Academi Amaeth
Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac entrepreneuriaid
Mae’r rhaglen datblygu personol blaengar ac arloesol hwn bellach yn 12 oed gydag union 300 o gyn aelodau.
Mae’r Academi Amaeth, sy’n darparu rhaglen lawn o hyfforddiant, mentora, cymorth ac arweiniad dros 3 sesiwn preswyl ddwys a sesiynau rhithiol ychwanegol, yn cynnwys 2 elfen benodol:
- Academi Amaeth – ar gyfer unigolion dros 21 oed ac wedi ei hanelu at gynorthwyo ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arloeswyr arloesi’r byd amaeth yng Nghymru
- Academi yr Ifanc - wedi ei hanelu at gynorthwyo pobl ifanc rhwng 16 a 21 mlwydd oed sy’n gobeithio dilyn gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiant bwyd neu amaeth.
Cliciwch ar y dolenni isod am fwy o fanylion am y rhaglenni.
Dyma rai profiadau o gyn-aelodau blaenorol yr Academi Amaeth:
Mae Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu mewn cydweithrediad â phrif sefydliadau amaethyddol eraill yng Nghymru sy'n ein cefnogi i chwilio am unigolion deinamig, brwdfrydig ac uchelgeisiol sy’n gallu gwneud cyfraniad at ein diwydiannau ffermio, coedwigaeth a bwyd.
Maen nhw’n cynnwys:
- Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CFAC)
- NFU Cymru
- Undeb Amaethwyr Cymru (UAC)
- Cymdeithas y Tirfeddianwyr (CLA Cymru)
- CFFI Cymru