A ydych chi’n chwilio am lwybr i mewn i amaeth?

A oes gennych chi’r hyn sydd arnoch ei angen i gystadlu am y cyfleoedd? 

Beth sydd angen i chi ei wneud i sicrhau tenantiaeth eich breuddwydion neu fenter ar y cyd?

 

Lleoliad: Bryn Parc, Betws-y-Coed, LL24 0HD
What3Words: deleting.glides.composed
Dyddiadau: Dydd Mercher 4 Chwefror – Dydd Iau 5 Chwefror
Cost: Wedi'i ariannu'n llawn (mae pob sesiwn, prydau bwyd, ymweliadau a llety wedi'u cynnwys) 
 

Trosolwg o'r rhaglen

Mae Bŵtcamp Busnes Cyswllt Ffermio yn rhaglen breswyl ddwys sydd wedi'i chynllunio ar gyfer unigolion sy'n chwilio am lwybr i mewn i amaeth. Mae'r cwrs deuddydd yn rhoi'r hyder, y sgiliau a'r ddealltwriaeth strategol sydd eu hangen ar newydd ddyfodiaid i nodi cyfleoedd, cystadlu am denantiaethau neu fentrau ar y cyd, a sefydlu busnesau effeithlon a gwydn.

Bydd yr aelodau’n cymryd rhan mewn sesiynau dysgu strwythuredig, ymweliadau fferm ymarferol, a thrafodaethau wedi'u hwyluso sy'n canolbwyntio ar ddatblygu busnes, disgyblaeth ariannol, systemau cynhyrchu cynaliadwy a datblygu gyrfa yn yr hirdymor.
 

Diwrnod 1 – Dydd Mercher 4 Chwefror

10:30 – Cofrestru a chroeso

  • Yr aelodau’n cyrraedd ac yn cofrestru
  • Cyfarwyddyd croeso a throsolwg o amcanion y rhaglen
  • Cyflwyniad i’r themâu, sef: cyfleoedd, ysbryd cystadleuol a bod yn barod ar gyfer busnes

Rhaglen y bore – Seiliau strategol ar gyfer newydd ddyfodiaid

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y cymwyseddau craidd sydd eu hangen i ymuno a symud ymlaen yn y sector amaeth. Mae'r themâu'n cynnwys:

  • Llwybrau mynediad a llwybrau datblygu: Mentrau ar y cyd, magu anifeiliaid ar gontract, modelau ffermio cyfran a chyfleoedd ar gyfer tenantiaeth.
  • Adeiladu busnesau sy'n gadarn yn ariannol: Pennu cyllideb, rheoli llif arian, disgyblaeth ariannol ac asesu hyfywedd busnes.
  • Systemau da byw mewnbwn isel, sy'n seiliedig ar laswellt: Egwyddorion systemau pori cylchdro, pennu cyllideb ar gyfer glaswellt, iechyd y pridd a rheoli da byw yn effeithlon.
  • Arallgyfeirio a datblygu mentrau: Gwerthuso ffrydiau incwm ychwanegol, ynni adnewyddadwy, twristiaeth a chynhyrchion sydd â gwerth ychwanegol.
  • Arloesedd a chynaliadwyedd: Integreiddio technolegau adnewyddadwy, gwella effeithlonrwydd a pharatoi ar gyfer disgwyliadau’r farchnad a pholisi yn y dyfodol.
  • Datblygiad personol ac arweinyddiaeth: Meithrin hyder, meddwl yn strategol a chynllunio gyrfa hirdymor.

Mae'r sesiwn hon yn tynnu ar arbenigedd cyfunol cyfranwyr y Bŵtcamp, gan sicrhau bod yr aelodau’n cael cipolwg ymarferol a pherthnasol ar realiti sefydlu menter amaethyddol lwyddiannus.

Rhaglen y prynhawn – Ymweliad fferm: Iwan Roberts, Ty’n Ddol

  • Taith dywys o amgylch fferm Ty'n Ddol
  • Archwilio’r systemau godro, egni adnewyddadwy, twristiaeth, menter ar y cyd, isadeiledd a phenderfyniadau gweithredol
  • Trafodaeth ar reoli tir yn gynaliadwy a strategaeth fusnes ar waith

Rhaglen gyda’r nos – Siaradwr gwadd; Brian Jones Castell Howell a swper gyda chyfle i rwydweithio

  • Swper a chyfle i rwydweithio yn y Royal Oak gyda’r siaradwr ar ôl swper
  • Dychwelyd i'r llety i'r rhai sy'n aros dros nos

 

Diwrnod 2 – Dydd Iau 5 Chwefror

09:00 – Ymweliad fferm yn y bore: Llyr Jones, Derwydd

  • Ail ymweliad â fferm yn rhoi cipolwg cymharol ar fodelau busnes amgen
  • Archwilio strwythur, systemau da byw a heriau gweithredol y fenter

Canol y bore – Lluniaeth a myfyrio

  • Cinio ac adolygiad

Rhaglen y prynhawn – Trafodaeth banel

  • Panel gyda mwy nag un siaradwr yn edrych ar strategaeth fusnes, mynediad at gyfleoedd, cynllunio ariannol a thueddiadau’r sector
  • Sesiwn holi ac ateb agored i fynd i'r afael â blaenoriaethau a heriau’r aelodau

Llety

  • Mae llety dros nos wedi'i ariannu'n llawn ar gael ym Mryn Parc
  • Gall aelodau ddewis dychwelyd adref rhwng dyddiau'r rhaglen fel arall.

 

Am fwy o wybodaeth ac i archebu’ch lle ar y Bŵtcamp Busnes, cysylltwch â Eiry Williams:

07985155670 / eiry.williams@menterabusnes.co.uk