11 Mawrth 2020
Mae Rhys Griffith, ffermwr ifanc, yn datblygu fferm bîff a defaid y teulu ym Mhenisarwaun ger Caernarfon mor effeithlon a chynaliadwy ag y gall gyda chymorth ei deulu. Cafodd Rhys ei ysbrydoli gan ddawn entrepreneuraidd nifer o'i berthnasau, ac mae’n credu mai arallgyfeirio yw'r allwedd i ddyfodol cynaliadwy a phroffidiol hirdymor i bawb.
Mae Rhys, sy’n 29 oed ac wedi ennill gradd mewn amaethyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, eisoes yn dilyn ôl troed ei ddiweddar daid a'i dad, a fu farw yn 2016.
"Rwyf bob amser wedi ystyried busnes law yn llaw â ffermio gan fod gan fy nhaid a fy nhad ddawn entrepreneuraidd.
"Roedden nhw'n wŷr busnes llwyddiannus yn ogystal â ffermwyr da ac roedd y ddau ohonyn nhw’n hoff o ddangos ceffylau gwedd mewn sioeau, felly rwyf wedi cael cyfle gwych i ddysgu llawer ganddyn nhw."
Yn 2017, cymerodd Rhys ran yn rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth, a dywed fod y profiad wedi profi iddo fod ganddo'r un nodau, ysgogiad a brwdfrydedd dros fusnes ag yr oedd ei deulu wedi'i ddangos flynyddoedd yn ôl.
"Trwy gymryd rhan yn yr Academi Amaeth, a oedd yn cynnwys nifer o ymweliadau ysbrydoledig ac addysgiadol iawn â busnesau fferm yn y DU a'r Swistir, cefais ymdeimlad newydd o hyder a ffocws, sgiliau busnes newydd a rhwydwaith newydd o unigolion a mentoriaid o'r un anian a wnaeth fy annog i wireddu fy nodau fy hun."
Roedd gan daid Rhys barc carafanau llwyddiannus ar ran o’r fferm yn y 1950au, a werthwyd yn 1980, tra bod ei hen daid yn berchen ar lawnt fowlio, sinema, siop bethau da ac efallai'n bwysicaf oll, y car mawr cyntaf yn y pentref!
"Roedd fy nhad bob amser yn hoffi ceir hefyd a dyna sut y cychwynnodd y busnes llogi car priodas.
"Yn ddiweddarach penderfynodd arallgyfeirio ymhellach drwy gychwyn cwmni cyfarwyddwyr angladdau annibynnol, gan ddatblygu'r busnes i gynnwys gwneud cerrig beddi.
"Cyn iddo farw, daeth cyfle i brynu busnes saer maen, y prif gwmni oedd yn cystadlu yn ein herbyn. Erbyn hyn rydym yn dal i redeg y busnes ar y cyd â'r busnesau teuluol eraill."
Mae Rhys yn credu’n gryf mewn manteisio ar wasanaethau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio, a diolch i’r cyfleoedd hynny mae wedi gwella ei reolaeth o’r borfa a chynyddu cynhyrchiant a phroffidioldeb y fenter da byw. Ochr yn ochr â hyn, yn benderfynol o gadw'r traddodiad teuluol i fynd, yn ddiweddar prynodd gartref nyrsio lleol gyda’r bwriad o’i droi'n ffrwd newydd o incwm drwy ddarparu llety pwrpasol ar gyfer ymwelwyr.
Ym mis Ionawr eleni, enillodd Rhys fwrsariaeth gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i fynychu Cynhadledd Amaeth fawreddog Rhydychen. Trwy’r profiadau a gafodd gyda'r Academi Amaeth cafodd hyder i wneud cais a gwnaeth argraff dda yn y cyfweliad. Mae hefyd wedi cael ei ddewis yn un o 50 o ffermwyr, o blith mwy na 400 o geisiadau, i gymryd rhan yn Rhaglen Ffermwyr y Dyfodol Tesco eleni.
"Mae cymaint o gyfleoedd gwych wedi dod i'm rhan ers i mi gymryd rhan yn yr Academi Amaeth, ac er ei bod yn anodd gadael y fferm a'r busnesau weithiau, rwy'n annog unrhyw un sy'n bwriadu gwneud cais, i fynd amdani cyn gynted ag y gallant.
"Mae'n brofiad na ddylid ei golli."
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer Rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth a'r Rhaglen Iau, menter ar y cyd â CFfI Cymru (ar gyfer y rhai rhwng 16 a 19 oed) ar agor tan 11:59 dydd Mawrth, 31 Mawrth 2020.
Am ragor o wybodaeth, i glywed profiad ymgeiswyr blaenorol o'r rhaglen ac i lawrlwytho ffurflenni cais, cliciwch yma.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.