Cyfle #120

Lleoliad: Llangeitho, Tregaron

Sector: Garddwriaeth

Tir: 1.5 erw

Cytundeb: Ffermio Cyfran neu Bartneriaeth
 

Proffil y Darparwr

(Amlinelliad o'r cyfle a ddarperir)

 

Ynglŷn â’r tirfeddiannwr:

Nid yw’n siarad Cymraeg
25-40 oed
Rwy'n ffermwr newydd sy'n edrych i sefydlu system organig gymysg yn nyffryn Aeron. Symudais i'r fferm yng Ngwanwyn 2023 ac rwyf yn dal yn y camau cynnar o sefydlu. Mae'n dir gwastad hyfryd, cynhyrchiol ar uwchbridd dwfn (clai trwm ond sy’n draenio’n dda yn yr haf). Rwy’n gobeithio sefydlu system odro micro a chefnogi cynhyrchiant bwyd amrywiol ar draws y fferm (rwy’n arbrofi gyda chnydio âr a sefydlu perllan ar hyn o bryd). Dymunaf gefnogi bioamrywiaeth lle bynnag y bo modd a ffermio'n gynaliadwy (e.e sefydlu systemau cylchol gyda chyn lleied o fewnbynnau â phosibl lle bo modd). Yn yr hirdymor, rwy’n gobeithio y gallai’r fferm ddangos y gall cynhyrchiant bwyd amrywiol, maethlon a natur fynd law yn llaw.

Fy nodau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf

  1. Dechrau sefydlu buches godro micro a dechrau godro a phrosesu llaeth
  2. Sefydlu cylchdro âr sy'n addas i'r fferm
  3. Cefnogi’r broses o gynhyrchu cynnyrch garddwriaethol amrywiol
  4. Sefydlu marchnadoedd ar gyfer gwerthu cynnyrch cymysg (yn ddelfrydol byddai'r rhain yn cael eu halinio)

Ynglŷn â’r fferm:

Arwynebedd tir sydd ar gael
Tua 1.5 erw ar gyfer defnydd garddwriaethol unigryw (llysiau a/neu gynnyrch arall). Gallai fod opsiwn i ymgorffori tyfu llysiau ar raddfa cae mewn cylchdro gyda chnydio âr a da byw ar ardal fwy yn ddiweddarach.

Isadeiledd sydd ar gael:

Mae sied ar gael ond mae'n debyg y byddai angen rhywfaint o waith i'w osod fel y dymunir (e.e mae sied gyda hen ofod i gadw lloi dan do sy'n agor i'r cae ar gael). Mae digon o opsiynau ar gyfer ehangu isadeiledd fel casglu dŵr to, ond mae angen sefydlu hyn. Mynediad ffordd da. Yn anffodus, ni allaf ddarparu llety parhaol ar hyn o bryd, ond gellid trefnu hyn yn yr hirdymor (e.e trwy drosi gofodau mewn rhai adeiladau allanol).
Does dim twnnel polythen ar hyn o bryd ond mae hyn yn rhywbeth rydw i'n awyddus i'w gefnogi (yn ddelfrydol gydag unrhyw grantiau sydd ar gael hefyd).

Mae’r fferm yn mynd drwy’r broses o droi’n organig ar hyn o bryd a bydd wedi’i hardystio’n llawn o ddechrau 2026 (os bydd popeth yn mynd yn iawn).
Rwy'n westeiwr WWOOF (Cyfleoedd Byd-eang ar Ffermydd Organig) felly gallai gwirfoddolwyr fod ar gael o bryd i’w gilydd.

Peiriannau sydd ar gael:

Mae gan y fferm dractor maint canolig gyda llwythwr y gellid ei ddefnyddio o dan gytundeb.
Rwy’n dal i sefydlu llawer o’r fferm felly bydd angen prynu peiriannau ychwanegol maes o law, efallai o dan gytundebau cyfranddaliadau.

Llety i'r sawl sy’n ceisio am y Cynnig? Nac oes

Yr ardal leol:

Tua 1cilomedr o bentref Llangeitho yng Ngheredigion. Mae gan y pentref siop, caffi a thafarn a chymuned leol gefnogol. Lleoliad hyfryd, tawel yn Nyffryn Aeron.

Mae’r trefi canlynol yn gyfleoedd marchnad posibl:

  • Tregaron (4 milltir) - siop fwyd fechan yr ydym yn gwerthu ychydig bach o datws yno ar hyn o bryd. Dim marchnad tref.
  • Llanbedr Pont Steffan (8 milltir) – ychydig o siopau bwyd a marchnad bob pythefnos ar ddydd Sadwrn.
  • Aberaeron (12 milltir) – ambell siop fwyd fechan, marchnad fisol wedi dechrau yn ddiweddar
  • Aberystwyth (18 milltir) - siop fwyd, canolbwynt bwyd lleol, a marchnad bob pythefnos
  • Mae yna fwytai/caffi yn yr holl leoliadau hyn hefyd.
     

Nodweddion allweddol y byddwn yn edrych amdanynt mewn partner busnes:

Rhywun ag ethos tebyg yn gobeithio ffermio a chefnogi byd natur ar yr un pryd, yn gefnogol i ffermio’n organig. Rhywun gonest, hapus i weithio ar y cyd ac yn agored i ddatblygu'r busnes (au) i wahanol gyfeiriadau. Rhywun sy'n fodlon rhannu cynnyrch!

Pa fath o gytundeb ydych chi'n ei ystyried? Ffermio cyfran neu bartneriaeth - chwilio am reolaeth a rennir rhwng darparwr a cheiswyr 

I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen ‘mynegi diddordeb’ isod:

Manylion Cyswllt:
Defnyddir y rhif hwn i gysylltu â chi.
Amdanaf fi:
Cyflogwr Teitl Swydd Dyddiad Dechrau Dyddiad Gorffen