Jim Ellis

jim ellis crop 130x166 0

Mae Jim Ellis (23) yn helpu ei dad i redeg y fferm wartheg a defaid ym Mhen Llŷn. Dywed fod sicrhau lle ar y Rhaglen Busnes ac Arloesedd wedi bod yn brofiad sydd wedi’i ysbrydoli.

“Mae’r rhwydweithiau a’r ffrindiau newydd yr wyf wedi’u gwneud, ynghyd â’r mentora a’r cyfarwyddyd gan arbenigwyr, wedi bod yn wych. Rwyf wedi cyfarfod cymaint o bobl fusnes sydd wedi fy ysbrydoli ac wedi rhoi ymdeimlad newydd o ffocws i mi yr wyf yn bwriadu ei roi ar waith ar y fferm ac yn rhai o fy mentrau busnes eraill.”

Ar ôl mynychu Coleg Menai, enillodd Jim le yn yr Academi Entrepreneuriaeth nodedig yn Abertawe, yn ogystal â derbyn nawdd tuag at sefydlu busnes ffotograffiaeth newydd. Ar ôl datblygu’r busnes ymhellach, ynghyd â phartner busnes, mae bellach yn rhedeg cwmni llwyddiannus sy’n arbenigo mewn ffotograffiaeth drôn a fideos ar gyfer busnesau yng Ngogledd Cymru, ochr yn ochr â’i ddyletswyddau ar y fferm. Ac mae menter busnes newydd arall ar y gweill gan Jim, gan ei fod wedi ymuno ag ymgeisydd ifanc arall ar gyfer y Rhaglen Busnes ac Arloesedd, Gareth Thomas, sy’n ffermio ger Bae Cemaes.

“Mae’r ddau ohonom yn ifanc, yn uchelgeisiol ac yn awyddus i wneud ein harian mewn marchnadoedd newydd, felly rydym wedi sefydlu menter busnes newydd ar y cyd ac yn gobeithio lansio diod egni iach newydd.” 

Dywed Jim ei fod wedi gorfod cael ei berswadio i wneud cais am raglen Academi Amaeth gan ei swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

“Roeddwn yn cymryd y byddai pawb wedi bod i goleg amaethyddol ac mai ffocws technegol fyddai i’r rhaglen yn bennaf, felly nid oeddwn yn meddwl ei bod yn addas i mi! Mewn gwirionedd, fel y mae’r enw’n ei awgrymu, roedd y ffocws ar fusnes ac arloesedd – dau faes sydd o ddiddordeb gwirioneddol i mi fel ffermwr ac entrepreneur!

“Er fy mod bellach wedi dychwelyd adref, rwyf bellach yn treulio cryn amser yn ffermio ar lawr gwlad, ac rwy’n awyddus i ddefnyddio fy sgiliau entrepreneuraidd gyda phopeth yr wyf yn ei wneud, felly mae clywed sut yr oedd busnesau ffermio eraill yn sicrhau gwell effeithlonrwydd ac elw trwy feincnodi a chadw costau i lawr wedi fy ysbrydoli i wneud pethau’n wahanol.

“Roedd y daith astudio i’r Swistir yn anhygoel, ac roedd cyfle i ddysgu o’r newydd bob munud o bob dydd. Roedd mor berthnasol siarad efo ffermwyr sy’n gweithredu y tu allan i’r UE, ac sy’n sylweddoli, er bod y wlad yn meddu ar ymreolaeth, eu bod yn dal i gael eu cyfyngu gan reolau Ewrop, oherwydd y byddai o anfantais iddynt beidio.

“Mae’n destun pryder meddwl bod y Swistir wedi dewis perthynas lle maen nhw wedi dyweddïo ond heb briodi â’r UE, tra ein bod ni yn y Deyrnas Unedig yn anelu at gael ysgariad!”