.

“Mae bod yn rhan o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio wedi bod yn brofiad ysbrydoledig, ac fe fyddem yn annog unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant amaeth, bwyd neu goedwigaeth i ymgeisio - bydd yn newid y ffordd yr ydych yn meddwl ac yn gweithio,” meddai Aled Wyn Davies, sy’n byw gartref ar y fferm bîff, defaid a llaeth 350 erw deuluol ger Llangadog, Sir Gâr.

Lansiwyd y rhaglen ddatblygu proffesiynol arloesol hon yn 2012 gan Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiadau Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen bellach yn nesáu at ei phedwaredd flwyddyn, a gyda bron i 80 o gyn aelodau, mae'r Academi Amaeth yn cynnwys tair elfen ar wahân. Cafodd Aled ei ddewis fel un o’r ymgeiswyr cyntaf ar gyfer Rhaglen yr Ifanc, menter ar y cyd gyda CFfI Cymru. Mae Rhaglen yr Ifanc ar gael ar gyfer unigolion rhwng 16 a 19 mlwydd oed sy’n gobeithio gweithio yn y diwydiant bwyd, ffermio neu goedwigaeth. Mae’r rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn anelu at ddatblygu a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr, ac mae'r rhaglen Busnes ac Arloesedd yn cynnig datblygiad busnes a phersonol i gynorthwyo i ymateb i'r her o ffermio yn y dyfodol. 

Mae’r tair rhaglen yn dod â rhai o bobl mwyaf addawol y diwydiant amaeth yng Nghymru heddiw ynghyd, gan roi’r ysbrydoliaeth, yr hyder, y sgiliau a'r cysylltiadau sydd arnynt eu hangen i fod yn arweinwyr gwledig y dyfodol, yn bobl fusnes proffesiynol ac yn entrepreneuriaid.

Mae Aled, sydd bellach ar ei flwyddyn olaf yn astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr yn dweud fod yr hyder a’r sgiliau newydd a ddatblygodd trwy Academi Amaeth, Rhaglen yr Ifanc, wedi’i gynorthwyo i ennill teitl Aelod Iau'r Flwyddyn CFfI Cymru.

“Mae’r Academi Amaeth wedi bod yn newid byd i mi. Mae’r bobl wnes i eu cyfarfod a’r rhai fu'n fy mentora wedi dysgu i mi fod unrhyw beth yn bosib os oes gennych hyder i gredu ynddoch chi eich hun a’ch gallu, a pharodrwydd i ddysgu am ddulliau newydd neu wahanol o weithio, ynghyd â digon o uchelgais."

“Roedd clywed o brofiad personol ffermwyr oedd â’r hyder a’r dewrder i ymchwilio i farchnadoedd newydd, i gyflwyno dulliau newydd o weithio neu fuddsoddi mewn mentrau newydd, yn agoriad llygad i mi. Fy uchelgais yw dychwelyd adref i weithio ar y fferm deuluol, ond rwy’n teimlo fy mod yn gallu gwneud cyfraniad mwy deallus a hyderus wedi mi gyflawni'r Academi ac rwyf wedi dysgu gan y rhai sydd wedi cael profiad pan oeddent yn ifanc."

"Er fy mod wedi mwynhau siarad cyhoeddus erioed, a bod CFfI wedi rhoi cyfleoedd gwych i mi, fe roddodd yr hyfforddiant cyfryngau a dderbyniais trwy’r Academi Amaeth gyfle i mi fireinio’r sgiliau hynny. Cawsom gyfle i ddefnyddio’r holl sgiliau yn ystod ein taith astudio i’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, lle buom fel grŵp mewn sefyllfa lle bu’r Comisiynydd Amaeth, Phil Hogan, ynghyd â nifer o Aelodau Seneddol Ewropeaidd eraill sy’n llywio’r agenda amaethyddol yng Nghymru heddiw, yn holi ein barn.”

Eglurodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig Menter a Busnes, fod fformat yr Academi Amaeth o gynnig tri chyfnod astudio byr ond dwys, a hynny fel arfer dros benwythnos, bellach wedi profi'n ddefnyddiol iawn o ran arwain y ffordd i lwyddiant at gyfer ei gyn-aelodau. Mae gyda nifer ohonynt yn rhoi clod i'r rhaglen lawn o sgiliau a hyfforddiant cyfryngau, mentora busnes, teithiau astudio, cefnogaeth ac arweiniad am eu llwyddiant’ presennol ynghyd â chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Agrisgôp yn helpu ffermwyr defaid sy'n ceisio datblygu geneteg diadell
24 Awst 2023 Mae geneteg newydd i helpu i symud datblygiad defaid
Trosi ysgubor enfawr yn Sir Drefaldwyn yn llwyddiant ysgubol diolch i gymorth busnes gan Cyswllt Ffermio
12/07/2023 "Roedd eu gwytnwch yn amlwg iawn a'u dewrder yn talu
Mae cofnodi perfformiad yn cyflymu cynnydd genetig ac allbwn mewn diadell fynydd yng Nghymru, gyda chynnydd yn cael ei wneud ar y pen uchaf yn treiddio trwy'r ddiadell gyfan o anifeiliaid pedigri a masnachol.
25 Mai 2023 Mae Edward Williams a’i rieni, Glyn a Lynne, wedi