Cynyddu elw
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr net sero erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y targed hwn, bydd yn rhaid i’r sector amaethyddiaeth yng Nghymru addasu a defnyddio’r holl dechnegau a thechnolegau allyriadau isel sydd ar gael ledled y sector, megis lleihau mewnbynnau, sicrhau’r effeithlonrwydd a’r allbynnau mwyaf posibl, ffermio manwl gywir a’r defnydd a’r storio gorau posibl o slyri a thail.

Mae 90% o dir Cymru yn dir amaethyddol neu dir comin. Mae’r sector diwydiannau’r tir mewn sefyllfa unigryw gan mai dyma’r unig sector sy’n gallu tynnu allyriadau o’r atmosffer ar hyn o bryd. Mae gan amaethyddiaeth gyfle enfawr i atafaelu mwy o garbon, (h.y. lle mae carbon deuocsid (CO2) yn cael ei dynnu o’r atmosffer a’i storio mewn priddoedd, coed, llystyfiant a gwrychoedd) a diogelu sinciau carbon (h.y. carbon sy’n cael ei storio mewn priddoedd a mawn) a thrwy hynny gyfrannu i leihau ôl troed carbon y wlad a'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Mae lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar ffermydd yn golygu edrych o’r newydd ar y system gyfan. Mae’n bosibl lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynnal a gwella elw’r fferm ar yr un pryd. Datblygwyd y pecyn cymorth hwn er mwyn dangos enghreifftiau gwahanol o sut gallai fferm Gymreig nodweddiadol leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr (a ddangosir fel allyriadau carbon deuocsid cyfatebol, CO2e) gan gynyddu elw ar yr un pryd (un ai drwy arbed arian neu gynyddu refeniw). I gael rhagor o wybodaeth am sut gallech chi roi’r enghreifftiau hyn ar waith ar eich fferm eich hun, dilynwch y cysylltiadau ar waelod pob enghraifft i weld pa gyngor ac arweiniad gallai Cyswllt Ffermio ei gynnig er mwyn eich helpu chi i gyrraedd y targedau hynny.

Defnyddiwch ein fferm ryngweithiol i ddarganfod ffyrdd o gynyddu proffidioldeb a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Cliciwch ar yr iconau i ddysgu mwy

Farm illustration

Cynyddu elw
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Atal clefyd Johne rhag effeithio ar 10% o’r fuches laeth

Mae rheoli clefydau a gofal am iechyd anifeiliaid yn allweddol er mwyn cynyddu a chynnal cynhyrchiant da byw. Clefyd bacterol cyffwrdd-ymledol, di-droi’n-ôl, yw clefyd Johne ac mae’n effeithio ar lwybr y perfedd mewn gwartheg ac anifeiliaid eraill sy’n cnoi cil, gan achosi colledion ariannol i lawer o fusnesau bîff a llaeth. Fel clefyd sy’n anodd ei reoli mae angen i ffermwyr gynllunio iechyd eu buchesi i ganfod beth yw statws clefyd y fuches a chymryd camau priodol. Gallai atal y clefyd rhag effeithio ar fuches yn y lle cyntaf leihau colledion a gallai hefyd leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu cynhyrchu gan y fuches. Dyma enghraifft o faint gallai atal clefyd Johne rhag effeithio ar 10% o fuches laeth nodweddiadol Gymreig (201 o wartheg) leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a faint o arian gallai hyn ei arbed i’r fferm.

Gallai atal clefyd Johne rhag effeithio ar 10% o fuches laeth nodweddiadol Gymreig (201 o wartheg):

leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol y fferm hyd at

32,3601 kg CO2e

gallai hyn hefyd arbed

£5202 i’r fferm bob blwyddyn

Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm y CO2e sy’n cael ei allyrru drwy yrru 79,120 o filltiroedd mewn cerbyd teithwyr cyffredin (e.e. car, fan, tryc ‘pickup’, ac ati.)3.

79,120

Buddion ychwanegol

  • Atal y clefyd yw’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o reoli clefyd Johne.
  • Bydd newid dulliau rheoli er mwyn lleihau’r perygl o glefyd Johne hefyd yn golygu bod y fuches yn llai tebygol o ddioddef o glefydau eraill (e.e. mastitis) a bydd yn gwella effeithlonrwydd brechlynnau ar gyfer clefydau eraill ynghyd â gwella iechyd, perfformiad ac effeithlonrwydd cyffredinol y fuches.

Sut gall Cyswllt Ffermio eich helpu i gyflawni hyn

  • Gall busnesau ffermio fanteisio ar wahanol gyfleoedd hyfforddi, gweithdai a digwyddiadau Cyswllt Ffermio ar iechyd a lles anifeiliaid i gael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i atal clefyd Johne rhag effeithio ar y fuches. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
  • I gael mynediad i'r ystod lawn o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyswllt Ffermio.
  • Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Cymorth Cyswllt Ffermio

Cliciwch ar y linc isod i weld sut gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella iechyd a lles eich buches laeth. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio gynorthwyo i wella sgiliau, roi mynediad i chi at gefnogaeth grŵp, a’ch ysbrydoli gyda syniadau newydd ac arloesol drwy’r Rhwydwaith Arddangos a'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth.

  1. Cyfrifwyd y data ar allyriadau CO2e ar sail cynnyrch llaeth cyfartalog gwartheg llaeth Cymru ac mae’n seiliedig ar ddata o’r adroddiad canlynol: ADAS (2015) Study to model the impact of controlling endemic cattle diseases and conditions on national cattle productivity, agricultural performances and greenhouse gas emissions. ADAS. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019];
  2. Cyfrifwyd yr wybodaeth ariannol ar sail data o’r erthygl ganlynol: Barratt, A.S. et al. (2018) A framework for estimating society’s economic welfare following the introduction of an animal disease: The case of Johne’s disease. PLoS One, 13(6): 1-26.
  3. Cyfrifwyd ar sail defnydd tanwydd effeithiol cyfartalog o 22 milltir i’r galwyn yn achos cerbydau teithwyr. Cyfrifwyd cyfwerthoedd gan ddefnyddio: EPA (d.d.) Greenhouse Gas Equivalencies Calculator. United States Environmental Protection Agency. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
Atal clefyd Johne rhag effeithio ar 10% o’r fuches laeth

Cynyddu elw
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Lleihau’r defnydd o ddiesel o 10%

Daw holl danwydd arferol y fferm, fel diesel, o danwyddau ffosil ac felly pan fyddant yn cael eu llosgi maent yn rhyddhau carbon oedd wedi’i storio i’r atmosffer ar ffurf carbon deuocsid (CO2). Mae litr o ddiesel yn rhyddhau tua 2.6kg o CO2 i’r atmosffer. Er bod y defnydd o ddiesel ar ffermydd yn cyfrif am gyfran bach iawn o allyriadau nwyon tŷ gwydr cyffredinol y fferm, gall gwneud y defnydd gorau ohono helpu i leihau ôl-troed carbon y fferm gan ddod â budd ariannol i’r busnes. Dyma enghraifft o faint gallai lleihau defnydd blynyddol fferm Gymreig nodweddiadol o ddiesel, sef 10,000 litr (75% diesel coch; 25% diesel arferol) leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol y fferm, a faint o arian gallai hyn ei arbed.

Gallai lleihau’r defnydd o ddiesel ar fferm nodweddiadol Gymreig o 10%:

leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol y fferm hyd at

2,6201 kg CO2e

hefyd arbed

£7981 y flwyddyn

Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm y CO2e sy’n cael ei allyrru drwy yrru 6,405 o filltiroedd mewn cerbyd teithio cyffredin (e.e. car, fan, tryc ‘pickup’, ac ati.)2.

6,405

Sut gall Cyswllt Ffermio eich helpu i gyflawni hyn

  • Gall busnesau ffermio fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi amrywiol, gweithdai a digwyddiadau Cyswllt Ffermio ar gynllunio busnes er mwyn cael cymorth i nodi’r meysydd lle gallech leihau eich defnydd o danwydd.
  • I gael mynediad i'r ystod lawn o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyswllt Ffermio.
  • Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Cymorth Cyswllt Ffermio

Cliciwch ar y linc isod i weld sut y gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i lunio cynllun busnes cyfredol. Mae Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth busnes a chymorth grŵp tra hefyd yn gwneud y defnydd gorau o'r ymchwil, y datblygiadau a’r technolegau diweddaraf.

  1. Cyfrifwyd yr allyriadau CO2e a’r canlyniadau ariannol ar sail data o’r canllaw canlynol: Carbon Trust. (2016) Conversion factors: Energy and carbon conversions 2016 update. Carbon Trust. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
  2. Cyfrifwyd ar sail defnydd tanwydd effeithlon cyfartalog o 22 milltir i’r galwyn ar gyfer cerbydau teithwyr. Cyfrifwyd cyfwerthoedd gan ddefnyddio: EPA (d.d.) Greenhouse Gas Equivalencies Calculator. United States Environmental Protection Agency. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
Lleihau’r defnydd o ddiesel o 10%

Cynyddu elw
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Lleihau’r defnydd o drydan o 10% ar fferm laeth

Wrth i brisiau trydan barhau i godi, gall ffermwyr arbed swm sylweddol ar eu biliau trydan bob blwyddyn drwy ystyried yn ofalus faint o drydan sy’n cael ei ddefnyddio ar y fferm. Mae llawer o gamau y gellir eu cymryd i arbed trydan: mae rhai ohonynt am ddim neu’n gost-isel ac mae eraill yn cynnig ôl-daliad cost-effeithiol hyd yn oed. Yn ogystal â gwneud arbedion ariannol, gallai lleihau faint o drydan a ddefnyddir bob blwyddyn hefyd leihau’r nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu hallyrru o ffermydd i’r atmosffer bob blwyddyn. Dyma enghraifft o faint gallai lleihau’r defnydd o drydan o 10% ar fferm laeth nodweddiadol Gymreig (yn cynnwys 201 o wartheg), leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol, a sut gallai hyn hefyd fod o fudd ariannol i’r fferm.

