13 Mawrth 2024

Mae angen dewrder a gweledigaeth i ail-forgeisio’r cartref teuluol i brynu tir i dyfu llysiau a blodau organig ar raddfa fasnachol, ond gwnaeth Emma Maxwell a Dave Ashley y penderfyniad beiddgar hwnnw a, thrwy fanteisio ar gymorth Cyswllt Ffermio ar hyd y ffordd, mae eu busnes garddwriaeth yn datblygu flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Ni wnaethant ddechrau ym maes garddwriaeth o’r dechrau pan sefydlodd Garddwriaeth Ash&Elm yn Old Hall, Llanidloes, yn 2011.

Am 11 mlynedd roedden nhw wedi rhentu llain un erw gerllaw, gan dyfu cynnyrch ffres i fwydo eu teulu i ddechrau wrth werthu llysiau dros ben i siop organig leol.

Cawsant ergyd pan ddaeth y perchennog â'r brydles i ben ond fe wnaethant droi’r digwyddiad annisgwyl hwnnw yn gyfle trwy brynu pum erw gan ffermwr organig lleol.

Ar £10,000 yr erw roedd yn fuddsoddiad sylweddol, ond gan ei fod yn wynebu'r de a gyda phridd da roedd yn “gyfle unwaith-mewn-oes'', meddai Emma.

“Fe wnaethom y penderfyniad i ail-forgeisio’r tŷ i’w brynu oherwydd nid oedd y cyfle i gael tir fel yna mor agos i’n cartref am godi eto.’’

Aethant ati i blannu'r safle a sefydlu isadeiledd fel twneli polythen tra parhaodd Emma â'i swydd 'bob dydd, fel tiwtor garddwriaeth mewn coleg lleol ac yn y gymuned. 

Er mwyn helpu i lywio’r broses honno, aethant i ddigwyddiadau a diwrnodau hyfforddiant Cyswllt Ffermio, gan gynnwys ymweliad astudio â Fferm Langtons yn Sir Fynwy, lle cawsant awgrymiadau ar sut i fod yn gynhyrchiol drwy ddefnyddio offer ar raddfa fach sy’n arbed amser.

Ddeuddeg mlynedd ar ôl iddynt brynu eu tir, mae Emma a Dave bellach yn cyflenwi bocsys llysiau wythnosol i 40 o deuluoedd, yn gwerthu cynnyrch ym marchnad stryd Machynlleth ac yn cyflenwi manwerthwyr, cyfanwerthwyr a bwytai.

Mae rhai o’r gwerthiannau hynny’n cael eu cynhyrchu ar-lein - agwedd ar y busnes lle'r oedd Cyswllt Ffermio unwaith eto’n gallu rhoi cymorth gydag arweiniad ar farchnata digidol.

“Roedd hynny’n fuddiol iawn oherwydd roeddem ni wedi datblygu o chwarae o gwmpas gyda thyfu llysiau i gael busnes masnachol da, gan werthu blodau, ffrwythau a chnau hefyd, ac roedd hynny’n golygu bod angen i ni ddysgu llawer o bethau nad ydym ni wedi ein hyfforddi ynddynt fel y cyfryngau cymdeithasol, marchnata a gwaith gweinyddol,'' meddai Emma.

“Mae cael cymorth gan Cyswllt Ffermio wedi ein helpu ni i leisio'r hyn rydym ni'n ei feddwl, bob tro rydym ni'n siarad â rhywun arall am syniad sydd gennym ni, mae'n dod ychydig yn fwy real.''

Roedd sesiwn fusnes wedi’i hariannu gan Cyswllt Ffermio yn arbennig o ddefnyddiol, ychwanega. “Roedd gan y siaradwr gefndir mewn garddwriaeth ac roedd hefyd yn ymgynghorydd busnes, ac un o’r cwestiynau cyntaf a ddywedodd wrthym oedd i ni ofyn i ni’n hunain oedd faint oedd angen i ni ei ennill o’r busnes. Tan hynny roeddem wedi gwneud popeth yn fyrbwyll ond bu i'r sesiwn honno ein helpu i ganolbwyntio ein meddyliau ar sut yr oedd angen i ni fabwysiadu agwedd fwy masnachol.''

Rhoddodd yr hyder iddynt edrych ar bethau’n wahanol, megis ehangu i werthu’r bocsys llysiau gydol y flwyddyn yn hytrach nag am chwe mis yn unig, trwy sicrhau cyflenwad gan dyfwyr organig lleol eraill.

Nid yn unig y mae hynny’n golygu incwm ychwanegol i’r tyfwyr hynny ond mae Garddwriaeth Ash&Elm wedi gallu darparu cyflogaeth hefyd, gan gynnwys penodi Anna Ross yn aelod parhaol o staff; ymunodd â nhw yn gyntaf fel gwirfoddolwr ac yna daeth yn brentis.

“Ar ôl gweithio’n galed am ddegawd, rydym ni nawr yn anelu i fod mewn sefyllfa lle mae gennym ni dîm o chwech, gan roi system wydn i ni lle gallwn ni gael diwrnodau i ffwrdd,’’ meddai Emma.

Y fenter nesaf yw gwerthu'r blodau y maent yn eu tyfu ar eu tir ar-lein.

Mae'r pâr wedi tyfu blodau ochr yn ochr â'r llysiau ers 25 mlynedd ac wedi dechrau anfon blodau ar raddfa fach yn ystod y pandemig, pan oedd pobl eisiau postio blodau at deulu a ffrindiau. Gyda chymorth gan Cyswllt Ffermio ar farchnata drwy’r cyfryngau cymdeithasol maent bellach yn ehangu ar hynny gyda lansiad 'Welsh Flower Barrow'.

Fel tiwtor, mae Emma yn deall gwerth datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ac anogodd garddwyr eraill i gael mynediad at hyn trwy wasanaethau Cyswllt Ffermio.

“I mi, mae DPP wedi fy ngwneud yn well garddwr. Mae dulliau'n newid a thrwy fynd ar ymweliadau astudio neu gofrestru ar gyrsiau mae wedi fy ngwneud yn ymwybodol o'r syniadau diweddaraf a'r offer a all ein helpu i fod yn well yn yr hyn a wnawn.''
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o