16 Mawrth 2026
Mae Cyswllt Ffermio yn gwahodd ceisiadau gan ffermydd ledled Cymru i ymuno â'r garfan nesaf o Ffermydd Arddangos, Ein Ffermydd, cyn lansiad y rhaglen newydd ar 1 Ebrill 2026.
Mae’r rhwydwaith Ffermydd Arddangos yn ffurfio asgwrn cefn rhwydwaith Ein Ffermydd, sy'n darparu arbrofion ymarferol wedi’u hariannu ar ffermydd. Mae’r arbrofion hyn wedi’u cynllunio i gyflymu arloesedd, gwella perfformiad busnes ac i gynorthwyo ffermwyr i gyflawni uchelgeisiau’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
Mae’r cyfnod i fynegi diddordeb bellach ar agor i ffermwyr o bob sector— llaeth, cig coch, moch, dofednod, tir âr, garddwriaeth a choetiroedd fferm —sy'n awyddus i brofi syniadau newydd a rhannu'r canlyniadau ar draws y diwydiant. Gall Ffermydd Arddangos fod ar unrhyw gam o’u datblygiad, ac fe allant gynnwys cyfuniad o ffermydd sy’n rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ogystal â rhai nad ydynt.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnal o leiaf dau arbrawf hirdymor wedi’u hariannu ar y fferm rhwng tymor yr haf 2026 a mis Mawrth 2029. Bydd pob arbrawf yn cael ei gyd-ddatblygu gyda Swyddogion Sector Cyswllt Ffermio ac arbenigwyr y diwydiant, er mwyn sicrhau bod yr arbrofion yn cyd-fynd â blaenoriaethau a chyfleoedd y busnes. Bydd astudiaethau sylfaenol, a ariennir yn llawn yn helpu i nodi'r meysydd lle y gall ffermydd elwa fwyaf a fydd hefyd yn darparu manteision i'r rhai sy’n rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Rhannodd un o aelodau’r Rhwydwaith Ein Ffermydd, Roger Pugh, Crickie, fod y profiad wedi rhoi’r hyder iddo gyda chynlluniau'r dyfodol. “Gallaf nawr fod yn rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gyda phersbectif newydd. Rydym wedi elwa yn bersonol gan ei fod wedi rhoi agwedd gadarnhaol i ni wrth i ni ystyried cynigion newydd a rhoi cynnig arni.”
Bydd gan ffermydd arddangos hefyd ran ganolog mewn cyfnewid gwybodaeth, gan gynnal o leiaf un digwyddiad Ymweld ag Ein Ffermydd i arddangos canlyniadau’r arbrofion ar y fferm.
Mae cyn aelodau wedi nodi’n gyson enillion sylweddol o ran proffidioldeb, cynaliadwyedd a gwytnwch busnes cyffredinol ar ôl treialu dulliau newydd a nodi beth sy’n gweithio ar eu ffermydd eu hunain.
Dywedodd Marc Griffiths, Cilthrew, aelod o’r rhwydwaith Ein Ffermydd “Os ydych am herio eich hun a’ch busnes, dyma’r lle i chi. Rydych yn cael mynediad at gymorth o’r radd flaenaf, syniadau newydd ac arweiniad ymarferol. Manteisiwch ar y cymorth sydd ar gael a’i ddefnyddio i lywio eich busnes."
Mae bod yn rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd wedi darparu elw ychwanegol, arbedion o ran costau, arbedion llafur a gwelliannau amgylcheddol. Peidiwch â cholli'ch cyfle i fod yn rhan o'r garfan nesaf i ddatblygu eich busnes ymhellach.
Bydd y cyfnod i fynegi diddordeb yn agor ar 16 Mawrth 2026 a rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 10am, ddydd Llun 18 Mai 2026. Gwnewch gais trwy wefan Cyswllt Ffermio.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Siwan.howatson@mentera.cymru / 07399 783 398 neu ewch i wefan Cyswllt Ffermio.