Gallai lleihau defnydd blynyddol o drydan ar fferm laeth nodweddiadol Gymreig o 10%:

leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol fferm hyd at

5,5441 kg CO2e

arbed

£9901 bob blwyddyn

Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm y CO2e sy’n cael ei allyrru drwy yrru 13,555 o filltiroedd mewn cerbyd teithio cyffredin (e.e. car, fan, tryc ‘pickup’, ac ati.)2.

13,555

Buddion ychwanegol

  • Er bod yr enghraifft hon yn canolbwyntio’n benodol ar fferm laeth, gellid lleihau’r defnydd o drydan ar unrhyw fath o fferm.
  • Yn ogystal â lleihau eu defnydd o drydan, gallai ffermwyr hefyd ystyried y posibiliadau o ddefnyddio’r haul, gwynt, cnydau egni ac isgynhyrchion y fferm i gynhyrchu gwres a thrydan i’w defnyddio ar y fferm neu fel ffynhonnell refeniw ychwanegol.

Sut gall Cyswllt Ffermio eich helpu i gyflawni hyn

  • Gall busnesau ffermio fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi amrywiol, gweithdai a digwyddiadau Cyswllt Ffermio ar gynllunio busnes er mwyn cael cymorth i nodi’r meysydd lle gallech leihau eich defnydd o drydan.
  • I gael mynediad i'r ystod lawn o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyswllt Ffermio.
  • Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Cymorth Cyswllt Ffermio

Cliciwch ar y linc isod i weld sut y gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i lunio cynllun busnes cyfredol. Mae Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth busnes a chymorth grŵp tra hefyd yn gwneud y defnydd gorau o'r ymchwil, y datblygiadau a’r technolegau diweddaraf.

  1. Cafodd yr allyriadau CO2e a chanlyniadau ariannol eu cyfrifo ar sail data o’r adroddiad canlynol: DairyCo. (2012) Greenhouse gas emissions on British dairy farms – DairyCo carbon footprinting study: Year one. DairyCo. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019]; a drwy ddefnyddio gwybodaeth gyfartalog ar gyfer fferm laeth iseldir yng Nghymru o Lyfryn Incwm Fferm Cymru 2017/18.
  2. Cyfrifwyd ar sail defnydd tanwydd effeithlon cyfartalog o 22 milltir i’r galwyn yn achos cerbydau teithio. Cyfrifwyd cyfwerthoedd gan ddefnyddio: EPA (d.d.) Greenhouse Gas Equivalencies Calculator. United States Environmental Protection Agency. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
Lleihau’r defnydd o drydan o 10% ar fferm laeth

Cynyddu elw
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Amaeth a’r amgylchedd

Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn hanfodol er mwyn cynhyrchu bwyd, cefnogi cymunedau gwledig, a siapio ac amddiffyn yr amgylchedd. Gall busnesau ffermio gymryd camau penodol i helpu i ddatrys pryderon amgylcheddol allweddol, fel aer glân, ansawdd dŵr ac iechyd y pridd. Yn ddiweddar, mae’r sector amaethyddiaeth, a’r sector cig coch yn benodol, wedi cael ei feirniadu am yr effaith mae’n ei chael ar yr amgylchedd, yn benodol o ran rhyddhau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae cynhyrchu unrhyw fath o fwyd yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer, ynghyd â chael effeithiau amgylcheddol eraill, ac mae cyfrifo effaith y sectorau amaethyddol gwahanol yng Nghymru yn fater cymhleth, yn enwedig o ystyried y rhan bwysig mae priddoedd amaethyddol yn ei chwarae i liniaru newid hinsawdd (gweler y senario: Pwysigrwydd Priddoedd Amaethyddol). Er enghraifft, mae cynhyrchu bîff yng Ngorllewin Ewrop 2.5 gwaith yn fwy carbon-effeithiol na’r cyfartaledd byd-eang.1 Yn ogystal â hyn, oherwydd bod cyfran fawr o dir amaethyddol Cymru wedi’i ddynodi yn Ardaloedd Llai Ffafriol (ALlFf), mae’r pwysau a roddir gan rai grwpiau amgylcheddol i gynyddu ffermio âr yn anymarferol ar y cyfan gan fod ALlFf yn fwy addas ar gyfer ffermio porfa a da byw.

Mae nifer o feysydd lle gallai’r sector amaethyddol wella ei berfformiad amgylcheddol, ac mae’r pecyn cymorth hwn yn tynnu sylw at rai enghreifftiau penodol er mwyn dangos sut gallai fferm Gymreig nodweddiadol leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr, cynyddu ei helw a bod o fudd i’r amgylchedd yn fwy cyffredinol ar yr un pryd. Wrth gwrs, yn ogystal â’r enghreifftiau hyn mae nifer o gamau eraill y gellid eu rhoi ar waith hefyd. Er enghraifft, gallai ffermwyr wella dulliau o reoli glaswelltir a chadw a gwella storfeydd carbon pwysig (e.e. coetiroedd a mawndiroedd), rheoli slyri a thail yn well, a lleihau gorbori, aredig a’r defnydd o blaleiddiaid a chwynladdwyr. Mae nifer o’r camau hyn yn cynnig buddion amgylcheddol pwysig, fel cynyddu lefelau bioamrywiaeth ynghyd â phridd sefydlog ac arwain at bridd, dŵr ac aer o ansawdd gwell, yn ogystal â chynnig buddion ariannol pwysig i ffermwyr, ac mae nifer o ffermwyr ar draws Cymru yn flaengar iawn yn y maes wrth ddatblygu a threialu technolegau newydd i leihau’r effeithiau hyn ymhellach.

Sut gall Cyswllt Ffermio eich helpu i gyflawni hyn

  • Gall busnesau ffermio fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi amrywiol, cyngor technegol a digwyddiadau Cyswllt Ffermio; gan gynnwys gweithgareddau o fewn y Rhwydwaith Arddangos i helpu i wella perfformiad amgylcheddol.
  • I gael mynediad i'r ystod lawn o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyswllt Ffermio.
  • Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Cymorth Cyswllt Ffermio

Cliciwch ar y linc isod i weld sut gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella eich perfformiad amgycheddol. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio eich darparu â chymorth, cyngor ac arweiniad er mwyn gwella ansawdd adnoddau naturiol hanfodol, fel priddoedd a dŵr.

  1. FAO. (2013) Tackling climate change through livestock. FAO. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
Amaeth a’r amgylchedd

Cynyddu elw
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Lleihau maint gwartheg o 700kg i 500kg

Yn ogystal â chynyddu nifer y lloi sy’n cael eu magu (gweler y senario: Cynyddu nifer y lloi sy’n cael eu magu o 80% i 85%), mae gostwng pwysau’r fuches yn dechneg effeithiol arall i gynyddu allbynnau ac elw a lleihau ôl-troed carbon y fferm hefyd, gan y byddai pob buwch yn cynhyrchu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Dangosodd astudiaeth ar un o ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio, Fferm Lan (Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin), fod gwartheg ysgafnach (500kg) yn fwy effeithlon a chost-effeithiol na gwartheg trymach (700kg)1. Gan fod costau cynnal yn £50 yn is fesul buwch, a hynny heb effeithio ar gynhyrchiant, gwnaeth y fferm elw ariannol. Dyma enghraifft o sut gallech leihau ôl-troed carbon blynyddol buches Gymreig nodweddiadol, yn cynnwys 39 o wartheg magu, a faint o arian gallai hyn arbed i’r fferm bob blwyddyn, drwy gyfnewid y 39 o wartheg (yn pwyso 700kg) gyda gwartheg ysgafnach (yn pwyso 500kg).

Gallai lleihau maint gwartheg o 700kg i 500kg mewn buches Gymreig nodweddiadol:

leihau ei hôl-troed carbon blynyddol hyd at

13,293 kg CO2e1

gallai hyn hefyd arbed

£1,9501 i’r fferm bob blwyddyn heb effeithio ar gynhyrchiant

Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm y CO2e sy’n cael ei allyrru drwy yrru 32,500 o filltiroedd mewn cerbyd teithwyr cyffredin (e.e. car, fan, tryc ‘pickup’, ac ati.)3.

32,500

Buddion ychwanegol

  • Dangosodd astudiaeth Fferm Lan fod gwella effeithlonrwydd system besgi gwartheg yn y tymor hir wedi dod â buddion ariannol sylweddol yn y tymor canolig a thymor hir, ond daeth â buddion ar unwaith hefyd drwy ryddhau mwy o amser i ganolbwyntio ar agweddau eraill ar y fuches (e.e. sgorio cyflwr y corff).
  • Gallai lleihau maint y gwartheg hefyd wella ffrwythlondeb y fuches (i ddysgu rhagor am y buddion hyn, gweler y senario: Cynyddu nifer y lloi sy’n cael eu magu o 80% i 85%).

Sut gall Cyswllt Ffermio eich helpu i gyflawni hyn

  • Gall busnesau ffermio fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi amrywiol, cyngor technegol, digwyddiadau, a chyngor ar iechyd da byw a chynhyrchiant Cyswllt Ffermio; gan gynnwys gweithgareddau o fewn y Rhwydwaith Arddangos.
  • I gael mynediad i'r ystod lawn o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyswllt Ffermio.
  • Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Cymorth Cyswllt Ffermio

Cliciwch ar y linc isod i weld sut gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella effeithlonrwydd eich buches. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio gynorthwyo i wella sgiliau, roi mynediad i chi at gefnogaeth grŵp, a’ch ysbrydoli gyda syniadau newydd ac arloesol drwy’r Rhwydwaith Arddangos a'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth.

