Holiadur Cyswllt Ffermio - Ffermwyr Cymru - Rydym am glywed gennych chi!
Rydym yn lansio holiadur pwysig i ddeall pa gymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i ffermwyr cenhedlaeth gyntaf neu newydd-ddyfodiaid ledled Cymru ac i ddeall pa gymorth sydd ei angen arnynt.
Dyma'ch cyfle i rannu'r hyn sy'n gweithio'n dda, nodi bylchau, a thynnu sylw at feysydd lle mae angen mwy o gymorth.
Pam mae eich adborth mor bwysig?
- Llunio cymorth y dyfodol: Bydd eich dealltwriaeth yn llywio llunwyr polisi a sefydliadau cymorth yn uniongyrchol, gan helpu i greu rhaglenni mwy effeithiol ac wedi’u teilwra ar gyfer ffermwyr newydd yng Nghymru.
- Tynnu sylw at heriau allweddol: Rydym yn gwybod bod rhwystrau unigryw ynghlwm â dechrau fferm o'r dechrau - o gael mynediad i dir a chyllid i lywio rheoliadau. Mae'r holiadur hwn yn gyfle i daflu goleuni ar yr heriau hyn.
Rydym yn annog pob ffermwr cenhedlaeth gyntaf/newydd ddyfodiaid i gwblhau'r holiadur hwn!
Mae'r holiadur wedi'i gynllunio i fod yn syml ac ni fydd yn cymryd llawer o'ch amser. Bydd pob ymateb yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol.
Beth am adael eich ôl ar ddyfodol ffermio Cymru!