Cyfle #785

Gogledd Sir Fynwy

75Ha / 185 erw

28 o Wartheg Sugno Bîff a’u lloi

Dim Llety

Proffil Darparwr

(Amlinelliad o'r cyfle sy'n cael ei ddarparu)

 

Rhif Cyfeirnod Mentro: 785

 

MANYLION Y TIRFEDDIANNWR

61-64 oed

Ddim yn siaradwr Cymraeg

Fferm deuluol sefydledig gydag adeiladau wedi’u lleoli’n ganolog. Mynediad da i Gerbydau Nwyddau Trwm (HGV). Mae gen i gyfle newydd a fydd yn fy ngalluogi i roi’r gorau i weithio ar y fferm, felly rwy’n chwilio am rywun i fuddsoddi eu hamser a’u syniadau i’r fferm a’i chymryd ymlaen gan rannu’r buddion o wneud hynn

 

Ein targedau dros y 5 mlynedd nesaf:

  1. Camu’n ôl o’r fferm i ymgymryd â chyfle newydd
  2. Sicrhau llwyddiant y fferm
  3. Cynnal statws organig

 

MANYLION Y FFERM

Lleoliad (tref agosaf):

Y Fenni

 

Arwynebedd tir ar gael:

75 Ha

 

Isadeiledd ar gael h.y. adeiladau, cyfleusterau trin anifeiliaid: 

3 sied wartheg, ysgubor, adeiladau storio eraill, cyfleusterau trin anifeiliaid

 

Da byw ar gael:

28 o wartheg sugno bîff gyda thua 30 o’u lloi a tharw Henffordd

 

Peiriannau ar gael: 

Peiriannau arferol ar gyfer fferm dda byw / tir âr gyda mwy na digon o offer

 

Llety ar gyfer un sy’n chwilio am gyfle: 

Nac oes

 

Yr ardal leol:

Yng nghefn gwlad bryniog gogledd Sir Fynwy, Y Fenni a Threfynwy

 

MANYLION Y CYFLE

Math o gytuneb sy’n cael ei ystyried: 

Ffermio cyfran

 

Nodweddion allweddol y mae'r tirfeddiannwr yn chwilio amdanynt mewn partner busnes:

Unigolyn brwdfrydig sy’n weithiwr caled a fydd yn gallu dod â syniadau newydd i’r fferm. Diddordeb posibl mewn cadw defaid

 

 

Cliciwch ar y ddolen isod er mwyn gwneud cais am y cyfle hwn:

 

DOCX icon