Garddwriaeth - 'Tyfu ar gyfer twf'
Ydych chi'n arddwr neu'n dyfwr masnachol?
Ydych chi eisoes yn gweithredu busnes garddwriaeth sy'n barod i ddatblygu neu ehangu?
Ydych chi’n ffermwr, yn chwilio am gyfle arallgyfeirio newydd a chynaliadwy?
Os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi, bydd rhaglen arddwriaeth newydd Cyswllt Ffermio yn rhoi’r cymorth, arweiniad a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i’ch helpu i gyflawni eich nodau…
- Mae cyngor busnes a thechnegol ar gael drwy'r 'Gwasanaeth cymorth busnes Garddwriaeth', wedi'i deilwra i'ch anghenion. Gellir gwneud cais am y gwasanaeth hwn yn ogystal â chymorth gan Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio
- Cyfle i ddysgu arfer gorau gan ‘Ein tyfwyr’, cyfres o brosiectau a threialon a gynhelir gan ein rhwydwaith Cymru gyfan o ffermwyr a thyfwyr masnachol gan gynnwys rhai sydd hefyd yn rhan o rwydwaith 'Ein ffermydd', Cyswllt Ffermio.
- ‘Llais y diwydiant garddwriaeth' – dau grŵp o randdeiliaid yn gweithio ar eich rhan i ddylanwadu ar benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru a strategaethau yng Nghymru yn y dyfodol
- Cyrsiau hyfforddi busnes, technegol ac ymarferol, gweithdai, ymweliadau astudio achrededig sector-benodol yn ogystal ag opsiynau digidol ac e-ddysgu
- Mentora un-i-un gan dyfwyr, ffermwyr a gweithredwyr busnes profiadol
- Mynediad at holl fanteision eraill Cyswllt Ffermio megis Y Ganolfan Wasanaeth/Swyddog Datblygu Lleol/Canllawiau Busnes ‘Garddwriaeth’/Mentora/Gwasanaeth Cynghori/Hyfforddiant ac e-ddysgu/Ymweliadau astudio/cyfnewidfa Rheolaeth/Grwpiau trafod/Cymhorthfeydd a chlinigau/Rhwydweithiau Garddwriaeth/ Agrisgôp / Academi Amaeth ac ati
Gall Cyswllt Ffermio eich helpu CHI fanteisio ar y cyfleoedd newydd yn y sector hon
A yw garddwriaeth yn opsiwn busnes hyfyw, cynaliadwy a phroffidiol i CHI?
Darganfyddwch pa gymorth y mae gennych hawl iddo fel busnes garddwriaethol neu dyfu 'arbenigol' trwy glicio yma neu cysylltwch â ni ar horticulture@lantra.co.uk am ragor o gymorth.
Sut i wneud cais
Cyn gwneud cais am gymorth busnes garddwriaeth bydd angen i chi:
- Wirio eich cymhwyster fel busnes 'garddwriaeth' neu fusnes 'arbenigol'
- Cofrestru gyda Cyswllt Ffermio - rhaid i bob busnes gael cadarnhad o'u cofrestriad trwy e-bost neu lythyr.