Proffil y Darparwr
(Amlinelliad o'r cyfle a ddarperir)
Manylion y tirfeddiannwr:
Rydym yn gwpl rhagweithiol sy’n angerddol am ffermio gyda byd natur.
Rydym yn chwilio am bobl/person o'r un anian i sefydlu a rhedeg elfen arallgyfeirio i'n busnes. Mae genym feddwl agored i syniadau newydd, ac rydym yn ystyried meysydd fel garddwriaeth, dofednod, moch, ac ati.
Ar adegau prysur o’r flwyddyn byddwn yn gofyn am gymorth gyda’n buches laeth e.e. lloia, symud gwartheg os oes angen. Gellir darparu'r holl hyfforddiant ar y safle. Mae ein fferm laeth yn canolbwyntio ar les uchel anifeiliaid/pridd/microbau. Mae'r busnes yn gwbl organig ac wedi'i ardystio ar gyfer porfa am oes. Mae buchod yn cael eu godro unwaith y dydd, trwy gydol y tymor. Rydym yn gwerthu cig eidion sy'n cael ei fwydo â glaswellt 100% yn uniongyrchol i ddefnyddwyr a sefydliadau lleol. Rydym yn defnyddio homeopathi a meddyginiaethau llysieuol naturiol ar stoc a phridd.
Mae potensial i’r person(au) cywir sefydlu eu busnes eu hunain ochr yn ochr, gydag arweiniad a chymorth gennym ni. Nid yw’r busnes hwn wedi’i sefydlu eto, ond busnes arallgyfeirio a allai o bosibl fod mewn meysydd fel garddwriaeth, dofednod, moch ac ati, ond nid defaid.
Di-Gymraeg ond yn deall Cymraeg
45-50 a 65-74 oed
Fy nodau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf:
- Sicrhau busnes gyda phobl o'r un anian fel y gallwn fwynhau ffrwyth ein llafur
- Cynhyrchu cynnyrch iach o'n fferm organig gan ddefnyddio ein holl asedau
- Cael amser i fynd ar wyliau
Manylion y fferm:
Arwynebedd y tir sydd ar gael: 494 erw / 200 hectar
Isadeiledd sydd ar gael: Uned laeth ar gyfer 200 o wartheg a stoc ifanc
Da byw ar gael:
- 190 o wartheg godro - buchod Jersey x Friesian
- 60 o heffrod cyflo
- 95 o heffrod i gael tarw
Rydym yn lloia yn y gwanwyn, ac mae gennym gytundeb gyda llaeth Calonwen a chaws Teifi.
Peiriannau sydd ar gael:
- 1 tractor a llwythwr mawr
- Tractor llai
- 1 teledhandler
- Offer cynaeafu glaswelltir - cribin, chwalwr gwaith a pheiriant torri gwair. Defnyddir contractwyr ar gyfer casglu gwair
- Offer yr iard
- Beic cwad
Llety ar gyfer y sawl sy’n chwilio am gyfle: Oes. Mae yna ysgubor ar gael sydd wedi ei drawsnewid mewn i atig clyd gyda stôf llosgi coed ac mae wedi’i ddodrefnu’n llawn.
Yr ardal leol:
- 3 milltir o dafarndai a’r siop leol
- 5 milltir o fynyddoedd y Preseli
- 15 milltir o Gasnewydd
- 20 milltir o Ddinbych-y-pysgod
Manylion y cyfle:
Pa fath o gytundeb ydych chi'n ei ystyried? Contract hunangyflogedig.
Rydym yn chwilio am rywun i sefydlu a rhedeg ochr arallgyfeirio'r busnes. Nid yw hyn wedi'i sefydlu eto, a gallai fod mewn meysydd fel garddwriaeth, dofednod, moch, ayyb. Byddant hefyd yn gallu helpu ar yr ochr laeth, a gellir darparu hyfforddiant. Mae potensial i’r rôl hon symud ymlaen i gytundeb partneriaeth fferm yn y dyfodol.
Nodweddion allweddol y byddwn yn edrych amdanynt mewn partner busnes:
- Brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu
- Gallu meddwl y tu allan i'r bocs
- Yn onest ac yn ddibynadwy
- Synnwyr digrifwch
- Trwydded yrru