Jacob Anthony

Mae’r ffermwr pumed genhedlaeth, Jacob Anthony, yn gyn-aelod o Raglen yr Ifanc Academi Amaeth yn 2014.  Mae Jacob yn ffermio ar y fferm deuluol yng Nghwm Rhisga, Tondu, ger Pen-y-bont, ac fe enillodd deitl Ffermwr Ifanc y Flwyddyn y Farmers Weekly yn 2018.

Yn eu beirniadaeth, dywedodd y beirniaid fod Jacob yn frwdfrydig iawn dros gynnydd, a’i fod wedi cymryd pob cyfle i wella ar ei ddealltwriaeth, diweddaru ei systemau rheolaeth a sefydlogi ei lif arian. Dywed Jacob fod ei brofiad gyda’r Academi Amaeth wedi cyfrannu’n helaeth at ei ddatblygiad personol, ac y byddai’n argymell y rhaglen i unigolion eraill sy’n gweithio ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru.

Wedi iddo gwblhau diploma amaeth dros dair blynedd yng Ngholeg Hartpury, dychwelodd Jacob i Gwm Rhisga, gan dderbyn cyfrifoldeb llawn am y fenter ddefaid.  Mae bellach yn cadw 1,000 o famogiaid magu Lleyn x Texel, ynghyd â 300 o wartheg, gan gynnwys 110 o wartheg sugno Limousin/Charolais croes, a 10 o Wartheg Duon Cymreig Pur.

Ers dychwelyd i’r fferm deuluol, mae wedi cymryd camau i wella effeithlonrwydd a lleihau costau mewnbynnau. Fel aelod brwd o grŵp trafod defaid Cyswllt Ffermio, cyflwynodd Jacob system drin defaid newydd yn ddiweddar, sydd wedi cynorthwyo i hwyluso’r gwaith o reoli’r ddiadell. 

“Rwy’n credu’n gryf bod angen parhau i ddatblygu eich sgiliau a’ch dealltwriaeth gan mai dyna’r unig ffordd y byddwch yn datblygu eich busnes a sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o bobl cyfle i wella perfformiad.   

“Rhoddodd fy mhrofiad gyda’r Academi Amaeth hyder sylweddol i mi, ynghyd â sgiliau newydd a rhwydwaith newydd o unigolion o’r un meddylfryd a mentoriaid llawn ysbrydoliaeth.

“Byddem yn cynghori unrhyw un sy’n ystyried ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth i wneud hynny. Mae wedi bod yn brofiad arbennig i nifer ohonom, sydd wedi cynnig buddion personol ac wedi ein cynorthwyo i ddatblygu ein cymhwysedd busnes yn ogystal.”