Elin Orrells

Aelod Iau y Flwyddyn CFfI Cymru 2021 

Academi Amaeth 2020

Dysgwr y Flwyddyn Lantra ym maes Diwydiannau’r Tir 2019 

 

Mae Elin Orrells yn fyfyrwraig Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Elin, sy’n siaradwr Cymraeg, yn byw ar fferm âr a da byw gymysg y teulu yn Sir Drefaldwyn. 

Mae'n mwynhau helpu gyda'r holl stoc, mae'n cynorthwyo gyda gwaith papur y fferm ac mae wedi cwblhau nifer o gyrsiau i'w galluogi i yrru peiriannau ATV a thrin cyfarpar a pheiriannau fferm eraill yn ddiogel. Ei hantur ddiweddaraf oedd teithio i Carlisle i brynu dwy heffer Limousin pedigri, ac mae’n gobeithio rhoi AI i’r ddwy er mwyn dechrau ei buches fechan ei hun o wartheg Limousin.

Mae’n cymryd rhan weithgar ar lefel clwb a sirol gyda'r CFfI, ac mae wedi cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau, gan fwynhau’r cystadlaethau dawnsio stryd yn ogystal â siarad cyhoeddus, gan gynrychioli Sir Drefaldwyn mewn cystadleuaeth genedlaethol. 

Yn rhinwedd ei rôl fel ‘Llysgennad Chwaraeon Ifanc Arian', mae Elin wedi hyfforddi disgyblion o bob oedran mewn amryw o chwaraeon ac mae wedi helpu i drefnu digwyddiadau chwaraeon amrywiol yn yr ysgol i annog disgyblion i gymryd rhan. Cyfrannodd ei pharodrwydd i ‘gymryd rhan mewn unrhyw beth a phopeth' yn y CFfI a'i chymuned leol at ei chyflawniadau mwyaf balch. Yn 2019 enillodd Elin wobr Dysgwr y Flwyddyn Lantra ym maes Diwydiannau’r Tir yn 2019 ac yn 2021 dyfarnwyd hi'n Aelod Iau y Flwyddyn CFfI Cymru.

“Roeddwn i wrth fy modd yn rhan o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth. Dysgais gymaint gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a’r nifer o ffermwyr ifanc uchelgeisiol eraill y cefais y cyfle i’w cyfarfod ac yr wyf yn cadw mewn cysylltiad â nhw.

“Fe wnaeth yr Academi Amaeth ein helpu ni i gyd i ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni fel pobl ifanc ei wneud i helpu i sicrhau dyfodol hyfyw i amaethyddiaeth ar yr adeg bwysig hon wrth i’r diwydiant baratoi ar gyfer dyfodol sydd bellach wedi newid cymaint oherwydd Brexit, y pandemig a ffocws cynyddol y byd ar faterion amgylcheddol."