Negeseuon i’w cofio:

  •  Gallai cynnwys mwy o goed mewn systemau glaswellt neu dir âr fod yn fuddiol mewn sawl ffordd i gynnyrch amaethyddol.
  • Mae’n hawdd sefydlu amaeth-goedwigaeth a gallai wneud tir amaethyddol yn fwy cynhyrchiol a sefydlog yn y tymor hir.
  •  Mae hyn yn ffordd realistig o leihau effeithiau amgylcheddol ac, yr un pryd, o gynyddu neu ddal i gynhyrchu'r un faint ar ffermydd.

Disgrifiwyd amaeth-goedwigaeth fel sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill, gan ei fod yn cynnig cyfle i ddefnyddio tir amaethyddol mewn sawl ffordd – sy’n gallu bod o fantais wrth gynhyrchu bwyd a thanwydd yr un pryd, amddiffyn yr amgylchedd a bioamrywiaeth a galluogi ffermydd i addasu neu liniaru effeithiau newid hinsawdd.  Efallai bod hynny’n swnio fel rhywbeth a fyddai’n troi hwsmonaeth â’i ben i lawr ar ffermydd, ond, mewn gwirionedd, y cyfan sydd angen ei wneud yw plannu rhagor o goed mewn caeau, naill ai coed unigol neu mewn fel rhan o strwythur megis lleiniau cysgodi neu fyffer.  

Term cyffredinol yw amaeth-goedwigaeth am dri dull penodol mewn amaethyddiaeth: coedâr - (coed a chnydau) coedstoc (coed a da byw) ac choedborfa amaethyddol (coed a chnydau gyda da byw).  Roedd rhai mathau o amaeth-goedwigaeth yn rhan gyffredin o amaethyddiaeth yng ngwledydd Prydain ar un adeg, megis systemau perllan lle’r oedd hefyd borfa y byddai da byw yn ei phori.  Does yr un diffiniad swyddogol o faint o orchudd o goed y mae’n rhaid ei gael cyn bod system yn cael ei chydnabod fel un amaeth-goedwigaeth.  Felly, gellid ystyried fod pob tirwedd amaethyddol sydd â choed neu brysglwyni yn un amaeth-goedwigaeth. 

Yng Nghymru, bydd y cynllun Glastir presennol, Creu Coetir, yn noddi creu amaeth-goedwigaeth ar borfa barhaol cyn belled â bob y coed yn cael eu plannu ar ddwysedd o 80 o goed (gwasgaredig) yr hectar, sy'n rhoi peth syniad o ddwysedd.

Cysylltir amaeth-goedwigaeth fel arfer â ffermydd mewn gwledydd sy’n datblygu, yn enwedig rhai yn y rhanbarthau crin, sych.  Ond mae yna gyfleoedd i ffermwyr yn y rhanbarthau tymherus, hefyd, megis yma yng ngwledydd Prydain, i fanteisio ar y dull rheoli hwn.  

Yn ôl y rhagolygon presennol ynghylch newid amgylcheddol, bydd yn rhaid i ymarferion amaethyddol gwledydd Prydain newid, i addasu i'r newidiadau a ddisgwylir yn yr hinsawdd ar y naill law ac i fireinio dulliau amaethyddol yn sgil y newidiadau amgylcheddol a ddaw i ganlyn hynny ar y llaw arall.  Gall amaeth-goedwigaeth gynnig dull arall o reoli, sy’n cyfarfod â’r angen i leihau effeithiau amgylcheddol ac, yr un pryd, wella cynhyrchedd busnesau fferm.

 

Manteision systemau aml ddefnydd

agroforestry
Mae’r manteision yn amrywiol: microhinsoddau mwy ffafriol, gwell bioamrywiaeth, gostegu’r gwynt, gwella ffrwythlondeb tir, arallgyfeirio cynnyrch, defnyddio adnoddau’n fwy effeithiol, llai o faetholion yn dianc a llai o erydiad pridd.

