26 Mawrth 2024

 

Mae ffermwr defaid ifanc yn elwa o’i ddyfalbarhad i ddechrau ffermio ynghyd â’i angerdd amlwg dros amaethyddiaeth.

Llwyddodd Dafydd Owen i sicrhau cytundeb ffermio cyfran yn dilyn sawl ymgais aflwyddiannus yn y gorffennol, a blwyddyn yn ddiweddarach, mae bellach wedi cael lle ar Academi Amaeth Cyswllt Ffermio wedi iddo ymgeisio am yr eilwaith.

Ei neges i eraill sy’n dyheu am rywbeth yw: “Daliwch ati, gofynnwch am adborth, a gweithredwch ar yr adborth hwnnw.’’

Magwyd Dafydd ar fferm ddefaid yn Llanddoged, gyda’r nod o ddilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth wrth iddo sefydlu ei ddiadell ei hun o 100 o famogiaid ar 12ha o dir rhent gyda’i wraig, Sioned.

Roedd wedi ymgeisio am gytundebau menter ar y cyd ond heb gael llwyddiant – roedd un o’r rhain yn cael ei gynnig drwy raglen Dechrau Ffermio Cyswllt Ffermio.

“Roedd yn brofiad chwerwfelys gan mai fy mrawd gafodd y cyfle!” meddai. “Er nad i mi yr aeth y cyfle y tro hwn, roeddwn i’n falch bod fy mrawd wedi cael y cyfle.’’

Cododd cyfle arall ar Fferm Coed Coch, Abergele, pan oedd y tirfeddiannwr Harry Fetherstonhaugh a Rhys Williams, a oedd wedi sefydlu trefniant ffermio ar y cyd,  yn chwilio am rywun i fuddsoddi mewn cyfran o 5% o’r busnes a rheoli’r fferm ar gytundeb pum mlynedd.

Ymgeisiodd Dafydd, sy’n rhannu eu diddordeb mewn dull adfywiol o ffermio, am y cyfle, ac yn dilyn cyfres o gyfweliadau, cafodd gynnig y cytundeb.

“Roedd yn anodd credu graddfa’r peth, gan fy mod i’n mynd o 12ha a 100 o famogiaid i 310ha a 2,000 o famogiaid,” meddai.

Dechreuodd ffermio yng Nghoed Coch ym mis Hydref 2022, gan symud yno gyda Sioned a’u merch, Megan, ac mae’n barod i ddechrau ar ei ail gyfnod wyna ar y fferm.

Mae ganddo gyfran o 5% yng nghwmni Coed Coch Farm Ltd ac mae’n derbyn cyflog gan y busnes am ei waith o ddydd i ddydd.

Gyda’r hwb yma yn ei hyder, penderfynodd Dafydd roi cynnig arall ar ymgeisio am le ar Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn 2023.

Ymgeisiodd am le ar y rhaglen ddwy flynedd wedi ei gais cyntaf, a oedd yn aflwyddiannus. Yn ystod y cyfnod rhwng y ceisiadau, bu’n cymryd rhan yn rhaglen Bwtcamp Busnes Cyswllt Ffermio.

“Rwy’n credu bod hynny wedi helpu, a’i fod wedi rhoi mwy o hunan hyder i mi,” meddai Dafydd.

Y tro hwn, roedd ei gais yn llwyddiannus, ac fe gafodd fudd sylweddol o’i brofiadau fel rhan o’r Academi Amaeth, gan gynnwys taith dramor i Ontario.

“Roedd yr wythnos yn drefnus iawn ac yn llawn gweithgareddau. Wnes i ddim ystyried faint yr oeddwn yn ei ddysgu nes i mi ddychwelyd adref a dechrau defnyddio’r wybodaeth.”

Mae Cyswllt Ffermio hefyd wedi ei helpu i ddatblygu ei ddealltwriaeth o ffermio mewn ffyrdd eraill, drwy gymryd rhan mewn grwpiau trafod yn arbenigo mewn rheoli pori yn y gwanwyn a gwndwn llysieuol a chnydau porthiant, ac o ran cyrsiau hyfforddiant ar bopeth o ddefnyddio dip defaid a meddyginiaethau milfeddygol yn ddiogel a chyflwyniad i reoli llyngyr a chyfrif wyau ysgarthol ar gyfer cynhyrchwyr defaid i gynllunio busnes.

Mae Dafydd hefyd wedi cymryd rhan mewn sawl dosbarth meistr a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio ym maes amaeth adfywiol ac iechyd anifeiliaid a buddion bioamrywiaeth, ac mae wedi cael cyngor technegol ar reoli glaswelltir a chnydau drwy’r Gwasanaeth Cynghori.

Mae’r profiad o sicrhau cytundeb ffermio cyfran wedi helpu i leihau ei dueddiad i amau ei hun, ac mae cymryd rhan yn yr Academi Amaeth wedi bod o fudd pellach wrth newid y meddylfryd hwnnw.

“Mae gen i lai o amheuon nag yn y gorffennol, ac mae gen i fwy o hyder ynof fi fy hun a’m gallu.”

Mae Dafydd yn cynghori unigolion sy’n ystyried ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2024 i “fynd amdani”.

“Byddwch yn hyderus yn eich gallu i roi cynnig ar rywbeth na fyddech wedi’i ystyried yn y gorffennol. Roeddwn i’n tueddu i berswadio fy hun i beidio â rhoi cynnig ar bethau, ac i gredu nad dyma’r amser iawn i fanteisio ar gyfle, ond rydw i wedi gweld bod manteision i wthio fy hun y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus.

“Os mae’n gyfle da fel yr Academi Amaeth, ewch amdani.’’


Related Newyddion a Digwyddiadau

Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o
Mae mesur glaswellt a phennu cyllideb wedi rhoi’r hyder i ffermwr llaeth o Gymru newid ei bolisi gwrtaith, gan leihau costau mewnbwn £20,000 y flwyddyn.
Mae Huw Williams yn godro 250 o Holstein Friesians sy’n lloea yn