Branwen Miles
Mae Branwen Miles (25) yn gyn aelod o ddosbarth 2017 o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, ac yn siaradwr Cymraeg a Ffrangeg rhugl. Cafodd ei phenodi’n ddiweddar fel Swyddog Prosiect gan y Sefydliad Perchnogion Tir Ewropeaidd ym Mrwsel. Fel rhan o’r swydd, bydd angen iddi ymweld ag ardaloedd gwledig ledled Ewrop i hybu ystod o brosiectau yn ymwneud ag amaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig sy’n cael eu hariannu drwy gronfeydd Ewropeaidd.
Magwyd Branwen ar fferm laeth organig 310 erw’r teulu ger Hwlffordd, wedi i’w rhieni, sy’n ffermwyr cenhedlaeth gyntaf, symud o Geredigion ar ddiwedd y 90au. Mae hi wrth ei bodd yn mynd adref, mae’n mwynhau cynnig help llaw gyda buches y teulu o 120 o wartheg, ac mae ganddi ddiddordeb mawr yng nghynllun y teulu i drawsnewid i odro robotig. Roedd ei thad, Dai, yn un o aelodau cyntaf yr Academi Amaeth, ac yn llysgennad brwd pan soniodd Branwen am ymgeisio yn wreiddiol!
Bu Branwen, a fu’n gweithio fel ymgynghorydd polisi gyda CLA Cymru cyn ei swydd bresennol, yn astudio gwleidyddiaeth ryngwladol a Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a oedd yn cynnwys blwyddyn yn astudio yn Strasbwrg. Mae gweithio dramor wedi bod yn freuddwyd iddi erioed.
“Mae’r Academi Amaeth yn rhwydwaith gwych o gefnogaeth, lle mae syniadau a chyngor yn cael eu rhannu’n barod iawn, a lle mae ffrindiau oes yn cael eu gwneud – rydym ni’n dal i ddefnyddio ein grŵp Whatsapp!
“Pan fo eraill yn rhoi ffydd ynddoch chi, rydych chi’n dechrau credu yn eich gallu eich hun a sylweddoli bod angen i chi fanteisio ar unrhyw gyfleoedd a ddaw, hyd yn oed os mae hynny’n golygu mynegi eich barn yn onest ar brydiau.
“Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n awyddus i weithio ym Mrwsel ond gyda Brexit, mae’n bosibl na fyddai’r cyfle hwnnw’n digwydd eto. Pan ddaeth y cyfle, rwy’n sicr mai’r hyder a gefais drwy’r Academi Amaeth a wnaeth i mi fanteisio arno!”
“Roeddwn i’n gwybod erioed fy mod i eisiau gyrfa lle’r ydw i’n rhan o’r agwedd polisi amaethyddol yn hytrach na ffermio ar lawr gwlad, ond mae fy nghysylltiadau parhau sy’n Academi Amaeth a’r fferm deuluol yn golygu nad yw’r caeau a’r dom da byth yn rhy bell i ffwrdd!”