31 Gorffennaf 2025
Mae grŵp o dyfwyr o Gymru sy’n rhannu angerdd dros berlysiau a’u llu o ddefnyddiau yn sbarduno syniadau busnes newydd ac yn adeiladu ar eu ffrydiau refeniw presennol diolch i un o fentrau blaengar Cyswllt Ffermio.
Gyda dyheadau’n amrywio o sicrhau gwell prisiau am gnydau presennol a chreu incwm ychwanegol drwy arallgyfeirio i dyfu cnydau newydd, i archwilio llwybrau i’r farchnad ar gyfer perlysiau at ddibenion meddygol, arlwyo ac eraill, mae’r tyfwyr yn datblygu rhai o’u syniadau gyda chymorth Agrisgôp.
Mae’r rhaglen ddatblygu hon sydd wedi’i hariannu’n llawn yn annog ffermwyr cymwys i ddod ynghyd, nid yn unig i ddatblygu eu busnesau, ond hefyd i fagu hyder a meithrin sgiliau personol drwy ddysgu gweithredol.
Mae rhai o’r tyfwyr yn y grŵp a ffurfiwyd gan yr arweinydd Agrisgôp Jacqui Banks yng ngorllewin Cymru yn dyfwyr perlysiau profiadol, ac eraill yn newydd ddyfodiaid i arddwriaeth, neu’n dymuno ychwanegu perlysiau at eu mentrau presennol.
Mae’r rhain yn cynnwys Salena Walker sy’n ffermio pedwar hectar yn Sir Gâr, yn Ysbryd y Coed, Hebron, ac sy’n defnyddio’r rhan fwyaf o’r perlysiau a dyfir ganddi o fewn ei busnes Wild Welsh Herbalism.
Mae Salena yn cynnal cyrsiau lle gall cyfranogwyr ddysgu sut i dyfu neu chwilota am berlysiau yng Nghymru a sut i’w defnyddio at ddibenion meddygol ac arlwyo.
Fel maethegydd, natur-iachäwr a pherlysieuydd gydag ugain mlynedd o brofiad, mae dysgu ac addysg yn un o’i blaenoriaethau.
Ymunodd â’r grŵp Agrisgôp i gysylltu gyda thyfwyr eraill gan fod sicrhau cyflenwad parod ac amrywiol o berlysiau ar gyfer ei chleientiaid yn allweddol i’w gwaith fel perlysieuydd.
Cynigiodd Agrisgôp hefyd gyfle i drafod ei syniadau busnes gydag eraill, i rwydweithio ac i ddatblygu ei chysylltiadau.
Dywed Salena fod pob un sesiwn wedi bod o fudd iddi, gan gynnwys y nifer o gyfarfodydd dan arweinydd siaradwr gwadd ac ymweliadau â thyfwyr perlysiau.
“Roedd yr ymweliadau’n ysbrydoledig. Cefais fudd mawr o weld yr hyn yr oeddent yn ei wneud. Fe wnaeth i mi sylweddoli’r hyn sy’n bosibl.”
Ond dywedodd ei bod wedi elwa fwyaf o’r sesiynau grŵp penodol. “Roedd Jacqui yn arwain y grŵp mewn modd a oedd yn ein cynorthwyo i ddadansoddi ein busnesau,” meddai.
O ganlyniad, sylweddolodd Salena ei bod yn ceisio gwneud gormod o fewn ei busnes. Llwyddodd Agrisgôp i’w galluogi i ganfod ble’r oedd angen iddi ganolbwyntio ei hamser, sef ar agwedd addysgiadol ei menter.
“Roeddwn i’n ymwybodol iawn fy mod yn agosáu tuag at sefyllfa o wneud gormod, ac nad oedd ceisio gwneud popeth yn gynaliadwy,” meddai.
“Byddaf yn parhau i dyfu perlysiau, ond rydw i bellach wedi symud i gyfeiriad addysg gyda chyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein a llai o ymgynghoriadau un i un a fydd yn ddefnydd gwell o’m hamser. Heb ystyried hynny yn y grŵp, nid wyf yn siŵr a fyddem wedi cyrraedd y cam hwn eto.’’
Mae aelodau eraill o’r grŵp hefyd wedi gwneud newidiadau o fewn eu busnesau. Roedd un pâr wedi prynu tir er mwyn datblygu gardd farchnad yn cynnwys perlysiau, ac roedd tyfwr arall wedi creu gardd farchnad a maes gwersylla ar ei fferm, gan ddefnyddio ei gardd berlysiau ac addysg am berlysiau i ddenu ymwelwyr.
Mae'r prif dyfwr ar fferm ofal bellach yn tyfu cnwd pur o felyn Mair a balm lemon fel cnydau masnachol i ychwanegu at werthiannau perlysiau coginio presennol.
I un aelod o’r grŵp, Bob Weatherhead, mae bod yn rhan o'r grŵp wedi creu ffrwd incwm newydd o ganlyniad i dyfu erwain, a sefydlwyd fel cnwd o dan ei system amaeth goedwigaeth ar 13ha ger Boncath.
Digwyddodd hyn o ganlyniad uniongyrchol i gysylltu gydag un o'r siaradwyr, sef proseswr perlysiau meddygol yng Nghymru.
Bydd Bob yn gwerthu’r erwain i’w fusnes pan mae’n barod i’w gynaeafu.
Roedd hefyd yn ddefnyddiol iddo ddysgu gan siaradwr arall bod modd tyfu erwain o'r gwreiddgyff ymledol, nid o'r hadau'n unig.
Mae cymryd rhan yn y rhaglen Agrisgôp wedi rhoi’r hyder i Bob dyfu a marchnata’r perlysiau, gan ei alluogi i wneud gwell defnydd o’i dir.
“Roedd yn grŵp amrywiol iawn ac roedd hynny’n hynod o bwysig, i gael tyfwyr a defnyddwyr terfynol,” meddai.
Mae’r grŵp yn gobeithio parhau i gyfarfod unwaith y flwyddyn yn y dyfodol ar ffurf Rhwydwaith Garddwriaeth Cyswllt Ffermio.