Clinigau un-i-un ar y fferm
Mae ein clinigau un i un yn glinigau a ariennir yn llawn i gael cyngor ar y pynciau a restrir isod. Mae pob busnes sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn gymwys i wneud cais am hyd at ddau glinig*. Bydd clinigau'n cael eu darparu gan ymgynghorwyr annibynnol a bydd pob cyngor yn gyfrinachol.
Bydd pob busnes yn derbyn adroddiad clinig yn cynnwys y canlynol:
Cyflwyniad i'r pwnc
Canlyniadau'r ymweliad
Argymhelliad (argymhellion) ar gyfer gwella
I fod yn gymwys ar gyfer y clinigau ar y fferm rhaid i'r busnes fod wedi'i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio a meddu ar CRN, CPH ac o leiaf 3 hectar.
CLINIGAU SYDD AR GAEL:
Arallgyfeirio - Cael cyngor ar sut i ddechrau prosiect arallgyfeirio a chyfle i drafod gwahanol syniadau arallgyfeirio yn ogystal â datblygu syniadau sydd eisoes ar waith.
Marchnata a’r Cyfryngau Cymdeithasol – Cael cymorth ar farchnata busnes cyfredol, deall y gwahanol ddulliau marchnata, sut i gyrraedd cynulleidfaoedd targed/cwsmeriaid newydd, cyngor yn ymwneud â brandio a marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cymorth gyda Gwaith papur Rheoli Llygredd Amaethyddol (Cymorth gyda Gwaith Papur CoAP) - Mae'r clinig hwn yn darparu cymorth ac arweiniad i fusnesau sydd wedi ceisio cwblhau gwaith papur ond sydd ag ymholiadau, elfennau heb eu datrys y bydd angen arweiniad arnynt o bosibl. Nid fydd yr ymgynghorwyr yn cwblhau'r llyfr gwaith ar eu rhan.
Os hoffech gofrestru eich diddordeb yng nghlinigau un i un Cyswllt Ffermio, a fyddech cystal â chwblhau’r ffurflen isod.
*Mae uchafswm o 2 glinig i bob busnes - naill ai Arallgyfeirio neu Farchnata a’r Cyfryngau Cymdeithasol a Chymorth gyda Gwaith Papur CoAP.
I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen ‘mynegi diddordeb’ isod neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol am fwy o wybodaeth.