Rhwydweithiau tyfwyr... ymweliadau dysgu ac astudio rhwng cyfoedion

Mae 'rhwydweithiau tyfwyr' Cyswllt Ffermio yn dod ag unigolion sy'n ymwneud â mentrau garddwriaeth fasnachol sector-benodol ledled Cymru ynghyd.

Dyma'ch cyfle i gael y wybodaeth ddiweddaraf, dod o hyd i ddatrysiadau i heriau a dysgu gan arbenigwyr gwadd a thyfwyr eraill a fydd yn ymdrin ag ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i chi a'ch busnes.

  • Caffael rhwydweithiau cymorth newydd, rhannu arfer gorau, dysgu sgiliau newydd ac elwa ar brofiad a chymorth arbenigwyr a thyfwyr eraill 
  • Bydd ymweliadau astudio a gweithdai ymarferol yn ysbrydoli, addysgu a rhoi’r hyder i chi roi ffyrdd newydd neu fwy effeithlon ar waith i dyfu, rheoli a hyrwyddo eich busnes
  • Rhaglen digwyddiadau chwarterol ar gyfer pob rhwydwaith tyfwyr

Am ragor o wybodaeth neu i ymuno ag un neu fwy o 'rwydweithiau tyfwyr' Cyswllt Ffermio, cliciwch ar y linc isod neu e-bostiwch: horticulture@lantra.co.uk 

Ymunwch â Rhwydwaith Tyfwyr