10 Ionawr 2025

 

Mae cwblhau cyfres o gyrsiau a ariennir yn bennaf gan Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r wybodaeth a’r hyder i ffermwr llaeth o Gymru lansio busnes sy’n darparu cymorth gweinyddol i fentrau fferm eraill.

Magwyd Anna Brown ar fferm laeth bedair milltir o Hill Farm, ger yr Wyddgrug, lle mae hi bellach yn byw gyda’i gŵr, Tim, a’u merch bump oed, Sophie, a lle maen nhw hefyd yn cynhyrchu llaeth.

Mae Anna wedi gweithio yn y diwydiant amaeth ers graddio o Harper Adams lle bu’n astudio marchnata bwyd-amaeth ac astudiaethau busnes.

Cafodd ei chyflwyno i gadw cyfrifon sawl blwyddyn yn ôl gyda chwrs yng Ngholeg Cambria.

Yn 2022 penderfynodd adeiladu ar y sylfaen honno, gan gofrestru ar gwrs Cyswllt Ffermio a oedd yn ymdrin ag agweddau fel Gwneud Treth yn Ddigidol a chadw cofnodion TAW.

Cafodd y cwrs ei ariannu 80% gan Cyswllt Ffermio, yn ogystal â dau fodiwl arall a gwblhaodd wedi hynny, ar ddeall cyfrifon newydd, rheolaeth ariannol, llif arian a chynllunio busnes.

Cyflwynwyd un cwrs yn rhithwir tra bod y ddau arall yn bersonol mewn lleoliadau yn Rhuthun a Chroesoswallt.

Cafodd Anna fudd aruthrol o'r profiad dysgu hwnnw. “Rwy'n gwneud holl waith cadw llyfrau a chyfrifon fferm fy rhieni ond mae bob amser rywfaint o amheuaeth gyda rhywbeth fel 'na, hynny yw a ydych chi'n ei wneud yn y ffordd gywir,'' meddai.

Rhoddodd cyrsiau Cyswllt Ffermio sicrwydd iddi ei bod hi, ac ychwanegodd at ei sylfaen wybodaeth.

Roedd yr unigolion eraill a oedd yn cymryd rhan yn y cwrs yn dod o lawer o wahanol sectorau a systemau ffermio.

“Gallwn ddod yn rhy gyfforddus ym myd amaeth ond roedd yn braf gweld ein bod i gyd ar yr un llwybr,” ychwanegodd Anna.

“Cyflwynwyd y cyrsiau gan Julie yn Simply the Best Training, roedd hi mor dda am wneud i bawb deimlo'n gartrefol a darparu senarios priodol a oedd yn berthnasol i'n math ni o fusnes ffermio.''

Cafodd Anna ei hysbrydoli gan y wybodaeth a gafodd a sefydlodd ei busnes ei hun, Brownbrook Farm Office Services, ym mis Ionawr 2024, gan gynnig cymorth gyda phopeth o sicrwydd fferm i greu taenlenni fferm a chreu sylfaen cleientiaid trwy argymhellion gan eraill, y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu ei gwasanaethau mewn marchnadoedd da byw a lleoliadau eraill.

Mae eraill eisiau cymorth i adfer trefn yn eu swyddfa. “Maen nhw'n dweud “mae fy swyddfa'n llanast, alli di roi trefn arni i mi''!” meddai Anna.

Nid yw wedi cymryd ei chyfrifoldebau yn ysgafn, mae hi hyd yn oed wedi cychwyn ar gwrs cymorth cyntaf mewn argyfwng ym mis Mawrth 2024, unwaith eto gyda chymhorthdal o 80% gan Cyswllt Ffermio.

“Os ydw i'n mynd ar fferm a bod yna sefyllfa frys mae angen i mi wybod bod gen i'r profiad i ymdrin â’r sefyllfa, yn ogystal â gwneud y cleient yn ymwybodol fy mod o ddifrif ynglŷn â'r hyn rydw i'n ei wneud.''

Nod nesaf Anna yw cwblhau cwrs Defnyddio Meddyginiaethau Milfeddygol mewn modd Diogel drwy Cyswllt Ffermio.

Mae’n ddiolchgar i Cyswllt Ffermio am safon y cyrsiau, ac am ariannu’r rhan fwyaf o’r gost.

“Rydym yn ffodus ym myd amaeth bod gennym y cyrsiau hyn wedi’u hariannu, nid yw'r rhan fwyaf o ddiwydiannau'n cael y cyfleoedd hynny.''


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter