Carwyn Rees

carwyn rees 1 250x271

Carwyn Rees (26), syrfëwr siartredig, a mab i ffermwr o Lanymddyfri, sy’n gweithio i gwmni o syrfëwyr siartredig yn Sir Benfro, oedd yn fuddugol yn her Rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth y llynedd.  Mae Carwyn yn rhoi clod i arweiniad mentoriaid yr Academi ac anogaeth cyd-fyfyrwyr am y ffaith ei fod bellach yn datblygu ei fenter nesaf ar y fferm, sef unedau gwersylla o safon uchel ar y maes carafanau teuluol.

“Mae fy mhrofiad gyda'r Academi Amaeth wedi gwneud i mi sylweddoli y dylwn ymgymryd â heriau newydd nawr yn hytrach na'u gohirio.  O’r diwedd, rwyf wedi rhoi fy syniadau ar waith ac wedi prynu pedair uned gwersylla newydd er mwyn ehangu ar y parc carfannau presennol.   Mae gen i gynllun busnes a fydd yn fy nghadw ar y trywydd iawn gyda thargedau ariannol ac rwyf eisoes wedi symud ymlaen gyda chynlluniau i farchnata'r busnes yn barod ar gyfer ymwelwyr yr haf."