24 Mawrth 2026

Gallai recordiadau o adar a gasglwyd ar dir fferm ledled Cymru gael eu defnyddio i gynorthwyo i wrthdroi dirywiad mewn rhywogaethau a niferoedd.

Gallai recordiadau o adar a gasglwyd ar dir fferm ledled Cymru gael eu defnyddio i gynorthwyo i wrthdroi dirywiad mewn rhywogaethau a niferoedd.

Mae poblogaethau adar tir fferm wedi gostwng dros y degawdau diwethaf, ond mae astudiaeth dan arweiniad Cyswllt Ffermio sy’n cynnwys 14 fferm ucheldir a llawr gwlad gydag amrywiaeth o systemau ffermio wedi nodi 69 rhywogaeth wahanol – 16 ohonynt ar restr goch Yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN).

Dywed yr ymchwilwyr y gallai’r mathau o rywogaethau a ganfuwyd nodi effeithiolrwydd mathau penodol o gynefinoedd, a gallant lywio sut y gellir cynyddu amrywiaeth a niferoedd rhywogaethau trwy greu cynefinoedd addas ar gyfer gwahanol fathau o adar.

Er enghraifft, os bydd nifer yr adar sy’n bwyta pryfed yn isel, mae hynny’n awgrymu nad yw’r cynefinoedd presennol yn cefnogi pryfed.

Byddai modd gwella hynny drwy blannu ymylon llawn blodau neu ganiatáu i brysgwydd gwlyb ddatblygu, meddai Lynfa Davies, Arbenigwr Bioamrywiaeth Cyswllt Ffermio, a fu’n goruchwylio’r astudiaeth.

“Byddai hwn yn un maes ffocws pe byddai cynyddu amrywiaeth adar yn un o nodau’r fferm,” eglurodd.

Cynhaliwyd yr astudiaeth dros gyfnod o dri mis yn 2025, yn ystod tymor bridio mis Ebrill, Mai a Mehefin, gan fod y gwaith yn dibynnu ar ddyfais recordio annibynnol sy’n defnyddio synwyryddion i ganfod presenoldeb adar yn seiliedig ar eu cân – mae llawer o adar yn fwy llafar yn ystod y tymor bridio.

Gosodwyd dwy o’r dyfeisiau hyn, a gyflenwyd gan gwmni Chirrup Nature Services, mewn gwahanol fathau o gynefinoedd ar bob fferm, a’u gosod i recordio am dair awr yn ystod côr y bore – wyth ar ffermydd laeth a chwech ar ffermydd bîff a defaid, gydag un fferm hefyd yn cadw dofednod.

Cafodd y recordiadau eu dadansoddi gan y cyflenwr gan ddefnyddio meddalwedd deallusrwydd artiffisial, a rhannwyd y canfyddiadau gyda’r ffermwyr a fu’n cymryd rhan.

Cofnodwyd 69 rhywogaeth, ac roedd amrywiaeth yr adar a oedd yn bresennol yn amrywio o un fferm i’r llall. Roedd 46 rhywogaeth yn bresennol ar un fferm.

Dywed Lynfa bod 16 o’r rhywogaethau o’r cyfanswm a ganfuwyd  wedi’u rhestru ar y rhestr goch, sy’n golygu eu bod yn cael eu hystyried dan fygythiad gan Yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN), gan gynnwys llinos, cornhedydd, gylfinir, llinos werdd, mwyalchen y coed a thelor y coed.

“Mae presenoldeb yr adar hyn yn amlygu pwysigrwydd tir fferm a’i rôl wrth ddarparu cynefinoedd gwerthfawr ar eu cyfer,” meddai.

Bu’r astudiaeth yn edrych yn fanylach ar yr hyn a elwir yn “gilfachau troffig”, sef system a ddefnyddir i egluro sut mae rhywogaeth yn rhyngweithio gyda’r amgylchedd o ystyried ei harferion bwyd, ei rhyngweithiad gyda rhywogaethau eraill, a’i safle yn y we fwyd.

Un o’r cilfachau troffig a gofnodwyd yn yr astudiaeth hon oedd adar sy’n bwydo ar anifeiliaid gydag asgwrn cefn, neu ‘vertivore’, meddai Lynfa.

“Mae’r rhain yn adar ysglyfaethus sy’n dal rhywogaethau eraill er mwyn eu bwyta. Mae eu presenoldeb yn awgrymu bod y cynefinoedd yn weithredol ac yn darparu bwyd, cysgod a safleoedd nythu i nifer o wahanol fathau o adar, mamaliaid ac anifeiliaid di-asgwrn cefn.’’

Roedd cilfachau troffig eraill yn cynnwys hollysyddion, llysysyddion dyfrol a phryfysorion.

Gallai canfyddiadau’r astudiaeth hon lywio sut y bydd tir yn cael ei reoli at y dyfodol, meddai Lynfa, gan hyd yn oed annog mabwysiadu technoleg ehangach ar ffermydd i fonitro bioamrywiaeth ar raddfa’r dirwedd a chreu rhwydweithiau o bobl a natur.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Angen Gweithredu! Mae angen i ffermwyr a busnesau ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio a symud i One Login GOV.UK
18 Mawrth 2026 Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau
Cyswllt Ffermio yn lansio offeryn meincnodi newydd i ffermwyr
17 Mawrth 2026 Mae Cyswllt Ffermio’n cyflwyno offeryn meincnodi
Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermydd newydd i ymuno â Rhwydwaith Ein Ffermydd ar gyfer 2026
16 Mawrth 2026 Mae Cyswllt Ffermio yn gwahodd ceisiadau gan