculosis