Chwilio am Ffermydd newydd i ymuno â Rhwydwaith Ein Ffermydd

Sut i gymryd rhan

Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer y garfan nesaf o ffermydd arddangos i ymuno â’r rhwydwaith ar gyfer y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2026.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10yb ddydd Llun 18 Mai 2026. 

Ffurflen ar gyfer mynegi diddordeb 

Beth yw fferm arddangos?

Mae ffermydd arddangos yn meddu ar feddwl agored ac maent yn awyddus i brofi syniadau newydd ac i wella perfformiad a chynaliadwyedd eu ffermydd trwy arbrofion ar y fferm. Rydym yn chwilio am ffermydd arddangos sydd ar wahanol gamau o ddatblygiad eu fferm, gan gynnwys y rhai sy’n rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ogystal â’r rhai nad ydynt, i ymuno â’r rhwydwaith.

Yn dilyn y broses recriwtio, bydd ffermydd arddangos a ddewisir yn cael eu cynorthwyo i gynnal o leiaf dau arbrawf hirdymor wedi’u hariannu ar y fferm rhwng tymor yr haf 2026 a mis Mawrth 2029.

Rhaid i’r arbrofion ar y fferm gyd-fynd â’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy a byddant yn cael eu datblygu ar y cyd â chi'ch hun, eich Swyddog Sector Cyswllt Ffermio dynodedig ac arbenigwr yn y diwydiant.

Mae sectorau cymwys yn cynnwys llaeth, cig coch, moch, dofednod, tir âr, garddwriaeth a choetiroedd fferm.

Pam cymryd rhan?

Bu i gyn aelodau rhwydwaith Ein Ffermydd ddysgu pa systemau oedd yn gweithio'n dda a pha rai nad oeddent, trwy roi dulliau newydd neu wahanol ar waith i gyflawni eu nodau a chynyddu proffidioldeb a chynaliadwyedd y busnes a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Maent bellach mewn sefyllfa gystadleuol gryfach, mewn gwell sefyllfa i ymdopi â natur gyfnewidiol y farchnad, i ffynnu a llwyddo.

Fel fferm arddangos, byddwch yn gweithio gyda thîm o arbenigwyr yn y diwydiant i lywio newid cadarnhaol yn y meysydd sy'n bwysig i chi a'ch busnes.

Edrychwch ar lyfryn Rhwydwaith Ein Ffermydd 2022 - 2026 lle gallwch gael manylion am arbrofion blaenorol ar y fferm.

Beth fyddai'n rhaid i mi ei wneud?

  • Cymryd rhan ragweithiol mewn o leiaf dau arbrawf wedi’u hariannu ar y fferm dros gyfnod o dair blynedd.
  • Ar y dechrau, gofynnir i chi gwblhau set o astudiaethau sylfaenol wedi'u hariannu'n llawn i helpu i nodi meysydd ffocws ar gyfer yr arbrofion ar y fferm i sicrhau bod y rhain yn mynd i'r afael â meysydd lle y gall eich busnes elwa fwyaf.
  • Bydd gofyn i ffermydd agor eu drysau i ddysgu a rhannu arferion gorau a syniadau newydd yn seiliedig ar ganlyniadau arbrofion ar y fferm drwy un o’n digwyddiadau Ymweld ag Ein Ffermydd (digwyddiadau ar y fferm) ac Ein Ffermydd-Yn fyw (digwyddiadau digidol a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol).
  • Disgwylir i ffermydd ddarparu dyfyniadau ar gyfer astudiaethau achos a straeon am eu harbrofion ar y fferm gyda chymorth eu Swyddog Sector Cyswllt Ffermio. Ni fydd disgwyl i ffermwyr ysgrifennu eu hastudiaethau achos na'u hadroddiadau eu hunain ond byddant yn cael rhoi cymeradwyaeth lawn ar unrhyw ddeunydd a gynhyrchir gan Cyswllt Ffermio.
  • Efallai y bydd rhai ffermydd arddangos yn derbyn ceisiadau i grwpiau eraill ymweld â'r fferm megis grwpiau trafod a/neu grwpiau diwydiant.

Pa gymorth sydd ar gael?

Bydd ffermwyr sy'n rhan o'r rhwydwaith yn cael eu cefnogi gan Swyddogion Sector Cyswllt Ffermio, arbenigwyr sector-benodol, arbenigwyr yn y diwydiant a ffermwyr eraill o fewn y rhwydwaith.

Bydd cyllid hefyd ar gael i gwblhau astudiaethau sylfaenol ac arbrofion ar y fferm.

Bydd y wybodaeth a gesglir drwy'r astudiaethau sylfaenol hyn yn cynorthwyo ffermwyr sy’n rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Sut wyf yn gwneud cais?

Bydd ceisiadau i fynegi diddordeb yn agor ar 16 Mawrth 2026.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 10am, ddydd Llun 18 Mai 2026.

Ffurflen ar gyfer mynegi diddordeb

Os hoffech drafod y cyfle, cysylltwch â Siwan.howatson@mentera.cymru / 07399 783 398