Sioned Davies

Dewiswyd Sioned Davies fel un o aelodau cyntaf Rhaglen Iau’r Academi Amaeth pan oedd ond yn 16 oed. Magwyd Sioned ar fferm deuluol biff, defaid a chontractio ym Mhowys, ac mae wedi mwynhau bywyd cefn gwlad erioed ac wedi dal nifer o swyddi gyda’r CFfI ar lefel leol, sirol a chenedlaethol

Erbyn hyn mae Sioned yn dilyn cwrs gradd Marchnata Bwyd-Amaeth gydag Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Harper Adams, ac ar hyn o bryd mae’n treulio blwyddyn allan ym myd diwydiant fel rhan o’i chwrs. Mae ei lleoliad 12 mis ym Manceinion fel cydlynydd marchnata-amaeth ar gyfer un o brif gwmnïau manwerthu’r DU wedi rhoi golwg fewnol ar bwysigrwydd y gadwyn gyflenwi a’r prosesau sy’n digwydd o fferm i fforc. Mae Sioned hefyd yn awyddus i ddangos ei sgiliau entrepreneuraidd. Ynghyd â phartneriaid busnes ifanc newydd yn cynnwys ei brawd, mae'n gobeithio y bydd y grŵp yn barod i lansio peli cig oen newydd cyn hir.

“Roedd bod yn rhan o’r Academi Amaeth yn brofiad bythgofiadwy, nid yn unig oherwydd i mi wneud ffrindiau oes, ond hefyd y cyfle i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a syniadau busnes trwy gydol y broses.”