2 Rhagfyr 2024
Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog i gyflwyno arferion newydd, o ffrwythloni artiffisial mewn gwartheg bîff i dyfu cnydau newydd, gyda chymhelliant gan grwpiau trafod a hyfforddiant a ariennir gan Cyswllt Ffermio.
Mae Iwan a Rhian Evans a'u mab, Dyfan, yn cynhyrchu bîff ac ŵyn ar 210 erw o dir y maent yn berchen arno ac yn ei rentu ym Mronwydd. Mae Rhian yn gyn-athrawes ac fe gyfunodd y swydd honno â ffermio.
Dyfan yw’r drydedd genhedlaeth o’i deulu i ffermio ar y daliad yng Nghoed y Bryn, Llandysul.
Ymunodd â’r busnes ar ôl gadael yr ysgol, gan wneud y penderfyniad yn ifanc iawn ei fod am ddilyn yn ôl troed ei rieni a dilyn gyrfa mewn ffermio.
Gyda'i gilydd maent wedi cynyddu nifer y buchod sugno i tua 80, gan ffafrio gwartheg Charolais y maent yn eu magu gan ddefnyddio tarw Charolais neu'n eu croesi â tharw Limousin, ac yn eu gwerthu fel gwartheg stôr ym marchnadoedd Castellnewydd Emlyn a Llanybydder.
Mae ŵyn yn cael eu cynhyrchu o ddiadell o 210 o fiwl croes Suffolk a defaid Texel, gan wyna mewn dau swp yng nghanol mis Ionawr ac ym mis Chwefror gydag ŵyn yn bennaf yn cael eu gwerthu ar bwysau byw mewn marchnadoedd lleol.
Mae Dyfan, a oedd yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau a chyflwyno syniadau newydd i’r busnes, wedi manteisio ar sawl cyfle sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio, rhai wedi’u hariannu’n llawn ac eraill wedi’u hariannu’n rhannol.
Trwy gofrestru ar gwrs hyfforddiant DIY Ffrwythloni Artiffisial (AI) fe alluogodd iddo gyflwyno geneteg newydd.
Er bod gan y fferm dri tharw stoc sy’n rhedeg gyda’r buchod sy’n lloia yn y gwanwyn, mae AI wedi cael ei ddefnyddio i fagu grŵp sy’n lloia yn yr hydref o darw Simmental i gynhyrchu anifeiliaid cyfnewid.
Cafodd y cwrs, a oedd yn cael ei gynnal ar safle Prostock ym Mancyfelin ac ar fferm laeth ei ariannu 80% gan Cyswllt Ffermio.
“Cafodd ei gynnal yn dda iawn, ac mae gallu cyflawni’r broses AI ein hunain yn sgil dda,'' meddai Dyfan, a gwblhaodd gwrs trimio traed gwartheg hefyd trwy Cyswllt Ffermio.
Mae'r fferm yn tyfu haidd y gwanwyn a haidd y gaeaf, pys a haidd ar gyfer cnwd cyfan a betys porthiant.
Cyflwynwyd betys porthiant i’r cylchdro am y tro cyntaf eleni ar ôl i Dyfan weld ei botensial trwy fod yn aelod o grŵp trafod bîff Cyswllt Ffermio.
Mae bod yn aelod o’r grŵp hwnnw, sy'n cyfarfod yn fisol o fis Medi i fis Mawrth, yn dod ag enillion sylweddol iddo. “Mae siaradwyr rhagorol yn ymuno â ni ac rydym yn trafod pynciau gwych, ond yr hyn sydd hefyd yn bwysig yw’r gefnogaeth ymhlith aelodau’r grŵp.
“Os ydych chi’n wynebu problem ar y fferm, bydd rhywun yn y grŵp wedi’i wynebu hefyd a gall helpu i ddarparu atebion, a hanner y baich yw ei rannu.
“Yn 27, fi yw'r ieuengaf yn y grŵp, mae rhai yn llawer hŷn na fi, ond mae gan bob un ohonom nodau cyffredin.''
Mae Dyfan hefyd yn aelod o grwpiau trafod defaid a glaswellt Cyswllt Ffermio.
Mae glaswellt yn rhan bwysig o’i system ac mae bod yn aelod o grwpiau trafod wedi ei gyflwyno i ddulliau newydd, gan gynnwys cynlluniau i roi system bori cylchdro ar waith ar gyfer ei fuches sugno'r flwyddyn nesaf.
Mae gweminarau Cyswllt Ffermio ar reoli glaswellt, digwyddiad ar y fferm gyda’r thema o wneud y mwyaf o laswellt i gynhyrchu bîff, a hefyd cyngor ar reoli glaswelltir a chnydau a gyrchwyd trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio wedi helpu i lywio’r nod hwnnw.
“Weithiau byddwch chi’n ymwybodol o lawer o’r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y gweminarau ond fel arfer mae un neu ddau o bwyntiau y byddwch chi'n eu codi a all wneud gwahaniaeth mawr i'r hyn rydych chi'n ei wneud yn yr hirdymor,” eglura Dyfan.
Camodd Cyswllt Ffermio i’r adwy hefyd pan oedd angen i’r teulu Evans baratoi am archwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i weld a oedd y fferm yn cydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.
Bu iddynt fynychu Gweithdy ar Lawlyfr Llygredd Amaethyddol ac roedd cyllid ar gael ar gyfer Cyngor Technegol un i un drwy’r Gwasanaeth Cynghori gydag aelod o staff CARA Cymru.
Roedd hyn yn caniatáu i CARA Cymru gefnogi a chynghori'r busnes i gwblhau'r dogfennau angenrheidiol ar gyfer yr archwiliad.
“Roedd yn help gyda’r broses archwilio, i fod yn dawel ein meddwl bod yr holl waith papur yn gywir,” meddai Dyfan.
Y cam nesaf ar ei restr yw mynychu Cwrs Defnyddio Dip Defaid yn Ddiogel, wedi’i ariannu 80% drwy Cyswllt Ffermio, a fydd yn rhoi’r cymhwyster sydd ei angen arno i brynu neu ddefnyddio cynnyrch dip defaid i drin clafr, llau neu bryfed chwythu yn ei ddiadell ddefaid.
“Nid ydym yn dipio defaid ar hyn o bryd ond mae sefyllfa’r clafr i’w weld yn gwaethygu bob blwyddyn, mae rhai ffermydd lleol wedi’i gael, felly rydym am ei atal rhag dod yn broblem,” meddai.