Rhwydwaith addurniadol

Mae'r rhwydwaith hwn yn gweithio gyda busnesau addurniadol masnachol sy'n amrywio o blanhigfeydd ar raddfa fach i rai o'r gweithredwyr cyfanwerthu a manwerthu mwyaf yng Nghymru. Bydd diwrnodau hyfforddi ac ymweliadau astudio yn rhoi cyfle i chi ddysgu am dyfu di fawn, delio â phlâu a chlefydau yn ogystal â materion megis y tywydd a strategaethau dyfrhau.