Caryl Haf Davies

Mae Caryl, aelod o Raglen yr Ifanc 2019, yn diolch i’r Academi Amaeth am ehangu ei gorwelion wrth ystyried ei gyrfa ar ôl cael cipolwg ar wahanol sectorau a llwybrau yn y diwydiant.

Ar ôl gadael yr ysgol, cwblhaodd Caryl flwyddyn o brentisiaeth ar fferm laeth yn Abergwaun cyn dychwelyd adref i weithio ar y fferm deuluol yn Sir Benfro, lle mae ei rhieni’n cadw diadell o 600 o famogiaid mynydd Cymreig a 100 o wartheg Limousin pedigri.

Mae hi wrth ei bodd yn gweithio gydag anifeiliaid, a chyn i'r pandemig daro, roedd hi’n mwynhau dangos  gwartheg Limousin mewn sioeau lleol, ond mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn peiriannau a thechnoleg fodern.

Mae’n aelod brwd o CFfI Eglwyswrw, mae hi’n mwynhau cymryd rhan mewn llawer o gystadlaethau gan gynnwys beirniadu stoc, siarad cyhoeddus a chystadlaethau ‘arddangoswyr ifanc’.

Mae’n chwaraewr hoci brwd ac yn cynrychioli’r tîm hoci merched lleol. Mae hi hefyd yn farchoges frwdfrydig ac yn ystod misoedd y gaeaf mae'n troi allan gyda Helfa Tivyside.

Dywed Caryl, er bod ganddi ddiddordeb mawr mewn geneteg, bridio stoc ac agronomeg, ei bod yn rhy gynnar i gynllunio ei llwybr gyrfa at y dyfodol, ond mae'n awyddus i ddilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth a gwneud cyfraniad gweithredol i'r diwydiant. Cyn hynny, mae hi wedi gosod ei bryd ar fynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Busnes ac Amaeth.

"Roedd bod yn rhan o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth yn brofiad mor bleserus gan ei fod wedi rhoi'r hyder i mi estyn allan, dysgu a chymryd rhan mewn gwahanol feysydd o'r diwydiant amaethyddol.

“Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, rwy'n bendant y bydd y cysylltiadau a'r cyfeillgarwch a ddatblygais drwy sesiynau amrywiol ar gael i mi alw arnyn nhw yn y dyfodol fel rhan o’m datblygiad personol."