John Goodwin

john goodwin crop 130x139 0

Mae John Goodwin (45) yn ffermio ger Llanandras lle mae'n cadw tua 800 o ddefaid Exlana nad oes angen eu cneifio ac sy’n cael eu bridio ar gyfer eu hansawdd a 60 o wartheg bîff Aberdeen Angus sy’n cael eu pesgi ar y fferm. Mae hefyd yn tyfu cnydau grawn ac mae ei wraig yn cadw llety gwely a brecwast – cwpwl prysur gyda theulu ifanc o oedran ysgol.

Mae John wrthi’n cwblhau gradd Meistr mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac effeithlon, ond er gwaethaf ei gefndir academaidd arbennig, dywed fod cymryd rhan yn Rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth wedi bod yn un o brofiadau gorau ei fwyd, a byddai’n ei argymell i ffermwyr o bob oed.

“Roedd angen cryn berswâd arnaf gan fy swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol a geisiodd fy annog i wneud y cais, oherwydd roeddwn wedi camsynio bod yr Academi Amaeth yn targedu ffermwyr ifanc yn unig.   

“Mae datblygiad personol yn bwysig waeth ym mha gyfnod o fywyd yr ydych, ac rwy’n meddwl mai’r cyfuniad o grwpiau oed amrywiol, gwahanol gefndiroedd pawb, a rhaglen hyfforddi a gweithgareddau wedi’i chynllunio’n dda iawn, sy’n gwneud y rhaglen hon mor llwyddiannus. 

“Gwnaeth pob un ohonom ffrindiau oes. Rydym yn cadw mewn cysylltiad a hefyd yn bwriadu sefydlu grŵp Agrisgôp newydd.” 

Dywed John ei fod wedi dysgu cymaint o’r her a wynebodd yn y Rhaglen Busnes ac Arloesedd. Roedd yn golygu ei fod yn gwneud rhywbeth nad oedd yn gyfforddus ag ef pan ofynnwyd i aelodau’r grŵp baratoi cynllun busnes ar gyfer arallgyfeirio busnes fferm ym Mryniau Mendip.

“Roedd gan y rhan fwyaf o’r ffermwyr yn ein grŵp ddealltwriaeth o’r hyn yr oedd y perchnogion yn ei wneud ond sylweddolwyd ei bod yn hanfodol canolbwyntio eich ymdrechion ar y prif feysydd perfformio. O ganlyniad i’r hyn a ddysgwyd, rwyf bellach yn neilltuo mwy o amser yn canolbwyntio ar y da byw a systemau marchnata newydd yn cynnwys creu gwefan newydd. 

Bu ymweliad astudiaeth y grŵp i’r Swistir o fudd mawr i John,

“Roedd yn ysbrydoliaeth gweld cynifer o ffermwyr y Swistir yn gweithio’n effeithlon a phroffidiol gyda llywodraeth gefnogol y tu cefn iddynt, er eu bod yn gweithredu y tu allan i’r UE.”