  1. Cyfrifwyd y canlyniadau ariannol ar sail data o’r adroddiad canlynol: Morgan, M., Ovens, H. (2017) Gwella effeithlonrwydd gwartheg sugno drwy sicrhau’r pwysau corff gorau i’r gwartheg. Fferm Lan, Cynwyl Elfed. Cyswllt Ffermio. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
  2. Mae cyfrifiadau CO2e yn seiliedig ar ôl-troed cyfartalog un fuwch (pwysau byw): EBLEX. (2012) Down to earth: The beef and sheep roadmap - phase three. EBLEX. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019]; Mae cyfrifiadau CO2e blynyddol yn seiliedig ar oedran buwch cyfartalog o 7 oed.
  3. Cyfrifwyd ar sail defnydd tanwydd effeithlon cyfartalog o 22 milltir i’r galwyn yn achos cerbydau teithwyr. Cyfrifwyd cyfwerthoedd gan ddefnyddio: EPA (d.d.) Greenhouse Gas Equivalencies Calculator. United States Environmental Protection Agency. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
Lleihau maint gwartheg o 700kg i 500kg

Cynyddu elw
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Pwysigrwydd priddoedd amaethyddol

Mae sector amaethyddol Cymru o dan bwysau cynyddol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae cyfle i’r sector helpu i liniaru newid hinsawdd, drwy storio (neu atafaelu) carbon mewn priddoedd ar ffurf carbon pridd organig (SOC). Mae priddoedd Cymru yn storio llawer iawn o garbon, a gan fod 85% o dir Cymru yn dir amaethyddol1, drwy fabwysiadu arferion trin pridd iach sy’n caniatáu i ragor o garbon gael ei storio, gall ffermwyr chwarae rhan allweddol yn cynnig buddion amaethyddol ac amgylcheddol pwysig.

Yn ogystal â lliniaru newid hinsawdd a bod o fudd i’r amgylchedd yn gyffredinol, gall mabwysiadu camau i wella lefelau SOC (e.e. llai o drin y tir ac osgoi gorbori a defnydd helaeth o wrteithiau) hefyd fod o fudd i ffermwyr yn uniongyrchol. Er enghraifft, gall lefelau uwch o SOC leihau erydiad a galluogi’r pridd i wrthsefyll llifogydd a sychder yn well, yn ogystal â gwella ffrwythlondeb y pridd gan arwain at gynhyrchedd uwch. Mae astudiaethau hefyd wedi dangos bod rheoli glaswelltiroedd yn effeithiol, gan gynnwys rheoli’r da byw sy’n pori arnynt (yn enwedig ar ddwysedd isel), yn gwella effeithlonrwydd y tir ar gyfer storio carbon.

Mae priddoedd yn storio 3.1 gwaith yn fwy o garbon na’r atmosffer2 a bron i 50% yn fwy na choedwigoedd yn fyd-eang3

Sut gall Cyswllt Ffermio eich helpu i gyflawni hyn

  • Gall busnesau ffermio fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi amrywiol, cyngor technegol, digwyddiadau, a chyngor ar iechyd da byw a chynhyrchiant Cyswllt Ffermio; gan gynnwys gweithgareddau o fewn y Rhwydwaith Arddangos.
  • I gael mynediad i'r ystod lawn o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyswllt Ffermio.
  • Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Cymorth Cyswllt Ffermio

Cliciwch ar y linc isod i weld sut gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella iechyd eich priddoedd. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio gynorthwyo i wella sgiliau, roi mynediad i chi at gefnogaeth grŵp, a dysgwch mwy am gyrsiau e-ddysgu, Cynllunio Rheoli Maetholion a gweithdai Meistr ar Briddoedd.

  1. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. (2018) Y Sector Ffermio yng Nghymru Briff Ymchwil, Senedd Ymchwil. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
  2. Oelkers, E. H., Cole, D. R. (2008) Carbon dioxide sequestration: a solution to the global problem. Elements, 4: 305-310.
  3. FAO. (2007) State of the world’s forests 2007. Food and Agricultural Organization of the United Nations. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
Pwysigrwydd priddoedd amaethyddol

Cynyddu elw
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Lleihau’r defnydd o nitrogen (fel gwrteithiau synthetig) o 10%

Pridd o’r ffrwythlondeb gorau posibl yw sylfaen pob busnes fferm llwyddiannus a phroffidiol, a gellir ychwanegu gwrteithiau at y pridd er mwyn ychwanegu at y maetholion hanfodol sydd eu hangen gan blanhigion er mwyn tyfu i’w llawn dwf. Fodd bynnag, gall problemau amgylcheddol godi pan fydd gormod o wrtaith synthetig yn cael ei ychwanegu at y pridd. Gall llunio Cynllun Rheoli Maetholion, er mwyn canfod cyflwr iechyd y pridd, fod yn gam pwysig i gyfrifo faint o wrtaith y dylid ei ychwanegu, os o gwbl. I ddysgu rhagor am bwysigrwydd cynnal priddoedd iach, gweler y senario: Pwysigrwydd priddoedd amaethyddol. Dyma enghraifft o faint gall lleihau’r defnydd o nitrogen (fel gwrteithiau synthetig) o 10% ar fferm Gymreig nodweddiadol (48 ha1) leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm, a faint gallai hyn ei arbed yn ariannol.

Gallai lleihau'r defnydd o nitrogen (fel gwrtheithiau synthetig) o 10% ar fferm Gymreig nodweddiadol (48 ha1):

leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol y fferm hyd at

8762 kg CO2e

gallai hefyd arbed

£1963 bob blwyddyn

Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm y CO2e sy’n cael ei allyrru drwy yrru 2,140 o filltiroedd mewn cerbyd teithio cyffredin (e.e. car, fan, tryc ‘pickup’, ac ati.)4.

2,140

Buddion ychwanegol

  • Trwy ddefnyddio gwrteithiau’n ofalus gellir lleihau faint o nitrogen sy’n cael ei golli o diroedd amaethyddol i ddyfrffyrdd, a all achosi problemau difrifol i ansawdd dŵr ac eco-systemau dyfrol, yn enwedig ar ffermydd sydd mewn Parthau Perygl Nitradau (NVZ).
  • Gall lleihau’r defnydd o wrteithiau i’r lefel gofynnol hefyd wella iechyd y pridd drwy leihau faint o asid sydd ynddo.

Sut gall Cyswllt Ffermio eich helpu i gyflawni hyn

  • Gall busnesau ffermio fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi amrywiol, gweithdai a digwyddiadau Cyswllt Ffermio ar iechyd pridd a chynllunio rheoli maetholion; gan gynnwys gweithgareddau o fewn y Rhwydwaith Arddangos.
  • I gael mynediad i'r ystod lawn o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyswllt Ffermio.
  • Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Cymorth Cyswllt Ffermio

Cliciwch ar y linc isod i weld sut gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella iechyd eich priddoedd. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio gynorthwyo i wella eich sgiliau, roi mynediad i chi at gefnogaeth grŵp, a dysgwch mwy am gyrsiau e-ddysgu, Cynllunio Rheoli Maetholion a gweithdai Meistr ar Briddoedd.

  1. Armstrong, E. (2016) Briff Ymchwil: Y Sector Ffermio yng Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
  2. Cyfrifwyd canlyniad yr allyriadau CO2e gan ddefnyddio data o’r adroddiad canlynol: House of Commons. (2018) UK progress on Reducing Nitrate Pollution: Eleventh Report of Session 2017-19. House of Commons Environmental Audit Committee. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019];
  3. Cyfrifwyd y canlyniadau ariannol ar sail data o’r erthygl ganlynol: Horne, S. (2019) New year opens with nitrogen price cut. Farmers Weekly. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
  4. Cyfrifwyd ar sail defnydd tanwydd effeithiol cyfartalog o 22 milltir i’r galwyn yn achos cerbydau teithwyr. Cyfrifwyd cyfwerthoedd gan ddefnyddio: EPA (d.d.) Greenhouse Gas Equivalencies Calculator. United States Environmental Protection Agency. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
Lleihau’r defnydd o nitrogen (fel gwrteithiau synthetig) o 10%

Cynyddu elw
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Cynyddu nifer y lloi sy’n cael eu magu o 80% i 85%

Bydd gwella effeithlonrwydd y system besgi gwartheg yn lleihau nwyon tŷ gwydr a gallai fod yn ffordd effeithiol o gynyddu allbynnau ac elw. Yn ogystal â lleihau pwysau’r fuches (gweler y senario: Lleihau maint gwartheg o 700kg i 500kg), gall ffermwyr wneud mân newidiadau realistig i gynyddu nifer y lloi sy’n cael eu magu. Dangoswyd bod cynyddu nifer y lloi sy’n cael eu magu o 80% i 85% yn lleihau ôl-troed carbon y fuches o 4% yn ogystal â chynyddu elw o tua £40.10 y fuwch fagu1. Dyma enghraifft o sut gallech chi, gyda buches nodweddiadol Gymreig yn cynnwys 39 o wartheg magu, leihau ei hôl-troed carbon a chynyddu’r refeniw drwy gynyddu nifer y lloi sy’n cael eu magu o 80% i 85%.

Gallai cynyddu nifer y lloi sy’n cael eu magu o 80% i 85% mewn buches fagu nodweddiadol Gymreig o 39 o wartheg:

leihau ei hôl-troed carbon hyd at

9,3121 kg CO2e

cynyddu refeniw y fferm

£1,5641

Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm y CO2e sy’n cael ei allyrru drwy yrru 22,770 o filltiroedd mewn cerbyd teithwyr cyffredin (e.e. car, fan, tryc ‘pickup’, ac ati.)2.

