13 Mawrth 2026

Daeth Iwan Davies a'i rieni, Brian a Nicky, yn ffermwyr newydd ddyfodiaid yn 2013 pan wnaethant ymgymryd â thenantiaeth Meity Isaf, sef fferm 66-hectar (ha) ger Trecastell, Powys.

Roedd Iwan, sydd bellach yn 28 oed ac yr ieuengaf o dri o blant Brian a Nicky, yn dymuno ffermio a daeth y cyfle hwnnw pan wnaethon nhw sicrhau Tenantiaeth Busnes Fferm 10 mlynedd, sydd bellach wedi'i hadnewyddu ers hynny.

Mae Brian, a fagwyd ar fferm, wedi parhau i weithio fel fforman adeiladu ac mae gan Nicky swydd ran-amser fel cynorthwyydd personol tra bod Iwan yn ffermio'n llawn amser.

O ganlyniad i adnewyddu’r Denantiaeth Busnes Fferm, rhoddwyd yr hyder a'r sefydlogrwydd i’r teulu Davies fuddsoddi yn y busnes, gan gynnwys gwella'r ddiadell o ddefaid Cheviot Mynydd Brycheiniog yn bennaf.

Cymerodd y teulu ddiadell y fferm o 450 o famogiaid a 120 o ddefaid cyfnewid gyda'r denantiaeth, gan gynnal y nifer hwnnw a chyflwyno nifer fach o famogiaid Miwl Cymreig croes trwy droi mamogiaid pedair oed at hwrdd Wyneblas Caerlŷr.

Yn 2023, gwnaeth y busnes gais llwyddiannus i ymuno â Rhaglen Geneteg Defaid Cymru (WSGP) Cyswllt Ffermio i ddefnyddio cofnodi perfformiad i wella'r ddiadell yn enetig.

Mae Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau) bellach yn cael eu defnyddio i wella nodweddion dethol, gan gynnwys maint y dorllwyth a chyfraddau twf ŵyn, a mamogiaid a all gynnal cyflwr corff yn well.

Y nod terfynol yw bridio'r famog sy'n perfformio orau ar gyfer y system, meddai Iwan.

“Fel ffermwyr tenant rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i fod mor effeithlon a phroffidiol â phosibl, ac i ni mae hynny’n cynnwys defnyddio offer cofnodi perfformiad i ddod o hyd i anifail sy’n addas ar gyfer amgylchedd y fferm a sut rydym yn ffermio - unwaith y bydd yr eneteg honno yn y ddiadell, maent yn parhau.”

“Os yw eich ŵyn yn pesgi’n gynt ar laswellt ac yn pwyso mwy yna mae'n amlwg y byddant yn fwy proffidiol.”

Mae'r ddiadell yn bennaf yn cynnwys mamogiaid â mynegeion yn y 10% uchaf ar gyfer eu brîd, yn seiliedig ar berfformiad.

Ar ôl dim ond dau dymor ŵyna, mae enillion bychain eisoes wedi'u cyflawni trwy gofnodi perfformiad gyda chynnydd o 0.2kg ym mhwysau ŵyn wyth wythnos oed a gwelliant o 4% yng nghyfraddau goroesi ŵyn. Mae mynegai goroesi ŵyn wedi cynyddu o 0.18 i 0.22 ers dod yn rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru.

Yn 2025, diddyfnodd y mamogiaid a oedd â mynegai uwch yn y ddiadell oen a oedd 4.2 kg yn drymach ar gyfartaledd na’r mamogiaid a oedd â mynegai is.

Un o'r enillion mwyaf fu cyfle i werthu ŵyn am bris uwch gan fod cyfran o'u gwerthiannau i Dunbia bellach yn gymwys i gael cynnydd o 30c/kg yn y pris fel cyflenwr aur i gynllun “Taste the Difference Sainsbury's” ar gyfer ŵyn – mae tua 70% o ŵyn y teulu Davies yn gymwys ar gyfer y pris uwch hwnnw.