 O ran cynhyrchu da byw, mae presenoldeb coed a lleiniau cysgodi'n cynnig cysgod a lloches sy'n gallu golygu bod da byw angen llai o ynni i gadw'n oer neu'n gynnes, sydd yn ei dro’n arwain at ostyngiad mewn costau bwyd ac at gynnydd mewn cyfraddau trosi porthiant ac ennill pwysau.  Gallai hefyd arbed anifeiliaid rhag rhynnu yn y gwynt (ac felly osgoi hypothermia), gallai mwy o ŵyn oroesi, yn enwedig yn fuan ar ôl eu geni.  Mae presenoldeb coed hefyd yn galluogi mwy o ddŵr i dreiddio drwy’r pridd sy’n golygu bod llai o ddŵr yn sefyll ar yr wyneb.  Gallai hynny olygu llai o gloffni a llai o lyngyr yr iau mewn stoc.  

 Mae sôn fod rhai mathau o goed yn fuddiol o ran ‘hunan feddyginiaethu’, gydag anifeiliaid yn pori ar

agroforestry 2
ddeunydd sydd â rhinweddau buddiol.  Un enghraifft o hyn yw helyg sy’n gallu lladd llyngyr.  Ond mae peth amheuaeth a yw hyn yn ddigon i wneud gwahaniaeth i anifeiliaid, mae angen rhagor o ymchwil.  

Mae anifeiliaid sydd ag ond un rhan i’w stumogau, megis moch ac ieir, hefyd yn gallu elwa o bresenoldeb coed.  Mae hyn yn rhannol oherwydd eu bod wedi esblygu o greaduriaid oedd yn byw mewn coedwigoedd, moch gwyllt yn achos ein moch ni heddiw.  Mae presenoldeb coed yn annog ymddygiad da yn yr anifeiliaid hyn a llai o gweryla ac o ymddwyn yn ymosodol tuag at anifeiliaid eraill.  

 O ran rheoli tir, gall plannu coed ar lannau afonydd leihau llygredd gwasgaredig ac erydu pridd ar dir amaethyddol, lleihau effeithiau amgylcheddol a hefyd golledion economaidd. Gallai hefyd helpu i sefydlogi glannau afonydd.  Gall coed ar leiniau clustogi godi maetholion sy’n cael eu cario mewn dŵr o lle mae cnydau’n tyfu a’u rhwystro rhag llifo i afonydd a bydd y coed yn dychwelyd maetholion i’r tir drwy eu dail crin.  Gall hyn fod yn werthfawr, awgrymwyd y gallai dail crin yn unig gyfrannu 7 Kg o nitrogen yr hectar yn ychwanegol bob blwyddyn.

 

Effeithiau ar gynnyrch glaswellt

Gan eu bod yn rhannu'r un gofod mae'n anorfod y bydd peth cystadleuaeth am adnoddau, megis goleuni a maetholion, rhwng coed a phorfa neu gnydau eraill  Ond, gallai’r manteision fod yn  fwy na’r anfanteision.  Mae'n bosibl i gynhyrchedd systemau amaeth-goedwigaeth fod yr un faint neu’n fwy na systemau arferol (di-goed), o ganlyniad i blannu mwy nag un cnwd sy'n arwain yn uniongyrchol at gynyddu twf.

Y rheswm pam fod amaeth-goedwigaeth yn fwy cynhyrchiol yw bod yna gyflenwoldeb rhwng rhywogaethau.  Er enghraifft, oherwydd bod gwahanol rywogaethau yn targedu rhannau gwahanol o’r ecosystem, mae yna lai o gystadleuaeth - mae gwreiddiau coed yn fwy ac yn treiddio’n ddyfnach na gwreiddiau cnydau ac felly'n chwilio am faetholion a dŵr o fannau na all gwreiddiau cnydau eu cyrraedd.  Mae’r adnoddau hyn yn cael eu hailgylchu i rannau eraill o’r ecosystem drwy ddail crin neu drosiant mewn mân wreiddiau.  Ar ben hynny, gan fod coed yn cynnig lloches a bwyd, maen nhw'n denu rhagor o rywogaethau rheibus megis pryfed hofran sy’n gallu rheoli neu leihau pla mewn cnydau. Gallai hyn fod yn gynyddol bwysig yn y dyfodol, disgwylir amodau cynhesach a fydd yn arwain at gynnydd mewn poblogaethau plâu.

