Proffil y Darparwr
(Amlinelliad o'r cyfle a ddarperir)
Manylion y tirfeddiannwr
Rydym yn chwilio am gydweithredwr mewn nifer o fentrau amaethyddol ar Fferm Glanmarlais, Sir Gaerfyrddin. Mae’r fferm wedi’i lleoli ar 103 erw ar ochr orllewinol dyffryn canol Tywi, yn ffinio ag Afon Marlais, un o isafonydd Afon Tywi. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn ffermio cyfran, ffermio contract neu sefydlu menter newydd, rydym yn agored i drafod trefniadau posibl sy’n cyd-fynd â’n ffocws ar reoli sy’n gyfeillgar i natur.
Mae’r fferm wedi’i chofrestru a’i rheoli fel un organig am y rhan fwyaf o’r chwarter canrif diwethaf ac mae wedi bod mewn amryw o gynlluniau rheoli tir Llywodraeth Cymru: Tir Cymen, Tir Gofal, a Glastir Uwch. Mae disgwyl y bydd y fferm yn ymuno â Chynllun Ffermio Cynaliadwy Cymru sydd ar y gweill.
Mae ein tir yn rhedeg o tua 150m i 300m mewn uchder, gyda thua ⅔ o gyfanswm yr arwynebedd ar y llethr serth dwyreiniol/de-ddwyrain. Mae'r llystyfiant yn amrywio o ochr ychydig yn well o laswelltir wedi'i wella’n rhannol i laswelltiroedd iseldir niwtral, asid a chorsiog sydd heb ei wella (y tri ohonynt yn gynefinoedd â blaenoriaeth)
Mae'r fferm yn cynnig tua 30 erw o goetir o aeddfedrwydd amrywiol. Mae'n cynnwys llydanddail lled-hynafol a chlystyrau mwy masnachol, o ansawdd isel - ond sydd wedi'u tracio'n dda - o goed conwydd sy'n cynnwys Hemlog y Gorllewin, Pyrwydden Norwy, Llarwydden Japaneaidd, Ffynidwydd Douglas a Sbriwsen Sitka. Mae'r coetir llydanddail yn cynnwys llawer iawn o onnen heintiedig sy'n addas ar gyfer coed tân neu ddefnydd arall. Yn ddiweddar, rydym wedi derbyn trwydded torri coed sy’n ein hawdurdodi i gynaeafu’r coed gan ddilyn egwyddorion Coedwigaeth Gorchudd Parhaus, system reoli gynaliadwy sy’n anelu at ddatblygu coedwigoedd amrywiol yn strwythurol, yn weledol ac yn fiolegol sy’n darparu gwasanaethau ecolegol.
Mae gwrychoedd yn rhan bwysig o'r fferm ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr fel nodwedd bwysig, gan roi cysgod i stoc a chronfeydd dŵr ar gyfer bioamrywiaeth. Nid yw’r tir wedi cael ei bori’n helaeth gan fridiau brodorol o ddefaid a gwartheg dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cynnwys hen dir pori yn bennaf. Fodd bynnag, yn ddiweddar rydym wedi ystyried bod y tywydd, ac felly'r tir, wedi bod yn rhy wlyb i gadw gwartheg trwy gydol y flwyddyn.
Mae gan y fferm hefyd wersyllfa sydd wedi’i ardystio gyda Chlwb Gwersylla Gwyrddach gyda thri thoiled compostiadwy a phum llain ar laswellt heb drydan ar gyfer pebyll a cherbydau gwersylla. Mae'r wersyllfa yn darparu profiad gwersylla bron yn y gwyllt tra’n cynnig oergell a rennir, man golchi llestri a chyfleusterau cawod poeth / ystafell newid. Defnyddir un o'r ysguboriau dan do ar gyfer gwneud prydau bwyd neu ardal i bacio os bydd glaw. Mae'r safle, sy’n ardal awyr dywyll ddynodedig, yn denu gwylwyr y sêr yn ogystal â phobl sydd am ymlacio, mwynhau natur, ac archwilio'r cefn gwlad hardd gyfagos a mannau o ddiddordeb lleol.
Mae adeiladau hanesyddol y fferm i gyd wedi'u hadnewyddu. Maent yn cynnwys ein cartref, yn ogystal â llety ychwanegol ar gyfer y teulu estynedig. Mae yna hefyd ysgubor wair, gweithdy, ysgubor Iseldireg ac elor buwch, y gellir eu defnyddio i gefnogi unrhyw weithgaredd ffermio masnachol newydd.
Rydym am redeg y fferm fel busnes sy’n cwmpasu bioamrywiaeth yn llawn ar draws ein tiroedd pori a’n coetiroedd, ac rydym yn awyddus i drafod trefniadau masnachol posibl sy’n cyd-fynd â’n hegwyddorion natur-gyfeillgar.
Amcanion y fferm
Mae ein hamcanion fel a ganlyn:
- Ffermio adfywiol: canolbwyntio ar arferion adfywiol mewnbwn isel i gynhyrchu bwyd sy'n cynnwys llawer o faetholion, gwella iechyd y pridd, gwella gwasanaethau ecosystem a hybu bioamrywiaeth.
- Coedwigaeth gynaliadwy: canolbwyntio ar gynhyrchu a phrosesu pren neu goed tân yn gynaliadwy gan ddarparu ystod eang o wasanaethau ecosystem.
- Proffidioldeb: manteisio i’r eithaf ar ein hasedau ac adnoddau presennol i ddatblygu model busnes proffidiol ar gyfer y fferm. Fel rhan o hyn, rydym yn dymuno marchnata cyfran o'n cynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr. Mae parhad ein twristiaeth werdd yn ddewisol, a bydd yn dibynnu ar ei gydweddiad â’r cynllun busnes ehangach.
- Cymuned: datblygu cysylltiadau cryf â busnesau lleol a dod yn ganolbwynt ar gyfer rhannu gwybodaeth am ffermio a choedwigaeth broffidiol a natur-gyfeillgar.
- Ethos tîm: rydym yn hyrwyddo amgylchedd gwaith cadarnhaol a chydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
Cyfleoedd
Mae gennym tua 70 erw o dir pori a 30 erw o goetir yr ydym yn dymuno eu masnacheiddio. Ar hyn o bryd mae gennym feic cwad, torrwr llwyni y gallwch eistedd arno a threlar pren, a nifer o adeiladau allanol y gellir eu defnyddio ar gyfer menter fusnes newydd. Rydym yn awyddus i edrych ar gynhyrchu cig, garddio marchnad, amaeth-goedwigaeth, cynhyrchu pren, dofednod sy’n cael crwydro’r borfa - ond rydym yn agored i fentrau eraill sy'n cefnogi ein hamcanion adfywio ymhellach. Mae gennym gronfa ddata fechan o gwsmeriaid posibl o'n menter wersylla y gellir cysylltu â nhw ar gyfer marchnata uniongyrchol.
Cymwysterau’r partner
- Rydym yn chwilio am bobl sydd ag angerdd am amaethyddiaeth adfywiol a choedwigaeth gynaliadwy ac, yn ddelfrydol, hanes o reoli.
- Rydym yn agored i weithio gyda ffermwyr newydd neu brofiadol, entrepreneuriaid amaethyddol, neu unrhyw un sydd â'r egni a'r dychymyg i ddatblygu mentrau newydd.
- Mae profiad neu awydd am farchnata uniongyrchol a marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddymunol.
- Mae busnesau fferm sydd wedi sefydlu ac unigolion yn cael eu hannog yn yr un modd i holi am wybodaeth.