22,770

Sut gall Cyswllt Ffermio eich helpu i gyflawni hyn

  • Gall busnesau ffermio fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi amrywiol, cyngor technegol, digwyddiadau, a chyngor ar iechyd da byw a chynhyrchiant Cyswllt Ffermio; gan gynnwys gweithgareddau o fewn y Rhwydwaith Arddangos.
  • I gael mynediad i'r ystod lawn o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyswllt Ffermio.
  • Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Cymorth Cyswllt Ffermio

Cliciwch ar y linc isod i weld sut gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella effeithlonrwydd eich buches. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio gynorthwyo i wella eich sgiliau, roi mynediad i chi at gefnogaeth grŵp, a’ch ysbrydoli gyda syniadau newydd ac arloesol drwy’r Rhwydwaith Arddangos a'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth.

  1. Mae’r cyfrifiadau ariannol a CO2e yn seiliedig ar wybodaeth o’r adroddiad canlynol: Bord Bia. (2017) Sustainable Beef & Lamb Assurance Scheme. Bord Bia. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019]; mae cyfrifiadau CO2e yn seiliedig ar ôl-troed cyfartalog un fuwch (pwysau byw): EBLEX. (2012) Down to earth: The beef and sheep roadmap - phase three. EBLEX. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019];
  2. Cyfrifwyd ar sail defnydd tanwydd effeithlon cyfartalog o 22 milltir i’r galwyn yn achos cerbydau teithwyr. Cyfrifwyd cyfwerthoedd gan ddefnyddio: EPA (d.d.) Greenhouse Gas Equivalencies Calculator. United States Environmental Protection Agency. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
Cynyddu nifer y lloi sy’n cael eu magu o 80% i 85%

Cynyddu elw
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Cynyddu nifer yr ŵyn sy’n cael eu magu o 120% i 140%

Mae ffrwythlondeb yn ffactor hollbwysig wrth gynyddu cynhyrchiant y ddiadell. Mae cynyddu nifer yr ŵyn sy’n cael eu magu yn dechneg effeithiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu refeniw ar yr un pryd. Dangosodd astudiaeth a gynhaliwyd ar ran Hybu Cig Cymru gan IBERS, gyda chymorth KN Consulting ac Innovis1, y gallai cynyddu nifer yr ŵyn sy’n cael eu magu o 120% i 140% ostwng ôl-troed carbon y ddiadell o 9%. Dyma enghraifft o faint y gellid lleihau ôl-troed carbon y cig a gynhyrchir o ddiadell nodweddiadol Gymreig (677 o ddefaid), a chynyddu refeniw ar yr un pryd drwy gynyddu nifer yr ŵyn sy’n cael eu magu o 120% i 140%.

Gallai cynyddu nifer yr ŵyn sy’n cael eu magu mewn diadell nodweddiadol Cymreig (677 o ddefaid) o 120% i 140%:

leihau ôl-troed carbon y cig a gynhyrchir hyd at

35,7701 kg CO2e

gallai hyn hefyd gynyddu refeniw’r fferm hyd at

£2,1952

Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm y CO2e sy’n cael ei allyrru drwy yrru 87,455 o filltiroedd mewn cerbyd teithwyr cyffredin (e.e. car, fan, tryc ‘pickup’, ac ati.)3.

87,455

Sut gall Cyswllt Ffermio eich helpu i gyflawni hyn

  • Gall busnesau ffermio fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi amrywiol, cyngor technegol, digwyddiadau, a chyngor ar iechyd da byw a chynhyrchiant Cyswllt Ffermio; gan gynnwys gweithgareddau o fewn y Rhwydwaith Arddangos.
  • I gael mynediad i'r ystod lawn o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyswllt Ffermio.
  • Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Cymorth Cyswllt Ffermio

Cliciwch ar y linc isod i weld sut gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella effeithlonrwydd eich diadell. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio gynorthwyo i wella sgiliau, roi mynediad i chi at gefnogaeth grŵp, a’ch ysbrydoli gyda syniadau newydd ac arloesol drwy’r Rhwydwaith Arddangos a'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth.

  1. Cyfrifwyd y data ar allyriadau CO2e ar sail gwybodaeth o’r adroddiad canlynol: Hybu Cig Cymru. (2011) Dyfodol Cynaliadwy – Map Ffyrdd Cig Coch Cymru. Hybu Cig Cymru. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019]; Mae cyfrifiadau CO2e yn seiliedig ar ôl-troed carbon cyfartalog un dafad (pwysau marw): EBLEX. (2012) Down to earth: The beef and sheep roadmap - phase three. EBLEX. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019]; Mae cyfrifiadau CO2e yn seiliedig ar bwysau cyfartalog carcas oen o 19.4kg: Hybu Cig Cymru (2017) Pwysau cyfartalog carcasau y DU yn 2017. Hybu Cig Cymru. [Cyrchywd: 4 Tachwedd 2019].
  2. Cyfrifwyd y canlyniadau ariannol ar sail costau amrywiol cyfartalog a chyfartaledd pris y farchad o’r ddogfen ganlynol: Yr Arolwg Busnes Fferm yng Nghymru (Llyfryn Incwm Fferm Cymru – Canlyniadau 2017/18).
  3. Cyfrifwyd ar sail defnydd tanwydd effeithlon cyfartalog o 22 milltir i’r galwyn yn achos cerbydau teithwyr. Cyfrifwyd cyfwerthoedd gan ddefnyddio: EPA (d.d.) Greenhouse Gas Equivalencies Calculator. United States Environmental Protection Agency. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
Cynyddu nifer yr ŵyn sy’n cael eu magu o 120% i 140%

Cynyddu elw
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Gwaredu BVD o fuchesi gwartheg

Mae iechyd gwael buchesi gwartheg yn cynyddu cyfraddau marwolaeth ac yn effeithio ar les a chynhyrchiant. Gall profi am Ddolur Rhydd Feirysol Buchod (BVD) a’i waredu o ffermydd arbed llawer iawn o arian i fusnesau ffermio bob blwyddyn, gan fod y feirws yn effeithio ar fuchesi gwartheg ac anifeiliaid eraill sy’n cnoi cil. Yn ogystal â chynyddu elw, gall gwaredu BVD hefyd arwain at ostyngiad sylweddol yn y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu hallyrru gan y fuches. Dyma enghraifft o faint gallai gwaredu BVD o fuches wartheg Gymreig nodweddiadol yn cynnwys 39 o wartheg1 (gyda holl effeithiau’r clefyd) leihau ôl-troed carbon y fuches a faint o arian gallai hyn ei arbed i’r fferm.

Gallai gwaredu BVD o fuches Gymreig nodweddiadol yn cynnwys 39 o wartheg:

leihau ôl-troed carbon y fferm hyd at

70,2002 kg CO2e

gallai hyn hefyd arbed

£1,7553 i’r fferm bob blwyddyn

Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm y CO2e sy’n cael ei allyrru drwy yrru 171,640 o filltiroedd mewn cerbyd teithwyr cyffredin (e.e. car, fan, tryc ‘pickup’, ac ati.)4.

171,640

Buddion ychwanegol

  • Mae’r buddion a ddaw yn sgil gwaredu neu atal BVD yn llawer mwy na’r costau. Mae gwaredu BVD yn lleihau’r perygl o glefydau neu salwch cysylltiedig (e.e. niwmonia), gan leihau’r defnydd a’r gost o feddyginiaethau ychwanegol hefyd, yn benodol gwrthfiotigau.
  • Mae ffermwyr hefyd yn debygol o weld cynnydd yn nifer y lloi sy’n cael eu magu a gwell cynnydd o ran pwysau corff.

Sut gall Cyswllt Ffermio eich helpu i gyflawni hyn

  • Gall busnesau ffermio fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi amrywiol, cyngor technegol, digwyddiadau, a chyngor ar iechyd da byw a chynhyrchiant Cyswllt Ffermio; gan gynnwys gweithgareddau o fewn y Rhwydwaith Arddangos.
  • I gael mynediad i'r ystod lawn o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyswllt Ffermio.
  • Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
  • Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gwaredu BVD, rhaglen genedlaethol a sefydlwyd i waredu BVD o’r fuches Gymreig genedlaethol.

Cymorth Cyswllt Ffermio

Cliciwch ar y linc isod i weld sut gallai Cyswllt Ffermio eich helpu i wella iechyd a lles eich buches. Darganfyddwch sut y gallai Cyswllt Ffermio gynorthwyo i wella sgiliau, roi mynediad i chi at gefnogaeth grŵp, a’ch ysbrydoli gyda syniadau newydd ac arloesol drwy’r Rhwydwaith Arddangos a'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth.

  1. Cyfrifwyd y ffigyrau ar sail pwysau cyfartalog carcas sef 350kg y fuwch.
  2. Cyfrifwyd y data ar allyriadau CO2e ar sail pwysau cyfartalog carcas y fuches ac mae’n seiliedig ar ddata o’r adroddiad canlynol: ADAS (2015) Study to model the impact of controlling endemic cattle diseases and conditions on national cattle productivity, agricultural performances and greenhouse gas emissions. ADAS. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
  3. Cyfrifwyd yr wybodaeth ariannol ar sail data o wefan Gwaredu BVD.
  4. Cyfrifwyd ar sail defnydd tanwydd effeithlon cyfartalog o 22 milltir i’r galwyn yn achos cerbydau teithwyr. Cyfrifwyd cyfwerthoedd gan ddefnyddio: EPA (n.d.) Greenhouse Gas Equivalencies Calculator. United States Environmental Protection Agency. [Cyrchwyd: 4 Tachwedd 2019].
Gwaredu BVD o fuchesi gwartheg

Cynyddu elw Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr