Dechrau Ffermio

Ydych chi eisiau mentro i redeg eich busnes ffermio neu goedwigaeth eich hun yn y dyfodol? Beth am ystyried menter ar y cyd?

Mae Cyswllt Ffermio yn gallu paru ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n barod i gamu’n ôl o’r diwydiant gyda newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i gychwyn ffermio yn annibynnol. Mae’n rhoi arweiniad i bobl ar y ddwy ochr trwy’r camau allweddol sydd angen eu cymryd i ganfod partner busnes posib. Mae'r pecyn cymorth yn cynnig gwasanaeth paru, mentora, cynllun busnes a chyngor cyfreithiol i ddarparu arweiniad ar bob cam o sefydlu menter ar y cyd.

Cliciwch ar y cyfloedd a restrir isod i ddarganfod mwy am y tirfeddiannwr, y fferm, a gofynion y rôl a/neu'r potensial ar gyfer menter ar y cyd. 

Cliciwch yma i gael eich cynnwys ar rhestr bostio ac i gael gwybod pan fydd cyfleodd newydd ar gael.

Cyfleoedd Mentrau ar y Cyd:

Cyfle #124

Lleoliad: LPencader, Sir Gar

Sector: Defaid

Tir: 128 erw / 52ha

Cytundeb: Cytundeb ffermio cyfran

Cyfle #127

Lleoliad: Rhwng Bala a Thrawsfynydd

Sector: Defaid

Tir: 2,500 erw

Cytundeb: Menter ar y cyd

Dyddiadu cau i ymgeisio: 14/02/2026

Cyfle #785

Lleoliad: Gogledd Sir Fynwy

Tir: 275 erw / 111 Ha

Da Byw: 75 o Wartheg Bîff

Cytundeb: Menter ar y Cyd

Cyfle #858

Lleoliad: Aberdâr / Merthyr Tudful

Tir: 35 Ha / 85 erw

Cyfle: 45 o Wartheg Duon Cymreig Pedigri sy'n magu

Cytundeb: Gytundeb yn agored i drafodaeth

Ydych chi'n dirfeddiannwr sy'n chwilio am bartner busnes?

Cliciwch yma i lewni Proffil Darparwr neu cysylltwch a'n Hwylusydd Olyniaeth er mwyn trafod eich opsiynau ar gyfer hysbysebu eich cyfle.

Oes oes gennych bartner busnes eisioes mewn golwg ac nad oes angen i chi ddefnyddio'r gwasanaeth paru gallwch osgoi'r cam hwn a symud ymlaen i gael mynediad at gyngor busnes a chyfreithiol ar unwaith. Mae’r cyngor wedi ei ariannu’n llawn i unrhyw un sy’n sefydlu menter ar y cyd.

I drafod eich gofynion, cysylltwch a'n Hwylusydd Olyniaeth:

Eiry Williams - 07985 155670 / eiry.williams@menterabusnes.co.uk