Academi Amaeth

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac entrepreneuriaid gwledig

Mae’r rhaglen datblygu personol blaengar ac arloesol hwn bellach yn ei nawfed mlynedd gyda dros 250 o gyn aelodau. 

Mae’r Academi Amaeth, sy’n darparu rhaglen lawn o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad dros 3 sesiwn preswyl dwys a sesiynau rhithiol ychwanegol, yn cynnwys 2 elfen benodol: 

  • Rhaglen Busnes ac Arloesedd – wedi ei hanelu at gefnogi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ffermio ac arloeswyr yng Nghymru.
  • Rhaglen yr Ifanc - wedi ei hanelu at gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 19 mlwydd oed sy’n gobeithio dilyn gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiant bwyd neu ffermio. 

Mae ffenestr ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth 2023 ar gau.

 

Cliciwch ar y dolenni isod am fwy o fanylion am y rhaglenni.


Cerys Fairclough Academi Amaeth 2019 Agri Academy
Aduniad Academi Amaeth 2018 Agri Academy Reunion

Dyma rai profiadau o gyn-aelodau blaenorol yr Academi Amaeth:


Mae Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu mewn cydweithrediad â phrif sefydliadau amaethyddol eraill yng Nghymru sy'n ein cefnogi i chwilio am unigolion deinamig, brwdfrydig ac uchelgeisiol sy’n gallu gwneud cyfraniad at ein diwydiannau ffermio, coedwigaeth a bwyd. 

Maen nhw’n cynnwys:

  • Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CFAC)
  • NFU Cymru
  • Undeb Amaethwyr Cymru (UAC)
  • Cymdeithas y Tirfeddianwyr (CLA Cymru)
  • CFFI Cymru