Un o brif fanteision cynnwys coed ar borfa neu dir âr yw eu bod yn gostegu’r gwynt.  Gall gwynt cryf leihau twf planhigion drwy ostwng y tymheredd a difrodi neu sychu'r dail a hefyd niweidio ac erydu pridd.  Drwy greu micro-hinsoddau ar ochr gysgodol lleiniau cysgodi, ceir amodau hynod ffafriol i blanhigion dyfu, gall y cynnydd yn nhymheredd yr aer a'r tir ymestyn y tymor tyfu sy'n arwain at fwy a gwell cynnyrch mewn planhigion.  Mewn cyfnodau poethach, gall presenoldeb coed a’u cysgod olygu bod planhigion eraill yn tynnu ac yn colli llai o ddŵr o’r ddaear.

Ond rhaid cofio hefyd y gallai’r coed gystadlu â’r planhigion eraill am oleuni.  Mae pa mor drwchus yw’r coed yn dylanwadu llawer iawn ar ba mor gynhyrchiol yw systemau amaeth-goedwigaeth.  Gallai cysgod trwm o'r coed leihau cynnyrch planhigion eraill.  Fodd bynnag, os mai dim ond cymedrol ddwys yw'r coed, ni fydd llai o oleuni o angenrheidrwydd yn lleihau potensial twf planhigion eraill.  Gall planhigion oresgyn mwy o straen drwy newid eu morfforleg a'u biocemeg.  Dangosodd astudiaethau yn ystyried hyn, pan fydd llai o olau’n disgyn ar blanhigion, eu bod yn cynhyrchu rhagor o gloroffyl yn eu dail, yn datblygu llai o ddail ond rhai mwy a bod eu coesau, eu petiolau a’u hinternodau hirach, nodweddion sy’n cael eu hystyried yn ffafriol i blanhigion dyfu.  Plannu coed ar ddwysedd o ddim mwy o na 200 yr hectar sy’n rhoi’r fantais fwyaf.

 

Amaeth-goedwigaeth i ymladd newid hinsawdd

Gall mabwysiadu ymarferion amaeth-goedwigaeth liniaru effeithiau newid hinsawdd drwy leihau faint o nwyon tŷ gwydr sydd yn yr aer.  Drwy ffotosynthesis, mae coed yn cadw carbon yn eu pren, ac, fel arfer, mae’r pridd o’u cwmpas yn cynnwys mwy o garbon na phriddoedd sy’n cynnal cnydau cyffredin.  Gall amaeth-goedwigaeth alluogi ffermydd i addasu i newid hinsawdd yn y dyfodol drwy gefnogi gwahanol wasanaethau cynhyrchu ac ecosystemau ecolegol.  Yn ogystal â’r ffactorau cynhyrchu a grybwyllir uchod, megis gallu dygymod â thywydd mwy eithafol, mae arallgyfeirio cnydau hefyd yn ffactor:  mewn geiriau eraill, os yw cnwd arall yn methu oherwydd tywydd annisgwyl, bydd gan ffermwyr gnwd o goed y gellir ei gynaeafu, sy'n rhoi mwy o sefydlogrwydd economaidd.

Gall y pren neu’r tanwydd y mae coed yn eu cynhyrchu hefyd feithrin mwy o gynaliadwyedd economaidd.  Mae cynhyrchu ynni o dyfiant biomas yn ffordd garbon niwtral o gynhyrchu ynni.  Gallai datblygu systemau, megis coedlannau cylchdro byr, fod yn ffordd effeithiol o ddiwallu’r angen am ynni, a hynny mewn ffordd cost effeithiol a chynaliadwy.

 

Crynodeb

Mae amaeth-goedwigaeth yn cynnig dull realistig o reolaeth ar ffermydd yn y dyfodol.  Gellir cynnal neu gynyddu'r cynnydd ac, yr un pryd, amddiffyn ffermydd rhag newid amgylcheddol a newid hinsawdd yn y dyfodol.

Mae’n cynnig nifer o fanteision o ran cynhyrchu a gellir gwneud y newid yn hawdd iawn.  Hefyd, wrth gwrs, dim ond unwaith y mae'n rhaid plannu coeden, ond mae’r manteision yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn.  Gallai hyn fod yn ffordd i ffermydd Cymru a’r rhai yng ngweddill gwledydd Prydain amddiffyn eu hunain rhag newid hinsawdd.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr