Tir âr a Garddwriaeth

Fel busnes Tir âr neu Arddwriaeth, mae'r opsiynau grŵp trafod isod ar gael i chi. Bydd bod yn aelod o un o’r grwpiau hyn nid yn unig yn caniatáu i chi weithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant, ond bydd hefyd yn annog dysgu rhwng cyfoedion a rhannu syniadau i’ch galluogi i feithrin cysylltiadau a dysgu mewn amgylchedd grŵp deinamig.

 

Tir âr

O dan y thema hon byddwn yn canolbwyntio ar fentrau tir âr gyda’r nod o:

  • Rheoli perfformiad fferm ac effeithlonrwydd technegol ar gyfer y systemau cynhyrchiol a gwytnwch gorau posibl  
  • Datblygu cadwyni cyflenwi a gwella cysylltiadau â sectorau eraill
  • Defnydd cynaliadwy o blaladdwyr a dulliau rheoli plâu integredig
  • Addasu i heriau newid hinsawdd
  • Gwella bioamrywiaeth o fewn y busnes

Garddwriaeth

O dan y thema hon byddwn yn canolbwyntio ar fentrau Garddwriaethol gyda’r nod o:

  • Rheoli perfformiad menter ac effeithlonrwydd technegol ar gyfer y systemau cynhyrchiol a gwytnwch gorau posibl  
  • Defnyddio plaladdwyr yn gynaliadwy a mabwysiadu dulliau rheoli plâu integredig i ddiogelu a gwella ecosystem y fenter
  • Datblygu cadwyni cyflenwi a gwella cysylltiadau â sectorau eraill
  • Gwella bioamrywiaeth o fewn y busnes