“I ni mae hynny’n cyfateb i gyfartaledd o £6 yr oen,” meddai Iwan. “Fe wnaeth cofnodi perfformiad ein helpu ni i ymuno â’r cynllun oherwydd un o’r meini prawf yw eich bod yn defnyddio Gwerthoedd Bridio Tybiedig.”

Mae darparu dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) yn ofyniad arall, ychwanega. “Mae cofnodi perfformiad yn rhoi’r holl ddata i ni felly’r cyfan sydd raid i ni ei wneud yw tynnu ein dangosyddion perfformiad allweddol o’r ffigurau hynny sy’n gwneud popeth yn haws.’’

Lleihau cost cynhyrchu yw ei brif nod o ran gwella geneteg. “Dyna oedd un o’r prif resymau dros ymuno â’r rhaglen, er mwyn cynhyrchu mwy o’r un mewnbynnau ag o’r blaen.

“Mae gennym hawliau pori ar y mynydd felly os gallwn gynhyrchu dafad a all wneud yn well ar y mynydd, byddwn yn defnyddio llai o wrtaith a dwysfwyd, ac mae hynny i gyd yn golygu cost cynhyrchu is.

“Mae’n ecogyfeillgar hefyd oherwydd os nad ydym yn gwario ar ddwysfwyd ac yn bwydo glaswellt y gallwn ei dyfu gartref, bydd gan ein hŵyn ôl troed carbon is.”

Dewiswyd tri chant o famogiaid i'w cofnodi ac mae rhai defaid cyfnewid wedi cael eu bridio o'r rhain ers hynny.

Mae tagiau EID ar yr epil a chymerir samplau DNA o'u clustiau yn wyth wythnos oed. Mae dadansoddiad o'r DNA yn cael ei baru â dadansoddiad y mamogiaid a'r hyrddod a ddefnyddir, er mwyn caniatáu i ni neilltuo’r llinach.

Mae cael y ffigurau hynny yn caniatáu i benderfyniadau bridio gwell gael eu gwneud, gan ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar y teulu Davies i benderfynu pa hyrddod a mamogiaid sy'n cynhyrchu'r epil sydd fwyaf addas ar gyfer Meity Isaf a'r tir mynydd.

Maen nhw wedi buddsoddi mewn hwrdd lle mae ei berfformiad wedi’i gofnodi, sydd wedi'i brynu'n uniongyrchol gan fridiwr, ac mae wedi talu ar ei ganfed.

“Pan es i drwy’r ŵyn hyrddod yn 2025, wnes i ddim gwneud hynny o fy ffigurau i ddechrau, dewisais yr ŵyn mynydd gorau yn lle hynny, ond pan wiriais, sylweddolais eu bod nhw i gyd yn epil i’r hwrdd hwnnw lle’r oedd ei berfformiad wedi’i gofnodi,’’ meddai Iwan.

Nid y data yn unig sy'n dangos y gwelliannau, mae gwahaniaeth gweledol hefyd.

“Mae rhai o’r mamogiaid yn cynnal eu cyflwr yn well a gallwn weld mai’r rhain yw’r mamogiaid sydd â mynegai uwch oherwydd ein bod wedi’u tagio yn unol â hynny,’’ meddai Iwan.

Mae mamogiaid sy'n cario gefeilliaid yn cael eu cadw dan do hyd at wyth wythnos cyn wyna, yn dibynnu ar y tywydd, ac yn cael dwysfwyd sy’n cynnwys 18% o brotein a gwair.

Yn hanesyddol, roedd y mamogiaid a oedd yn cario un oen yn pori maip cyn wyna yn yr awyr agored ond eleni maen nhw ar 2.8ha o rêp a rhygwellt Eidalaidd gan y bydd hyn yn darparu porfa yn y gwanwyn hefyd.

Mae rhai o'r ŵyn cynnar yn cael dwysfwyd i gyflymu'r broses besgi o ganol mis Mehefin i gefnogi llif arian, ond mae'r mwyafrif yn cael eu pesgi oddi ar laswellt. O ganlyniad i bris cryf am ŵyn stôr yn 2025 cafodd y rhai a oedd yn cymryd mwy o amser i’w pesgi eu gwerthu drwy'r farchnad honno.

Dywed Iwan nad oes unrhyw anfanteision i gofnodi perfformiad ond gall yr amser a'r llafur sy'n ofynnol fod yn her.

“Gall ei gynnwys mewn diwrnod sydd eisoes yn brysur fod braidd yn anodd a hefyd gall fod yn anodd cadw ar y blaen â’r cyfan.”

Cyn dechrau cofnodi perfformiad, fe wnaeth taith astudio Cyswllt Ffermio yn yr Alban yn ogystal â diwrnod hyfforddiant ei alluogi i ddeall sut roedd ffermwyr defaid mynydd eraill yn defnyddio'r system hon.

Er bod pob fferm yn wahanol, mae Iwan yn dweud fod manteision pendant i gofnodi perfformiad oherwydd ei fod wedi rhoi gwell dealltwriaeth iddo o'i ddiadell a sut mae'n perfformio.

“Mae’n ein hatal rhag cael ein dargyfeirio gan ein bod yn cael ein gorfodi i gadw ar y blaen â data - mae’r atebolrwydd hwnnw’n gwneud i chi gadw ar ben y peth,’’ meddai.

“Mae pob busnes cryf yn dibynnu ar sylfeini cadarn, ac mae ein diadell yn sail i berfformiad a gwerth pob oen a aned.”
Mae diadelloedd sy'n cymryd rhan yn rhaglen Geneteg Defaid Cymru wedi elwa o gymorth ariannol ar gyfer casglu data, cyngor ac arweiniad ar osod targedau cyraeddadwy ar gyfer gwelliannau i'r ddiadell, cyfleoedd i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol bynciau sy'n effeithio ar gynnydd genetig, a chyfle i fod yn rhan o brosiectau ymchwil arloesol.
Mae gan bob diadell gynllun gweithredu bridio ac maen nhw hefyd yn derbyn adolygiad blynyddol o berfformiad eu diadell.

Mae hyn yn rhoi cyfle i ffermwyr adolygu sut mae eu mamogiaid yn perfformio, meddai Gwawr Williams, Pennaeth Geneteg Defaid yn Mentera, sy'n cyflwyno’r rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae ffermwyr yn sylweddoli fwyfwy'r manteision o wella eu diadell trwy eneteg, boed drwy gofnodi perfformiad llawn y ddiadell, neu brynu hyrddod gydag EBVau, meddai hi.

“Drwy gasglu dangosyddion perfformiad allweddol cychwynnol a gwybodaeth am y ddiadell sy’n cymryd rhan ar gyfer y cynllun gweithredu bridio, roedden ni’n gallu nodi meysydd i’w gwella’n enetig.

“Yna mae’r adolygiadau blynyddol yn caniatáu i ffermwyr weld y cynnydd ym mherfformiad eu diadell, a hefyd gwybodaeth fanwl am bob anifail unigol – sy’n caniatáu iddynt wneud penderfyniadau bridio cyfiawn a chanolbwyntio ar nodweddion allweddol y maent am eu gwella o fewn eu diadell eu hunain.”

FFEITHIAU AM Y FFERM

Tir yn codi o 1,000m  i 1,400m

Hawliau pori i 600 o famogiaid ar y Fforest Fawr

Mamogiaid cyfnewid yn gaeafu yn Sir Benfro

Canran sganio cyfartalog o 110%

Pwysau marw cyfartalog o 17-19kg, R3L ar y mwyaf

Nifer fach o wartheg sugno Henffordd a moch

Mae bocsys cig eidion a phorc 'Meity Isaf' yn cael eu gwerthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gwasanaeth Mentora Cyswllt Ffermio yn cefnogi entrepreneur ifanc o Bowys i dyfu busnes llwyddiannus yn dilyn heriau
07 Hydref 2025 Mae Charlie Cooper Harding yn unigolyn dynamig
Canfyddiadau asesiadau ôl troed carbon o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio - astudiaethau achos llaeth a chig coch
18 Awst 2025 Fel rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio
Agrisgôp yn helpu tyfwyr perlysiau o Gymru i atgyfnerthu eu busnesau
31 Gorffennaf 2025 Mae grŵp o dyfwyr o Gymru sy’n rhannu angerdd