Grwpiau Trafod

Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermwyr blaengar i fod yn rhan o’r rhaglen grwpiau trafod newydd. Nod y rhaglen yw datblygu gwybodaeth a hyder ar ystod o faterion rheoli a fydd yn gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol busnesau fferm. Bydd aelodau’r grŵp yn derbyn rhaglen arloesol o gyfarfodydd a gweithgareddau a fydd yn cynorthwyo ac yn llywio newid ar y fferm.

Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n 4 thema:

  • Tir - Glaswelltir - canolbwyntio ar reoli porfa a systemau pori i gynyddu a gwneud y defnydd gorau o borfa.
  • Tir – Tir âr a Garddwriaeth – canolbwyntio ar sicrhau perfformiad y fferm ac effeithlonrwydd technegol.
  • Da byw – canolbwyntio ar sicrhau perfformiad da byw a lleihau mewnbynnau allanol.
  • Busnes – canolbwyntio ar sicrhau perfformiad a rheolaeth y fferm.

Mae pob thema yn canolbwyntio ar gefnogi busnesau i ddod yn fwy cynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol.

Mae’r rhaglen yn agored i bob ffermwr sydd am ddatblygu ei wybodaeth a’i sgiliau, wrth rannu eu profiadau gyda phobl eraill o’r un anian. Mae’n darparu cymorth i bawb sydd am wella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol eu busnes, drwy grwpiau trafod rhanbarthol.

Mae cyfranogwyr blaenorol wedi gallu cymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu i leihau costau mewnbwn, gwella iechyd y fuches wrth wella allbwn. Felly, os ydych chi'n meddwl sut fyddwch chi'n cynnal cynhyrchiant wrth ddefnyddio llai o wrtaith nitrogen neu'n poeni am y newidiadau i'r taliadau cymorth fferm, yna gwnewch rywbeth rhagweithiol ac ymunwch â'r rhaglen nawr!

Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod i gael rhagor o wybodaeth am bob thema, gan gynnwys y ffurflenni cais. *(Bydd y ffurflenni ar gael ar y 1af o Fehefin).*

 

Ffenestr Recriwtio Ffermwyr ar gyfer Grŵpiau wedi eu cau

 


Tudalennau Cysylltiedig: