.

“Mae bod yn rhan o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio wedi bod yn brofiad ysbrydoledig, ac fe fyddem yn annog unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant amaeth, bwyd neu goedwigaeth i ymgeisio - bydd yn newid y ffordd yr ydych yn meddwl ac yn gweithio,” meddai Aled Wyn Davies, sy’n byw gartref ar y fferm bîff, defaid a llaeth 350 erw deuluol ger Llangadog, Sir Gâr.

Lansiwyd y rhaglen ddatblygu proffesiynol arloesol hon yn 2012 gan Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiadau Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen bellach yn nesáu at ei phedwaredd flwyddyn, a gyda bron i 80 o gyn aelodau, mae'r Academi Amaeth yn cynnwys tair elfen ar wahân. Cafodd Aled ei ddewis fel un o’r ymgeiswyr cyntaf ar gyfer Rhaglen yr Ifanc, menter ar y cyd gyda CFfI Cymru. Mae Rhaglen yr Ifanc ar gael ar gyfer unigolion rhwng 16 a 19 mlwydd oed sy’n gobeithio gweithio yn y diwydiant bwyd, ffermio neu goedwigaeth. Mae’r rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn anelu at ddatblygu a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr, ac mae'r rhaglen Busnes ac Arloesedd yn cynnig datblygiad busnes a phersonol i gynorthwyo i ymateb i'r her o ffermio yn y dyfodol. 

Mae’r tair rhaglen yn dod â rhai o bobl mwyaf addawol y diwydiant amaeth yng Nghymru heddiw ynghyd, gan roi’r ysbrydoliaeth, yr hyder, y sgiliau a'r cysylltiadau sydd arnynt eu hangen i fod yn arweinwyr gwledig y dyfodol, yn bobl fusnes proffesiynol ac yn entrepreneuriaid.

Mae Aled, sydd bellach ar ei flwyddyn olaf yn astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr yn dweud fod yr hyder a’r sgiliau newydd a ddatblygodd trwy Academi Amaeth, Rhaglen yr Ifanc, wedi’i gynorthwyo i ennill teitl Aelod Iau'r Flwyddyn CFfI Cymru.

“Mae’r Academi Amaeth wedi bod yn newid byd i mi. Mae’r bobl wnes i eu cyfarfod a’r rhai fu'n fy mentora wedi dysgu i mi fod unrhyw beth yn bosib os oes gennych hyder i gredu ynddoch chi eich hun a’ch gallu, a pharodrwydd i ddysgu am ddulliau newydd neu wahanol o weithio, ynghyd â digon o uchelgais."

“Roedd clywed o brofiad personol ffermwyr oedd â’r hyder a’r dewrder i ymchwilio i farchnadoedd newydd, i gyflwyno dulliau newydd o weithio neu fuddsoddi mewn mentrau newydd, yn agoriad llygad i mi. Fy uchelgais yw dychwelyd adref i weithio ar y fferm deuluol, ond rwy’n teimlo fy mod yn gallu gwneud cyfraniad mwy deallus a hyderus wedi mi gyflawni'r Academi ac rwyf wedi dysgu gan y rhai sydd wedi cael profiad pan oeddent yn ifanc."

"Er fy mod wedi mwynhau siarad cyhoeddus erioed, a bod CFfI wedi rhoi cyfleoedd gwych i mi, fe roddodd yr hyfforddiant cyfryngau a dderbyniais trwy’r Academi Amaeth gyfle i mi fireinio’r sgiliau hynny. Cawsom gyfle i ddefnyddio’r holl sgiliau yn ystod ein taith astudio i’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, lle buom fel grŵp mewn sefyllfa lle bu’r Comisiynydd Amaeth, Phil Hogan, ynghyd â nifer o Aelodau Seneddol Ewropeaidd eraill sy’n llywio’r agenda amaethyddol yng Nghymru heddiw, yn holi ein barn.”

Eglurodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig Menter a Busnes, fod fformat yr Academi Amaeth o gynnig tri chyfnod astudio byr ond dwys, a hynny fel arfer dros benwythnos, bellach wedi profi'n ddefnyddiol iawn o ran arwain y ffordd i lwyddiant at gyfer ei gyn-aelodau. Mae gyda nifer ohonynt yn rhoi clod i'r rhaglen lawn o sgiliau a hyfforddiant cyfryngau, mentora busnes, teithiau astudio, cefnogaeth ac arweiniad am eu llwyddiant’ presennol ynghyd â chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter