09 Medi 2024

Gall buddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau a chyngor busnes fod yn ddrud i fferm deuluol, ond mae sicrhau cyrsiau a gwasanaethau Cyswllt Ffermio sydd wedi’u hariannu’n rhannol ac yn llawn wedi lleihau’r baich ariannol i gynhyrchydd dofednod a da byw trydedd genhedlaeth o Sir Faesyfed.

Mae George Wozencraft yn dilyn ôl traed ei daid, Abraham, a’i dad, Malcolm ar fferm Glanalders, Nantmel.

Cynhyrchir bîff o fuches sugno sydd â 30 buwch ac ŵyn o 250 o famogiaid Miwl Cymreig a Mamogiaid Cymreig wedi’u gwella.

Yn 2011, arallgyfeiriodd y teulu Wozencraft i gynhyrchu wyau maes gyda system 16,000 o adar, gan gynhyrchu wyau i Stonegate o ieir Clarence Court.

Er mwyn helpu i roi’r busnes ar sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol, mae George wedi defnyddio ystod o wasanaethau Cyswllt Ffermio.

Fel aelod o’i grŵp trafod busnes yn Sir Faesyfed, mae wedi cael ei annog i asesu pob agwedd ar ei fusnes, gan gynnwys craffu ar gostau.

Mae'r ymarfer hwn wedi bod yn amhrisiadwy i'w helpu i ddeall pa fentrau sy'n perfformio orau, i lywio twf a buddsoddiad wrth symud ymlaen.

I adeiladu ar hyn, mae George hefyd wedi cwblhau cwrs e-ddysgu Cyswllt Ffermio ar ddeall hanfodion busnes llwyddiannus ac mae wedi cwblhau cwrs cadw llyfrau trwy raglen sgiliau Cyswllt Ffermio.

O dan Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, mae wedi cychwyn ar brosiect i’w helpu i wella effeithlonrwydd a lles y dofednod, wrth rannu’r wybodaeth honno â chynhyrchwyr eraill hefyd.

Mae'r prosiect wedi cynnwys newid goleuadau stribed gyda goleuadau LED i ddod yn fwy 
hunangynhaliol o ran ynni wrth wella iechyd a lles adar a lleihau ôl troed carbon y fferm.

“Rydym yn edrych ar ein costau trydan a’r arbedion yr ydym yn eu gwneud, ac unrhyw welliannau i les adar o gael goleuadau dwysedd isel, ’’ eglura George.

Bydd canlyniadau'r prosiect hwn ar y fferm, sydd wedi cynnwys mewnbwn gan ei baciwr, milfeddyg a chyflenwr geneteg, yn cael eu rhannu â ffermwyr eraill yn hwyrach yr hydref hwn mewn digwyddiad agored.

Er mwyn gwella effeithlonrwydd ymhellach, mae hefyd yn targedu maetholion a gynhyrchir gartref i'r mannau lle mae eu hangen, wedi'i lywio gan Gynllun Rheoli Maetholion a ariennir gan Cyswllt Ffermio.

Cymerwyd ugain sampl pridd, ac, yn seiliedig ar y canlyniadau hyn, defnyddiwyd calch i wella lefelau pH a lleihau dibyniaeth ar wrtaith synthetig.

Mae Cyswllt Ffermio nid yn unig wedi helpu i annog y dull cyfrifol hwnnw o ymdrin â ffrwythlondeb y pridd ond hefyd defnyddio meddyginiaeth yn gyfrifol ac effeithiol.

Trwy glinig Cyswllt Ffermio a oedd yn cynnwys milfeddygon Ddole Road mae George yn dweud ei fod bellach yn deall yn well pa mor bwysig yw defnyddio gwrthfiotigau pan a ble mae eu hangen yn unig.

“Canolbwyntiodd y clinig fy meddwl ar werth targedu triniaethau, nid yn unig y manteision o leihau'r rheini i atal ymwrthedd ond lleihau ein costau hefyd oherwydd os nad oes angen i ni ddefnyddio gwrthfiotigau yna rydym yn arbed arian.''

Mae diogelwch fferm a chymorth cyntaf yn flaenaf yn meddwl George gyda marwolaethau a damweiniau diweddar yn ymwneud â chyd-ffermwyr.

Er mwyn sicrhau ei fod yn gwybod yn well sut i ymateb mewn sefyllfa o argyfwng mae wedi dilyn cwrs cymorth cyntaf yn y gweithle mewn argyfwng, a ariennir yn rhannol gan Cyswllt Ffermio, ac mae wedi cwblhau modiwl e-ddysgu iechyd a diogelwch.

Mae gwraig George, Kate, yn nyrs ond pe bai argyfwng meddygol yn codi tra ei bod oddi ar y fferm, roedd yn gwybod bod angen iddo fod mewn sefyllfa i ymateb.

Bu i ychwanegiad newydd i'r teulu, sef eu mab, Bertie, ychwanegu arwyddocâd pellach i hynny.

Pan fydd George yn edrych tuag at y dyfodol, mae hefyd yn gwerthfawrogi bod llawer o wybodaeth y gall ei hennill gan ffermwyr sydd wedi bod yn y diwydiant am gyfnod hwy nag ef.

Felly, gwnaeth gais i wasanaeth mentora Cyswllt Ffermio a chafodd ei baru â’r cynhyrchydd bîff a defaid John Yeomans.

“Roeddem ni am wella cyfraddau lloia a chyfraddau twf ein lloi ac roeddem ni'n gwybod bod John yn esiampl dda o ran sut i gynhyrchu gwartheg yn dda, rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at weithio trwy rai o'n problemau gydag ef,'' meddai George.

Ar ôl profi’n uniongyrchol y manteision y mae gwasanaethau Cyswllt Ffermio wedi’u rhoi iddo ef yn bersonol ac i fusnes y fferm, mae’n annog ffermwyr eraill i fanteisio ar y rhain hefyd.

“Doeddwn i erioed wedi bod yn rhywun i wneud y mwyaf o'r hyn sydd ar gael tan yn ddiweddar, ond rydw i mor falch fy mod i nawr,'' meddai.

“Os na fyddwn ni’n defnyddio’r gwasanaethau hyn, efallai na fyddan nhw ar gael i ni ryw ddiwrnod.

“Mae cymaint ohonynt yn cael eu hariannu’n sylweddol neu'n cael eu hariannu'n llawn, nid yw'n gwneud synnwyr i beidio â gwneud defnydd llawn o'r hyn sydd ar gael.''

Mae gweithgareddau sy’n cael eu cwblhau yn cael ei gofnodi'n awtomatig ar adnodd storio data ar-lein diogel Cyswllt Ffermio, 'Storfa Sgiliau' a gellir ei gyrchu'n hawdd unrhyw bryd.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter
Ffermwr yn cael y gorau o’i gnydau gyda chymorth cwrs agronomeg wedi’i gefnogi gan Cyswllt Ffermio
29 Awst 2024 Gall poblogaethau chwyn, plâu a chlefydau effeithio
Modiwlau e-ddysgu am ddim yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ar fferm deuluol
27 Awst 2024 Mae bioamrywiaeth yn ganolog i ddull Peter a Cathryn