Morley Jones

morley jones crop 130x157 0

Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn brysur iawn i Morley Jones (17) sy’n byw gartref ar fferm bîff a defaid y teulu ym Mhontsenni, ond nid yw’n argoeli bod pethau’n arafu’n fuan! Nid yn unig dewiswyd Morley i ymuno â Rhaglen yr Ifanc yr Academi Amaeth, hefyd enillodd un o’r lleoliadau gwerthfawr yn yr ysgol haf yng Ngholeg Brenhinol y Milfeddygon. Dywed fod y ddau brofiad yma wedi gwella hyd a lled ei wybodaeth yn ogystal â sicrhau rhwydweithiau newydd gwerthfawr.

Mae Morley, sydd â’i fryd ar fod yn filfeddyg yng nghefn gwlad Cymru, ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer ei lefel A a’r Fagloriaeth Gymreig yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ond mae hefyd yn gobeithio y gall gyfuno ei yrfa fel milfeddyg yn y dyfodol a’i ddiddordeb mewn iechyd gwartheg bîff â’i hoffter o wleidyddiaeth a siarad cyhoeddus. Ynghyd â’i ymrwymiadau academaidd a helpu gartref, mae Morley yn aelod brwd o CFfI Pontsenni.

“Mae ffermwyr yn wynebu dyfodol ansicr wrth i ni anelu tuag at adael yr UE, ond nawr yw’r amser i bobl ifanc ganolbwyntio eu hymdrech a’u huchelgais er lles y diwydiant, a cheisio canfod ffyrdd i gyfrannu’n effeithiol at yr economi gwledig.”

Yn ogystal â chael ei ysbrydoli gan y mentoriaid a’r ffermwyr niferus a gyfarfu trwy’r rhaglen, dywed Morley ei fod yn arbennig o ddiolchgar o gael cynnig profiad gwaith yn swyddfa’r prif filfeddyg yn Llywodraeth Cymru'r gwanwyn hwn.

“Mae profiad gwaith yn un o’r elfennau mwyaf gwerthfawr ar unrhyw CV, felly rwy’n ddiolchgar iawn ac yn edrych ymlaen ato. Mae bod yn rhan o Academi yr Ifanc wedi fy helpu i werthfawrogi mor bwysig yw ehangu eich rhwydwaith, gwrando ar syniadau newydd a chael llwyfan i leisio eich barn eich hun, yn arbennig ar yr adeg bwysig honno pan ydych yn dechrau gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“Roedd ein hymweliad astudiaeth i Iwerddon yn wych. Roedd yn agoriad llygaid gweld maint un o orsafoedd ymchwil amaethyddol mwyaf Iwerddon. Mae’n bosibl cyflawni cymaint os yw’r Llywodraeth a’r diwydiant yn gweithio gyda’i gilydd mewn harmoni.”

“Rwy’n gwerthfawrogi bod yn rhaid i ffermwyr drwy’r DU gystadlu am gymorth ac adnoddau gan y llywodraeth yn erbyn nifer o ddiwydiannau eraill, ond yn Iwerddon, amaethyddiaeth sy’n cael y flaenoriaeth.  

“Roedd y ffermwyr a’r cyflenwyr Gwyddelig y gwnaethom eu cyfarfod yn dystiolaeth, fod gweithio’n agos gyda’r llywodraeth, yn sicrhau bod y manwerthwyr eisiau gwerthu cynnyrch o safon o Iwerddon a bod eu cwsmeriaid eisiau ei brynu. 

Gyda’r agwedd honno, a thrwy addysgu pawb yn y gadwyn gyflenwi yn ogystal â’r cyhoedd, gall pob un ohonom ddatblygu ein busnesau a rhoi’r flaenoriaeth ar fod y cynhyrchwyr bwyd o ansawdd mwyaf modern, mwyaf proffidiol yn y byd gorllewinol.”