17 Mawrth 2025
Ar hyn o bryd mae pedwar cyfle ffermio cyfran wych ar gael yng Nghymru trwy raglen 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio. Os oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad cywir, gallai eich llwybr gyrfa a'ch tynged fod ar fin newid.
Ers 2015, mae 75 o ffermwyr ifanc uchelgeisiol sy’n awchu i gyfuno rheolaeth strategol ac ochr ymarferol ffermio wedi’u paru â thirfeddianwyr o Gymru sydd am leddfu eu llwyth gwaith neu baratoi i ymddeol. Mae'r partneriaethau newydd i gyd wedi'u hwyluso drwy’r rhaglen 'Dechrau Ffermio'.
Cylch gwaith y rhaglen a lansiwyd yn wreiddiol o dan yr enw blaenorol, 'Mentro', yw cyflwyno tirfeddianwyr, y cyfeirir atynt fel 'darparwyr', i 'geiswyr cyfle'. Unwaith y bydd y gwaith paru wedi’i gwblhau, cynigir ystod o wasanaethau cymorth sydd wedi’u hariannu’n rhannol neu’n llawn i'r ddau barti gan gynnwys mentora, hyfforddiant, busnes, cyngor cyfreithiol ac ariannol sy'n helpu i sicrhau bod y trefniant yn cael ei gadarnhau mewn ffordd sy’n fuddiol i'r ddwy ochr ac sy'n amddiffyn y ddwy ochr.
“Mae cael mynediad i dir a chyfalaf yn gallu ymddangos yn amhosib i lawer o ffermwyr ifanc os nad oes fferm deuluol lle mae angen eu sgiliau, egni a mewnbwn,” meddai Eiry Williams, rheolwr y rhaglen 'Dechrau Ffermio'. Eglura Eiry, gyda phedwar cyfle ffermio cyfran ar gael ar hyn o bryd ledled Cymru, mewn sectorau sy’n cynnwys llaeth, gwartheg bîff, garddwriaeth ac organig, efallai mai dyma’r amser perffaith i edrych ar yr adran ‘Dechrau Ffermio’ ar wefan Cyswllt Ffermio.
“Nid oes amser gorau i naill ai wneud cais neu gomisiynu Cyswllt Ffermio i hyrwyddo cyfle ffermio cyfran, ond gyda llawer o ffermwyr yn paratoi ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol ac yn cynllunio ymlaen, gallai hwn fod yn amser gwych i naill ai chwilio am gyfle newydd neu gynnwys ffermwr ifanc yn rhan o’r busnes y gallai ei fewnbwn eich galluogi i gymryd cam yn ôl o ffermio o ddydd i ddydd, heb o reidrwydd roi’r gorau iddi yn gyfan gwbl,” meddai Eiry.
Yn naturiol, bydd angen i 'geiswyr' brofi eu rhinweddau. Mae profiad o’r sector fferm, coedwigaeth neu arddwriaeth berthnasol, craffter a ffocws ar fusnes, brwdfrydedd, hyder ac etheg waith gwych yn hanfodol, ond bydd eu parodrwydd i helpu i ddod o hyd i atebion i heriau ac i helpu i nodi a rhoi ffyrdd newydd neu fwy cynaliadwy o reoli’r busnes ar waith yr un mor bwysig.
“Mae pob ffermwr yn wynebu pwysau allanol megis y tywydd, amrywiadau yn y farchnad a chostau mewnbwn, ond i rai tirfeddianwyr gall parodrwydd i ystyried syniadau newydd a chroesawu ffyrdd gwahanol neu arloesol o weithio rhoi bywyd newydd i fusnes sydd efallai heb symud gyda’r oes neu ddim â’r adnoddau i fanteisio ar gyfleoedd.
“Trwy weithio mewn partneriaeth â ffermwr neu dirfeddiannwr sefydledig, gall ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid wneud cyfraniad enfawr i hyfywedd a ffyniant cyffredinol busnes, gan osgoi amlygiad llawn i unrhyw faterion posibl,” meddai Eiry.
Mae llawer o wahanol fodelau ffermio cyfran neu bartneriaeth i’w hystyried sy’n amrywio o denantiaethau busnes fferm i drefniadau ffermio contract neu ffermio cyfran a phartneriaethau ecwiti. Bydd rhai yn cynnwys cytundeb sy’n caniatáu i’r unigolyn brynu i mewn i’r busnes yn raddol dros amser, sy’n darparu llwybr strwythuredig heb fod angen ymrwymiad ariannol mawr ymlaen llaw.
“Bydd ymdrech, gwaith caled, syniadau a sgiliau newydd yn cael eu gwobrwyo gan fentoriaeth, y cyfle i ennill gwybodaeth ymarferol am reolaeth fferm, strategaeth busnes a gwneud penderfyniadau, gan roi cyfle i’r tirfeddiannwr gymryd cam yn ôl o’r ymrwymiad gwaith tra’n parhau i gymryd rhan.
“Mae’r trefniadau ffermio cyfran fwyaf llwyddiannus yn annog cyfathrebu agored a gonest, parch at farn y naill a’r llall a pharodrwydd i ymchwilio a rhoi strategaethau busnes newydd ar waith a fydd yn arwain at fusnes mwy cynaliadwy a phroffidiol yn yr hirdymor.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i 'Dechrau Ffermio' ar wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol.