Edward Thomas Jones

Yn 2018, penderfynodd yr academydd a ffermwr rhan amser adnabyddus o Ynys Môn, Dr Edward Thomas Jones, ymgeisio am le yn yr Academi Amaeth, rhaglen datblygiad personol arobryn Cyswllt Ffermio, ac mae’n disgrifio’r profiad fel un unigryw sydd wedi cyfoethogi ei fywyd.

Ochr yn ochr â’i fywyd fel darlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bangor, lle mae Dr Jones (41) wedi bod yn cynghori llywodraeth y DU a llywodraeth Cymru yn ymwneud ag ystod eang o brosiectau a mentrau, mae’n byw ac yn gweithio’n rhan amser ar y fferm bîff a defaid teuluol ar Ynys Môn. Ar ôl dychwelyd i fyw ar y fferm, bu’n adnewyddu tŷ fferm ei hen nain a thaid, ac erbyn hyn, ef yw’r bedwaredd genhedlaeth i fyw yno.

Felly, pam oedd Edward yn teimlo’r angen i ddatblygu ei yrfa ymhellach?

“Roeddwn i’n gwybod y byddai cymryd rhan mewn rhaglen ddatblygiad personol mor unigryw yn rhoi cyfle i mi weld y broses o wneud penderfyniadau, ynghyd â darparu cyswllt gyda gwneuthurwyr polisi sydd â chyfrifoldeb i bennu dyfodol y diwydiant amaeth a’r economi wledig yng Nghymru,”  meddai Dr Jones.

Roedd ei CV eisoes yn drawiadol, wedi iddo gwblhau gradd BA mewn Economeg a Mathemateg, gradd Meistr mewn Bancio a Chyllid a PhD mewn Economeg. Mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi rheolaeth o fewn y diwydiant bancio ac mae’n meddu ar gymwysterau proffesiynol gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig a’r Gymdeithas Ystadegau Frenhinol. 

Ond mae Dr Jones  yn nodi mai ei brofiad fel cyn-aelod o’r Academi Amaeth a roddodd yr hyder a’r sgiliau iddo chwarae rôl fwy sylweddol yn y diwydiant y mae mor frwdfrydig drosto i ymgeisio am Ysgoloriaeth Nuffield. Nid yw’n syndod bod ei gais Nuffield wedi llwyddo’r tro cyntaf, ac oni bai am y pandemig Covid 19, a rwystrodd ei daith i America ac Ewrop y llynedd, byddai bellach ar y trywydd iawn i gwblhau ei draethawd hir ar arloesi a thechnoleg mewn amaeth

Pam astudio’r pwnc hwn? Unwaith eto, mae’n nodi bod yr Academi Amaeth wedi ei arwain ar daith o ddarganfod, datblygiad proffesiynol, ac efallai’n bwysicaf oll, o gwrdd â ffrindiau a mentoriaid newydd, ac mae’n dal i fod mewn cysylltiad gyda nifer o’r rhain yn rheolaidd. Fe wnaeth rhai ohonynt ei gynorthwyo i gyflwyno ei gais!

“Yn 2018, ynghyd â’r criw o ymgeiswyr eraill yr Academi, cawsom gyfle i gwrdd ag unigolion ysbrydoledig a dylanwadol yng Nghymru, y DU ac ym Mrwsel. Cawsom y cyfle i fynychu cyfarfodydd yng ‘nghoridorau pŵer’ wrth i weinidogion a gwneuthurwyr polisi roi eu barn ar ddyfodol y diwydiant yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr UE.

“Roedd yn adeg wych i allu bod yno, ac yn fraint i gael cyfarfod â chymaint o bobl mor ddeallus; o’r rhai a oedd yn arwain ein diwydiant i’r rhai a oedd yn gweithio ar lawr gwlad, ac rydw i’n dal i werthfawrogi barn a chyfeillgarwch y bobl yma hyd heddiw.

“Rhoddodd yr Academi Amaeth gyfle unigryw i mi, a byddem yn cynghori unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol amaethyddiaeth, ein cymunedau gwledig a phroffesiynoli ein diwydiant i ymgeisio.”